Â鶹Éç


Explore the Â鶹Éç

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹Éç Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Go dda Gareth
Helynt praidd mewn eglwys

Nofel gyffrous i rai rhwng saith a deg oed


Dydd Iau, Mehefin 21, 2001

GO DDA GARETH! gan Lonna Bradley. Gwasg Carreg Gwalch. £3.95


ADOLYGIAD gan Meirion Puw Rees (12 oed)


Cyfres o straeon ydi Go Dda Gareth! am helyntion Gareth Elis a bwlis y dref.

Mae’r rheini, Dici Doran, Bili Brown a’r gwaethaf un, Huw Befis yn pigo arno yn ddyddiol. Ond cerddwch yn ofalus bois, mae Gareth yn gallu brathu’n ôl!

Bywiog ac ysgafn
Straeon digon bywiog ac ysgafn sydd yma sy’n medru bod yn ddoniol iawn ar adegau.

Mi nes i hoffi yr olygfa o Gareth yn chwalu un o gynlluniau y bwlis wrth daflu fferins atynt o’i guddfan yn y goeden.

"Plethodd y band rwber am ei fysedd yn ofalus, gan osod un o’r fferins ar y band, anelu, a thynnu’r rwber yn dyn cyn ei ollwng. Twang! Saethodd y fferins drwy’r awyr nes taro Huw Befis ar ei war."


Mae hyn yn mynd ymlaen am sbel ac yn cythruddo Huw Befis gan nad ydi o’n deall o le mae’r ergydion yn dod.

Mae yna olygfa arall pan yw Gareth yn y bath yn nhy ei nain ac mae’r gath yn syrthio i mewn i’r dwr ato wrth chwarae hefo’r swigod.

"Cafodd y ddau (Gareth a’r gath) andros o hwyl gyda’r swigod nes i’r gath neidio i fyny’n uchel ar ôl un swigen fawr a glanio ar ei phen yn y dwr gyda sblash fawr."

Cyffrous yma ac acw
Mae’n gyffrous yma ac acw hefyd ac mae yna un neu ddwy o olygfeydd felly.

Mae’r bwlis yn cornelu Gareth wrth ddrws ty ffrind i’w nain ac yn taflu cerrrig ato ac mae Gareth mewn peryg o gael ei frifo ac mae ffenestri Neli Roberts mewn peryg o gael eu torri.

Hefyd mae’n gweld dau frawd mawr y bwlis yn ceisio torri i mewn i gar ei fodryb yn y nos ac mae Gareth yn gorfod meddwl am ffordd o’u stopio.

Mae Gareth yn fachgen distaw a chlên iawn ond mae o yn cael ei hun i rhyw drafferth o hyd ac mae troeon trwstan yn ei ddilyn i bob man, wrth y llyn, yn y dref a hyd yn oed yng nghanol y nos!

Gareth sy’n cael bai ar gam am ambell i beth fel yr adeg mae’n cymryd y bai am lenwi yr Eglwys hefo defaid!

Disgrifiadau da
Yn y straeon mae yna ddisgrifiadau da, hyd yn oed ardderchog ar adegau.

Mae’r olygfa o’r defaid yn yr Eglwys yn ddoniol iawn. Mae’r defaid wedi eu dychryn ac wedi rhedeg i mewn i’r Eglwys rhwng coesau y Ficer, mae Bet Dafis ar ben y meinciau yn sgrechian a tydi Mot y ci yn dda i ddim.

"..Roedd y tair dafad wedi cyrraedd yr allor erbyn hyn, ac yn rhedeg yn wyllt o un lle i’r llall. Rhuthrodd un i fyny grisiau’r pulpud, cuddiodd un arall o dan fwrdd yr allor, ac aeth y drydedd at yr organ gan sathru ar y pedalau nes bod y swn aflafar yn llenwi’r lle."


Mae meddwl am hyn yn digwydd yn go iawn yn g’neud i rywun chwerthin.

Hawdd i'w deall
Mi nes i fwynhau y llyfr, roedd yn ysgafn a doniol hefo straeon hawdd i’w deall.

Weithiau roeddwn yn teimlo fod y ‘sgwennu yn blentynnaidd fel pan fo’r awdur yn digrifio y bwlis fel "..hogia drwg iawn."

Mae hynny yn amlwg braidd. Mae Gareth yn cael y gorau o’r bwlis rhywsut neu’i gilydd bob tro ond dim ond reit ar ddiwedd y llyfr mae o’n g’neud rhywbeth sy’n rhoi stop ar y bwlio am byth, ond fedra i ddim dweud dim mwy neu mi fydd yn difetha’r llyfr i chi….

Mi fyswn i yn dweud fod y llyfr yn addas i blant rhwng saith a deg oed.

















Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Â鶹Éç Cymru'r Byd






About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy