Â鶹Éç


Explore the Â鶹Éç

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹Éç Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Aled Islwyn Nofel
arbrofol


Ond nid gair am sâl ydi arbrofol y tro hwn

Dydd Iau, Mai 10, 2001

Am Fod Seth yn Angel gan Aled Islwyn. Gwasg Gomer £7.95 Nofel arbrofol i oedolion.

Adolygiad Beth Angel
l


Ni chyrhaeddodd Seth fel angel yn y post ond yn hytrach fel bwrn!

Peidiwch â chamddeall doeddwn i heb agor clawr y nofel pan ffurfiais y farn hon .

Yn fy marn i mae nofel sydd yn cael ei disgrifio fel "arbrawf" fel arfer yn defnyddio y gair fel esgus dros fod yn llyfr sâl, ond nid dyna’r gwir y tro hwn !

Ymgolli yn y nofel

Pan gefais fy hel gan fy ngwr i’r llofft i ddarllen y llyfr (yn debycach i dad yn fy siarsio i wneud fy ngwaith cartref) , gwnes hyn ag ebychiad ac yn ddi-fwynhad.

Dychmygwch fy syndod, rai oriau yn ddiweddarach, o sylwi imi fod ar goll yn y nofel ers oriau .

Mae hon yn nofel gyffrous. Hen air sydd yn cael ei or-ddefnyddio wrth ddisgrifio nofelau – ond y tro hwn, y gair perffaith.

Cawn hanes Seth , y prif gymeriad an-hoffus, a’i ddylanwad ar y bobl o’i gwmpas.

Pobl hunanol

Mae’r bobl mae Seth yn ei amgylchynu ei hun a nhw yn bobl hunanol, di asgwrn cefn. Camp yr awdur y tro hwn yw iddo wrth greu nifer o gymeriadau, pob un yn afiach yn ei ffordd fach ei hun, lwyddo i gynnal diddordeb y darllenwr .

Yn amlach na pheidio y ffaith i ddarllenwr glosio at gymeriad sydd yn eich siarsio i ddal ati i ddarllen . Y ffaith eich bod am ddilyn ffawd rhyw gymeriad truenus neu weld cyfiawnder mewn sefyllfa anghyfiawn.

Mae yr awdur y tro hwn wedi creu stori ddarllenadwy a chwithau’n gwirioneddol eisiau gwybod beth sy'n mynd i ddod nesaf.

Pa gynllun afiach sydd ar y gweill a pha mor isel medra o suddo ac yna ei gyfiawnhau ei hun.

Os ydych chi wedi cael llond bol ar y straeon rhamant bondigrybwyll a’r straeon ditectif bondigrybyllaf yna dyma’r nofel berffaith i chi .

Os oes beirniadaeth i’w gwneud o’r llyfr yna y diweddglo agored yw hwnnw – ond dim ond rhywun di ddychymig fydd yn cael ei siomi!

O.N Dwi’n edrych ymlaen yn barod at Am Fod Seth yn Angel 2

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Â鶹Éç Cymru'r Byd






About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy