|
|
Awdur
plant yn ofni am ddyfodol y Gymraeg
Sylwadau ysgytwol gan T. Llew Jones - 'mae'n waeth nawr nag
yn y chwedegau'
Dydd Iau, Mai 3, 2001
|
Y mae un o awduron amlycaf Cymru wedi rhybuddio y gall tranc yr iaith
Gymraeg fod yn agos iawn.
Mewn sylw ysgytwol dywedodd y Prifardd T. Llew Jones - sy鈥檔 cael ei
gydnabod fel un o feistri canu caeth Cymru - ei fod ef yn llai calonogol
ynglyn 芒 dyfodol yr iaith Gymraeg heddiw nag oedd yn y chwedegau hyd
yn oed.
Yr oedd T. Llew yn un o nifer o feirdd cadeiriol a oedd yn trafod
eu hawdlau yng Ngwyl yr Academi Gymreig yn Nhy Newydd ger Cricieth
yn ddiweddar.
A gweld yr ochr ddu i bethau a wnaeth ef mewn sylwadau ysgytwol wrth
drafod y trysor gwerthfawr sy'n perthyn i ni Gymry Cymraeg a'r perygl
o'i golli ef a'r iaith ei hun.
"Dwi'n dal i fod yn besimistaidd ac fel hen ysgolfeistr dwi wedi gweld
y graff yn mynd lawr," meddai.
"Rwy'n cofio cyfnod pan oedd pob plentyn yn fy ysgol i'n siarad Cymraeg.
Nid yn unig hynny ond o'n nhw'n Gymry cyhenid. Dwi wedi'i weld e'n
mynd lawr," meddai ar y rhaglen radio, Y Celfyddydau,
ar 麻豆社 Radio Cymru.
"Rwy'n meddwl fod yr awdl yma [sef ei awdl gadeiriol yng Nglyn Ebwy,
1958, i Gaerllion-ar-Wysg lle mae鈥檙 henwr yn cynghori鈥檙 gwr ifanc
i gadw鈥檔 glir o gaer y Rhufeiniaid] yn fwy perthnasol i'r sefyllfa
sy 'da ni heddi (nag oedd hi adeg ei chyfansoddi yn 1958).
"Mae gyda ni sianel newydd - tipyn bach o bropaganda yw hwn nawr.
Wyddoch chi mae cymaint o Saesneg a bratiaith ar y sianel honno -
rwy'n ofni yn wir dros y Gymraeg. Rwy'n ofni bod ei thranc hi yn ymyl
nawr.
"A dwi'n teimlo hynna i'r byw - a dwi'n teimlo nad oes dim byd bellach
allwn ni wneud oherwydd yn y cyfnod presennol yma mae rhywbeth mawr
wedi digwydd.
"Rwy'n dweud wrthoch chi - yn y cyfnod y sgrifennwyd yr awdl yna yr
oedden ni'n genedl a roedden ni'n poeni am Dryweryn, Adfer ar fin
cael ei sefydlu ac yr oedd Cymdeithas yr Iaith ar waith 'da ni.
" Nawr rwy'n ei hofni hi.
"Dyw'r bobol ifanc ddim gyda ni bellach. A fel yna aeth y llanc ifanc
i'r gaer ac rwy'n ofni bod ein pobol ifanc ni hefyd wedi mynd i'r
gaer."
Dros ei 85 oed erbyn hyn y mae T. Llew Jones yn un o awduron mwyaf
toreithiog Cymru gyda鈥檌 gyfraniad yn enfawr ym maes llenyddiaeth plant.
Cyhoeddodd dros gant o lyfrau i gyd yn nofelau, straeon, erthyglau
ac yn gyfrolau barddoniaeth.
Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a dyfarnwyd iddo
radd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.
|
|
|