Â鶹Éç


Explore the Â鶹Éç

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹Éç Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Beirdd Paratoi am
Steddfod y We


Annedd y Cynganeddwyr yn cynnig cerdd dafod yn lle clwy traed a genau

Dydd Iau, Ebrill 26, 2001

Fu yna erioed ddim byd tebyg o'r blaen ond gydag Eisteddfodau yr Urdd, Môn a Phontrhydfendigaid ddim yn cael eu cynnal - heb sôn am yr amheuon ynglyn â'r Eisteddfod Genedlaethol - mae gwefan "wedi llamu i’r bwlch" a threfnu e-steddfod ar gyfer y beirdd.

"Am y tro cyntaf erioed mewn canrifoedd o eisteddfota, mae dirgel ffyrdd y drefn eisteddfodol wedi eu chwalu wrth i’r trefnwyr fanteisio ar uniongyrchedd a natur ryngweithiol y we.

"Yn groes i’r drefn arferol, mae modd i bawb ddarllen y cynnyrch wrth iddo gael ei ollwng o ddwylo’r beirdd a chael cyfle unigryw hefyd i gynnig eu sylwadau answyddogol ar y cynnyrch ymhell cyn i’r beirniad swyddogol wneud ei waith," meddai llefarydd.

Gosodwyd tair cystadleuaeth i gyd ac yr oedd degau o gynigion i’w gweld ar dudalennau’r Annedd o fewn ychydig ddyddiau i lansio’r Rhestr Testunau.

Beirniad y gystadleuaeth a phrif symbylydd yr e-gwyl yw ‘Y Bilwg’, un o breswylwyr chwedlonol yr Annedd.

Dywedodd: "Unwaith eto yn ein hanes, wele’r beirdd ar flaen y gâd, ac yn arwain y genedl tuag at wlad yr addewid."

Y dyddiad cau ar gyfer yr holl gystadlaethau yw Mai 1.

Am ragor o fanylion, cysylltwch â:

yprifgopyn@cynghanedd.com (trefnydd)

ybilwg@hotmail.com (y beirniad)

Eisteddfod Powys ar y We hefyd

Eisteddfod PowysY mae gan hefyd gystadlaethau barddoniaeth arbennig ar-lein ar ei gwefan:
• Englyn,
• Limrig
• Cerdd Ysgafn yn Gymraeg 4 llinell i ddysgwyr
• Cerdd Ysgafn yn Saesneg 4 llinell i ddysgwyr.

Dyddiad cau: Ebrill 30 gan anfon ceisiadau trwy e-bost yn unig - penwythnos brysur felly!

Mwy o fanylion ar wefan yr Eisteddfod sydd wedi ei gohirio tan 2002 oherwydd clwy'r traed a'r genau.

Ei dyddiad newydd yw Gorffennaf 12 -14, 2002 gyda dyddiadau cau cystadlaethau'r Gadair, y Goron ac yn y blaen yn symud ymlaen flwyddyn.

"Nid yw y penderfyniad hwn yn effeithio ar y cystadlaethau barddoniaeth arbennig ar-lein a gyhoeddwyd ar wefan yr Eisteddfod ac atgoffir i'r beirdd sydd yn defnyddio'r Wê ac e-bost bod cyfle i gystadlu trwy'r amser ar y rhyngrwyd," meddai llefarydd.

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Â鶹Éç Cymru'r Byd






About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy