Â鶹Éç


Explore the Â鶹Éç

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹Éç Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


llyfr Bywyd yn
safnau uffern!


Cymro yn son am ei fywyd mewn carchardai tywyll du

Dydd Iau, Ebrill 26, 2001

Adolygiad o:
• Mewn Carchar Tywyll Du gan D. Morris Lewis. Cyfres Dal y Gannwyll; golygydd, Lyn Ebenezer. Gwasg Carreg Gwlach. £3.99.


Er gwaetha'r holl ganrifoedd o garcharu mae’r ddadl ynglyn â phwrpas carchar yn un sy’n dal i gael ei gwyntyllu.

Yn dal heb ei setlo gyda ffasiynau mewn trin troseddwyr yn pendilio'n gyson.

Dial a diwygio

I rai mae’r ateb yn un digon hawdd. Iddyn nhw, ffordd o ddial ar droseddwyr yw eu carcharu a’u cadw dan glo lle na allant amharu ar weddill cymdeithas.

Mae eraill, mwy eangfrydig, am i garcharau fod yn sefydliadau diwygio yn gyntaf gan ddefnyddio dealltwriaeth a chydymdeimlad i weddnewid troseddwyr

Y drefn ym Mhrydain yw ceisio rhyw le canol rhwng y ddau safbwynt - cyfuno’r awydd naturiol i gosbi a dial a’r duedd llai greddfol i ddiwygio.

Yn aml, dydi llwybr y diwygwyr ddim yn un hawdd wrth iddyn nhw gael eu cyhuddo o fod yn feddal, gwangalon a rhy oddefol o droseddwyr. Pa mor aml, ydym ni’n clywed y feirniadaeth nad yw carcharau y dyddiau hyn ddim amgen na gwersyll gwyliau?

Diddordeb arbennig

Yn wyneb safbwyntiau o’r fath bydd diddordeb arbennig mewn llyfr sydd newydd ei gyhoeddi gan gyn swyddog carchar.

D. Morris LewisMae teitl cyfrol D. Morris Lewis yn y gyfres Dal y Gannwyll dan olygyddiaeth Lyn Ebenezer yn addas iawn, geiriau’r emynydd, "Mewn Carchar Tywyll Du."

Ni chredaf y byddwn yn gwneud unrhyw gam a’r awdur trwy ei ddisgrifio yn fwy o swyddog traddodiadol nag yn un o’r to newydd mwy rhyddfrydol.

Dyna awgrym holl naws y llyfr a diau y bydd ambell un mwy eangfrydig yn gwrido braidd wrth rai o’r sylwadau.

Gallai’r awdur, fodd bynnag, ateb yn ôl trwy ddweud ei bod yn hawdd i rai heb brofiad uniongyrchol o garcharau a charcharorion siarad!

Rwyf yr un mor sicr y byddai D. Morris Lewis yn bersonol yn ei ddisgrifio ei hun fel realydd yn hyn o beth yn hytrach nag yn hen ffasiwn.

Yn sicr, ni ellir ei gyhuddo o edrych ar y byd trwy sbectol rosliw. Dysgodd oes o brofiad iddo beidio a gwneud hynny yw un neges yn y gyfrol.

Llawn o bobl annymunol a pheryglus

Mae’n ei gwneud yn glir fod carcharau yn llawn o bobl annymunol - a pheryglus, yn aml.

"Cawsom bob un bastwn, chwisl a chadwyn , allweddi, ynghyd â llawlyfr rheolau a gorchmynion. Dynoda’r pastwn ein bod mewn lle peryglus ac fe wnâi’r chwisl ein hatgoffa y byddai arnom, o bryd i’w gilydd, angen help," meddai yn gynnar yn y gyfrol.

Mae’n manteisio ar y cyfle i wneud y pwynt hefyd:
"Cred y cyhoedd mai dim ond un pwrpas sydd mewn carcharu, sef diwygio’r troseddwr. Ond fedrwch chi ddim diwygio rhywun os nad yw ef ei hun yn dymuno cael ei ddiwygio."

Bachgen o gefn gwlad hyfryd Dyffryn Teifi yw D. Morris Lewis gyda’i deulu a’i wreiddiau’n ddwfn yn ardal Llandyfriog - a nifer ohonynt wedi bod yn blismyn.

Doedd ef ddim yn ddigon tal i’w dilyn, fodd bynnag, ond wedi clywed am heddlu’r carchar "teimlwn fod yma ryw fath o her, rhywbeth gwahanol" ar ei gyfer.

'Safnau uffern o'm blaen'

Roedd y cychwyn yn ddigon â dychryn unrhyw un:

"Doeddwn i erioed yn fy mywyd wedi gweld carchar. Ar ôl curo ar y drws anferth, teimlwn fod safnau uffern yn agor o’m blaen," meddai.

Yr oedd hyn ddiwedd y tridegau pan oedd carcharau yn garcharau fel y byddai’r mwy traddodiadol yn ein plith yn dweud.

"Yn 1937, os torrai rhywun y gyfraith, roedd carchar bron yn anochel. Heddiw, mae’r gwasanaeth Prawf yn bodoli, ynghyd â dedfrydau gohiriedig, rhyddhau amodol a rhyddhau diamod. Cyn dyfodiad y dyfarniadau newydd hyn byddem yn cau carchardai ac yn agor capeli. Heddiw mae’n fater o agor carchardai a chau capeli. Mae’n rhaid fod yna wers yn rhywle," meddai gan osod y cywair ar gyfer y gyfrol gyfan.

Ond y mae’n cydnabod nad carchar yw y lle i bawb sydd yno.

"Mae carchar yn lle rhyfedd. Mae’n cynnwys llawer o garcharorion na ddylent fod yno. Ar y llaw arall mae’n cynnwys llawer na ddylent fyth gael eu rhyddhau. Ac mae llawer y tu allan a ddylai fod tu mewn."

Defnyddio'r gath

Cafodd D. Morris Lewis yrfa ddiddorol a chyffrous yn ei ddewis waith ac yn siaradwr Cymraeg yn oedd o frethyn gweddol anghyffredin fel swyddog carchar. Yr oedd hefyd, meddai, yr uwch swyddog olaf i fod yn dyst i’r defnydd o’r ‘gath’ i gosbi carcharorion.

Ffram i rwymo carcharorion ar gyfer eu chwipio". . . defnyddiais y wialen fedw ddwywaith a’r ‘gath’ unwaith. Câi swyddog a ddefnyddiai’r ‘gath’ neu’r wialen fedw hanner-coron o dâl ychwanegol. Doedd y gwaith ddim yn un yr edrychwn ymlaen ato. Ond gwyddwn pe gwrthodwn, y byddai’r llythrennau LMF yn cael eu nodi mewn coch ar ymyl f’adroddiad . . . ‘lack of moral fibre’, a byddai’n cyfrif yn erbyn rhywun."

Mewn cyfrol fer o 116 tudalen y mae’n agor cil y drws ar fyd sydd, diolch i’r drefn, yn ddieithr i’r rhan fwyaf ohonom.

Mae’n ddiddorol, a dweud y lleiaf, cael cwmni un sydd a barn bendant a diwyro am garcharau a charcharu.

A fyddwn yn cydweld a chroesawu rhai o’r safbwyntiau, sy’n beth arall ond mae’n sicr yn ddifyr darllen amdanyn nhw er bod y gyfrol yn aml yn rhy agos at yr ‘adroddiad swyddogol’ o ran arddull.

Efallai y byddai yn rhagorach cyfrol o fod wedi closio at arddull y nofel, dyweder.



Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Â鶹Éç Cymru'r Byd






About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy