麻豆社


Explore the 麻豆社

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr 'Brenin newydd y Stori Fer

Gwnaeth Mihangel Morgan lawer i ymestyn a datblygu terfynau y stori fer . . .

Dydd Iau, Ebrill 19, 2001

Adolygiad gan Aneirin Karadog:

• Cathod 芒 Chwn gan Mihangel Morgan. Lolfa.

O ran ei straeon byrion, dyma gyfrol fwyaf swmpus Mihangel Morgan, gydag ugain stori fer ynddi.

Yn ogystal 芒 swmp, mae cywreinrwydd a gwychder y straeon byrion yn rhywbeth i ryfeddu ato.

Nid oes yna yr un stori wan ac fe yrrir y darllenydd ymlaen gan yr awch i ddarllen mwy a mwy. Trist oedd cyrraedd diwedd y gyfrol a dim mwy i鈥檞 ddarllen!

Crwydro o wers rygbi

Egyr y gyfrol gyda A Dyfod Adref yn Ddigerydd, stori am dri bachgen sy鈥檔 crwydro o wers rygbi yn yr ysgol ac yn canfod hen dy diarffordd.

Camp y stori hon yw nad oes yna un digwyddiad ynddi sy鈥檔 teimlo鈥檔 gyflawn ynddo鈥檌 hun gan adael y darllenydd felly鈥檔 sychedu am fwy; yn rhwystredig, mae鈥檔 angenrheidiol darllen ymlaen.

Er bod yma nifer fawr o straeon byrion sy鈥檔 debyg o ran fformat i鈥檙 rhai a geir yng nghyfrolau blaenorol yr awdur, hynny yw, stori fer 么l-fodernaidd sydd 芒 thro yn ei chynffon, nid un felly yw鈥檙 ail stori, Camera Obscura.

Yn hon, ceir darluniau o Aberystwyth, yr Hen Goleg, y prom, glan y m么r ac ati. Ond nid traethu diflas ond yr hyn y gellir ei weld o鈥檙 tu 么l i lens Camera a geir yma.

Amlyga elfennau athronyddol i鈥檙 stori gyda鈥檙 naratif yn y person cyntaf, a鈥檙 person hwnnw (yr awdur, o bosib, ond nid o reidrwydd) yn rhoi ei hun yn sefyllfa Duw gan ddweud mai fel hyn y mae Duw yn edrych ar bawb o ddydd i ddydd ac fel hyn y gall brofi ein camweddau inni ar Ddydd y Farn.

Ond sylweddola鈥檙 siaradwr mai meidrol ydyw yntau ac ond yn forgrugyn ystrydebol arall i鈥檙 morgrug y mae鈥檔 eu gweld yn y pellter.

Fe鈥檔 hogir i feddwl yn ogystal ag awchu am wybod mwy drwy gydol y gyfrol. Enghraifft arall o鈥檙 elfen athronyddol hon yw Rhywogaethau Prin sydd mewn dull negyddol yn dangos nad ydym ni fel pobl yn cyfri dim ar y blaned hon yn y pen draw.

Serch hynny, oherwydd ein bod yn cael ein gwthio i feddwl am neges y straeon hyn, gwelir nad oes pwynt poeni am ein bodolaeth gan fod hynny yn dod 芒 gwacter ystyr.

Daw y prif gymeriad, Dr Vavasor Jones, i鈥檙 casgliad hwnnw hefyd a鈥檙 canlyniad yw ei fod yn cyflawni hunanladdiad. Mae鈥檙 neges yn glir.

Yn wir, mae鈥檙 neges yn glir ar ddiwedd pob stori fwy neu lai, gan fodloni鈥檙 darllenydd am ei fod yn derbyn atebion ac nad yw鈥檔 cael ei adael yn rhwystredig.

Uniaethu a chymeriadau

Rhywbeth arall sy鈥檔 denu sylw鈥檙 darllenydd yw fod sefyllfa鈥檙 cymeriadau - a鈥檙 cymeriadau ynddynt eu hunain - yn ennyn cydymdeimlad ac fe ellir uniaethu 芒 nhw yn aml.

Enghraifft wych o hyn yw鈥檙 stori John Williams Tresalem, John Ford, Lillian Gish a D W Griffith sy鈥檔 adrodd hanes Cymro, John Williams, a aeth i鈥檙 Amerig i chwilio am well bywyd ar ddechrau鈥檙 ugeinfed ganrif ond na chafodd fawr o lwyddiant erioed, er iddo fod yn ecstra mewn ffilm fawr, gan adael cofnod ohono mewn hanes.

Serch hynny, pan w锚l yr actores enwog, Lillian Gish, yn cerdded i lawr rhyw stryd gyda鈥檌 chwaer, nid yw hi鈥檔 ei gofio ac fe ddywed hi:
"Give him some money for a drink Dorothy - and let鈥檚 get away."

Wrth gwrs, fe geir y straeon byrion hynny sy鈥檔 nodweddiadol o Fihangel Morgan gyda thro yn nghwt y stori. Yn wir, mae tro yng nghwt ambell i stori!

Yr awdur yn siarad

Gallwn hefyd fanylu ar ddiweddglo sawl stori lle mae鈥檙 tro yn un anghyfarwydd. Yn lle bod tro confensiynol (yn null arferol Mihangel Morgan) i鈥檞 gael yn unig yn y stori, fe geir hefyd, yn y chwedl anacronistig, Sionyn 芒鈥檙 Ddraig, yr awdur, ie, yr awdur, yn ddigon annisgwyl, yn siarad 芒鈥檙 darllenydd.

Mae hyn yn hynod o effeithiol, nid oherwydd fod angen y chwistrelliad yma o ffraethineb i鈥檙 stori,( achos fod y chwedl, lle mae Sionyn yn mynd i chwilio am ddraig goch er mwyn gallu priodi tywysoges, hefyd yn cynnwys 鈥补苍补肠谤辞苍颈蝉尘蝉鈥 rif y gwlith, pethau fel ffyrnau meicrodon, ceir, pizza, gwres canolog a defnydd o鈥檙 term 鈥榗usan bywyd鈥, i gyd mewn oes lle mae pyrfyrts o gewri a gwrachod nwydwyllt yn byw!).

Mae gwreiddioldeb fel hyn mor bwysig heddiw yn ein llenyddiaeth am fod cymaint o dechnegau ac elfennau wedi eu defnyddio鈥檔 barod.

Gan fod hon yn gyfrol mor swmpus mae yma ystod eang o arddulliau gan gynnwys y rhai mwy arbrofol na鈥檙 arfer fel yr anachronistiaeth.

Yn y stori, Prologema i Ddadansoddiad o ddarn o Sacriaeg Canol, yr hyn a gawn yw dadansoddiad o Sacriaeg Canol - iaith a ddyfeisiwyd gan yr awdur - gan Y Diweddar Athro Emeritws Ceirwy L茅w镁s Ma. Dlitt (honorius causa), FBA.

Nid oes angen esbonio ymhellach mai dychanu ysgolheigion hirwyntog y mae Mihangel Morgan yma. Nid stori sydd yma fel y cyfryw ond nodiadau ysgolheigaidd (hynny yw, chwit-chwat, llawn nonsens) ar un frawddeg o Sacriaeg Canol, sef:
"TARAR脕, TARAR脕-TARAR脕 R脕 R脕鈥冒m-d冒m-d冒m![sic] Tymtyr媒mtym鈥 Tymtyr媒mtym鈥 t媒mpa, t媒mpa鈥 t媒mt媒mt媒m..[sic]"

O鈥檌 darllen, mae hon yn hynod o ddoniol ac fe鈥檌 diweddir gyda throednodiadau (i rai termau a chyfeiriadau) nad ydynt wedi eu cwblhau am fod yr Athro wedi marw!

Mae hyn eto鈥檔 gadael y darllenydd yn rhwystredig a鈥檙 unig ateb yw darllen ymlaen gan obeithio am stori fer hollol gyflawn sydd ddim am chwarae triciau bfwriadol 芒鈥檙 darllenydd.

A dyna a geir wrth gwrs gyda鈥檙 stori, Rhywogaethau Prin.

Llythyr Kate a Saunders

Nid ysgolheigion yn unig sy鈥檔 ei chael hi gan yr awdur. Ceir hefyd stori sydd wedi ei seilio ar un o lythyrau Kate Roberts i Saunders Lewis lle mae hi鈥檔 difr茂o tref enedigol yr awdur (yn rhyfedd ddigon) ac yn dweud yr hoffai chwythu Aberd芒r i鈥檙 cymylau.

Daw teitl y stori hon o Traed Mewn Cyffion, Kate Roberts am mai teitl gwreiddiol y nofel honno oedd Suntur a Chlai mae鈥檔 debyg felly, Traed o Bridd Cleilyd ydy enw鈥檙 stori.

Mae hon yn stori wych a fydd yn gwneud i bobl feddwl dwywaith am frenhines ein Ll锚n.

Rhoi ei farn trwy ddangos yr ochr arall i鈥檙 geiniog, fel petai, a wna鈥檙 awdur ac nid oes rheidrwydd I鈥檙 darllenydd i gytuno ag ef o gwbl.

Ond mae rhywbeth eironig yn y ffaith fod Kate Roberts yn codi ei phen yn rhai o straeon Mihangel Morgan gan ei bod yn gwbl deg dweud iddo ef wneud cymaint 芒 hithau o ran datblygu ac ymestyn y stori fer.

Yn wir, gwelodd esblygiad y dull hwn o sgrifennu newid chwyldroadol ers i鈥檙 awdur hwn droi at y cyfrwng.

Bron nad yw Mihangel Morgan yn frenin y stori fer, yn y Gymraeg ac yn Saesneg, erbyn heddiw.

Ymhlith y perlau eraill yn y gyfrol, ceir dychan doniol yn Recsarseis B冒c o nofel wych Caradog Prichard, Un Nos Ola鈥 Leuad gyda dau is-bennawd iddo, os ydych am wybod beth ydynt, yna prynwch y llyfr!






Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 麻豆社 Cymru'r Byd






About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy