Â鶹Éç


Explore the Â鶹Éç

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹Éç Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


llyfr Creu dryswch wrth egluro dryswch

Darganfod fod llyfr sydd i fod i'n goleuo yn un go dywyll ei hun

Dydd Iau, Ebrill 12, 2001

Robin Llywelyn gan Angharad Price. Cyfres Llên y Llenor. Gwasg Pantycelyn. £4.


Mae yna stori am ddau Gymro llengar yn trafod ar faes Steddfod nofel gyntaf Robin Llywelyn toc wedi iddo ennill y Fedal Ryddiaith.

Cyfaddefodd un iddo anobeithio wedi deg tudalen.

Bu chwerthin mawr pan gyfeirwyd at gyfaill arall a fu’n ddigon gwirion, yn eu golwg hwy, i ddal ati am ugain tudalen!

Mewn cors o ddryswch

Mae’r ymateb a fu i Seren Wen ar Gefndir Gwyn a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1992 yn rhan o chwedloniaeth llenyddiaeth Gymraeg ddiweddar.

Wedi ei chanmol i’r entrychion gan y beirniaid a’i gwelai yn dorriad gwawr newydd y nofel Gymraeg cafodd darllenwyr cyffredin a drodd mor awchus tuag ati eu hunain mewn cors o ddryswch.

Nid dyma’r math o sgrifennu yr oeddem wedi arfer ag ef gyda’i gymeriadau afreal a’i sefyllfaoedd ffantasiol.

Ac fe ddaeth mwy o’r un peth gan yr awdur dyfeisgar hwn gyda’r beirniaid swyddogol mewn perlewyg ond llawer o ddarllenwyr eraill yn parhau mewn mewn dryswch.

Mae’n od mewn rhyw ffordd fod pobl sy’n rhan o draddodiad llenyddol a fu’n sugno maeth y abinogi yn cael cymaint o anhawster gyda’r afreal a’r ffantasiol - ond efallai nad yw hynny ond i’w ddisgwyl o gofio i’r dull o nofela yn y Gymraeg, a’i bwyslais ar realaeth, fod yn eitha digyfnewid ers dyddiau Daniel Owen.

Ein drysu wrth geisio goleuo

Dros y blynyddoedd bu trafod helaeth a chryn anghydweld parthed rhinweddau Robin Llywelyn fel llenor ac arloesydd gydag astudiaeth o’i waith gan yr ysgolhaig, Angharad Price o Brifysgol Caerdydd, y cyfraniad diweddaraf.

Ond er iddi fynd ati i geisio’n goleuo; wedi llwyddo y mae hi i sgrifennu llyfr sydd cyn anodded i’w ddeall - os nad yn anos i’w ddeall - na’r gweithiau gwreiddiol mae’n ceisio eu hegluro.

Camp, nid bechan.

Mae’n disgrifio ei chyfrol 63 tudalen fel "trafodaeth ar arwyddocaâd diwylliannol pellgyrhaeddol gwaith Robin Llywelyn hyd yn hyn."

Ac meddai:
"Gan osod ei ddwy nofel a’i gyfrol o storïau byrion yn eu cyd-destun cymdeithasol a llenyddol, bydd y gyfrol hon yn archwilio’r pegynu a fu wrth iddi gael ei derbyn gan ddarllenwyr Cymraeg cyfoes."

Yr union beth, felly, i greaduriaid fel fi a brofodd anhawster gyda gwaith un sy’n cael ei gydnabod fel llenor o bwys.

dadansoddi perthynas gymhleth

Ond mae'r gyfrol yn cynnig mwy nag astudiaeth o waith Robin Llywelyn:

"Mae gwaith Robin Llywelyn, ynghyd â’r derbyniad a gafodd ei waith, yn fan cychwyn dihafal ar gyfer dadansoddi’r berthynas gymhleth rhwng awdur, darllenydd a chymdeithas yng nghyd-destun diwylliant llenyddol cyfoes y Gymraeg," eglura.

Yr oeddwn i bob amser wedi ystyried y gyfres, Llên y Llenor, yn llusern i oleuo’r darllenydd cyffredin - cymwynas werthfawr yn achos y llenor arbennig hwn.

Y mae Angharad Price, fodd bynnag, yn cyfyngu ei thrafodaeth hi i rai sydd gyfuwch a hi ei hun o ran ysgolheictod a dysg gyda’i harddull, mae gen i ofn, yn academaidd anodd a thrymlwythog o derminoleg anghyfarwydd.

Ac mae ei thuedd i gyfeirio wrth fynd heibio at fyrdd o feirniaid llenyddol ac ysgolheigion eraill yn ymylu ar fod, ar adegau, yn hunan barodi o'i harddull ei hun.

A hithau’n ysgolhaig eang ei gwybodaeth, diau y gall y gyfrol hon fod yn fan cychwyn trafodaeth ddwys mewn colegau ac ymhlith ysgolheigion - o’u safbwynt hwy bydd yn ychwanegiad buddiol at - ac yn grynhoad gwerthfawr o’r drafodaeth a fu hyd yn hyn.

Ymdrin a sawl agwedd

Mae yn ymdrin a sawl agwedd o sgrifennu Robin gan gynnwys ei ddefnydd diddorol ac arloesol o iaith lenyddol a’i dechnegau naratif.

Pennod y cefais i gryn flas arni yw honno yn trafod lle breuddwydion a ffantasiau yn ei waith gan gychwyn gyda dyfyniad allweddol gan John Rowlands mai "rhyw fath o freuddwydio ydi llenydda i Robin Llywelyn."

Er bod hynny, efallai, yn ddweud yr amlwg eglura Angharad Price fod "afrealaeth fel petai’n hydreiddio" gwaith Robin Llywelyn.

". . . fe ymddengys fod mecanyddwaith breuddwydio, yn enwedig y cywasgu delweddau a’r dadleoli ymwybyddiaeth, wedi bod yn ffafriol ar gyfer menter greadigol Robin Llywelyn."

Hyd yn oed yma, mae’n mynnu defnyddio geiriau sy’n ei gwneud yn anodd i ni ddarllenwyr cyffredin ddeall be sy dan big ei chap.

Mae’n werth dyfynnu ambell un o’i brawddegau a fyddai’n dychryn brain:

"Mae cyfwerthedd epistemegol breuddwydion a ‘realiti’ o fewn ei ffuglen i’w weld yn amlwg yn y stori . . ."

"Drwy anghyfarwyddo’r berthynas gonfensiynol rhwng datblygiad rhesymegol a datblygiad amserol naratif mae Robin Llywelyn yn awgrymu un ffordd i danseilio’r metanaritifau gwleidyddol, economaidd a diwylliannol a greodd dynged yr iaith Gymraeg. Drwy danseilio amcan deleologaidd trefn resymegol-amserol naratif, tanseilir ‘trefniant ystyrlon’ naratifau eraill ein tynged ddiwylliannol."

Os da chi'n dweud.

Ond maddeued imi am feddwl hynny; ond does bosib nad oes yna ffordd haws i rywun gyda chymaint o addysg ddweud hynna.

Os yw anghyfarwyddo a dieithro yn rhan o arddull Robin Llywelyn ni ddylai hynny fod yn esgus pam y mae’r un sy’n dehongli ei waith yn gwneud hynny hefyd.

Yn hyn o beth y mae Angharad Price yn gwneud cam a’i hastudiaeth ei hun ac a Robin Llywelyn yn y pen draw - er ei fod yn awdur a wnaeth, yn ei geiriau hi, "gyfraniad hollbwysig a pharhaol tuag at adnewyddu iaith, epistemeg a gweledigaeth rhyddiaith Gymraeg ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif."

Diolch byth fod y dryswch yna wedi ei glirio.
Glyn Evans

Adnabod awdur gyda Robin Llywelyn
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Â鶹Éç Cymru'r Byd






About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy