|
|
Trefnu
priodas
- yn berffaith
Llawlyfr buddiol art gyfer poced a bag llaw cariadon Cymraeg
Dydd Iau, Mawrth 15, 2001
|
Sut i. . . Drefnu Priodas gan Bethan Mair
a Meleri Wyn James. Gwasg Gomer. £2.95.
Mae yna stori - am weinidog yn annerch mewn priodas.
Gan gyfeirio at y priodfab, dywedodd rywbeth yn debyg i hyn:
"Rwy’n cofio pan briodais i," meddai. "Yr oeddwn fel bachgen bach
wedi cael beic newydd am y tro cyntaf. Yr oeddwn i ar ei gefn o drwy’r
dydd, bob dydd."
Efallai na fyddai’r creadur wedi rhoi ei draed ynddi fel yna pe byddai’r
llyfr Sut i . . . Drefnu Priodas ar gael yr adeg honno.
O'r dyweddiad i'r mis mêl
Mae’r llawlyfr bychan 70 tudalen gan Bethan Mair a Meleri Wyn James
yn cynnig canllawiau - yn hytrach na chynghorion - ynglyn â phob agwedd
o drefnu priodas o’r ddyweddïad i’r mis mêl a’r diolch am yr anrhegion.
Ond, mae’r pâr swil ar eu pen eu hunain rhwng y cynfasau noson y mis
mêl. Er, o wybod am agweddau cyfoes, go brin y bydd llawer o barau
yn gwneud dim noson y noson honno nad ydyn nhw wedi ei wneud hyd yn
oed cyn dyweddïo!
Torri sawl dadl
Synnwyr cyffredin yw llawer o’r sylwadau wrth gwrs ond y mae’n ddefnyddiol
cael yr holl orchwylion ynglyn â threfnu digwyddiad o’r fath yn rhestr
daclus. Buddiol hefyd yw cael awgrym faint ymlaen llaw y dylid gwneud
gwahanol bethau.
Bydd y llyfr o gymorth mawr i dorri sawl dadl pwy sy’n gyfrifol am
beth - rhieni’r briodferch i dalu am ffotograffydd, trafnidiaeth,
y wledd ac ati er enghraifft ond y gwr yn gyfrifol am daliadau yn
gysylltiedig a chapel, y modrwyau a blodau i’r briodferch, y morynion
a’r ddwy fam ond nid y blodau sy’n rhan o’u haddurniadau.
Pethau'n mynd o chwith
Mae’r llyfryn yn rhagweld pethau’n mynd o chwith hefyd, achos gall
ambell i briodas chwalu cyn iddi ddod at ei gilydd hyd yn oed. Ar
adeg felly "mae’n gwrtais" cynnig dychwelyd anrhegion dyweddïo i’r
bobl a’u rhoddodd.
Os mai’r ferch sy’n torri’r ddyweddïad mae’n arferol iddi ddychwelyd
y fodrwy er nad oes raid iddi.
"Os y dyn sy’n gorffen y berthynas, byddai’n rhwbio halen yn y briw
i ofyn am y fodrwy yn ôl," meddir.
Anodd meddwl am unrhyw agwedd o briodi nad yw Bethan Mair a Meleri
Wyn James yn cyffwrdd a hwy ac er bod digonedd o’r math yma o gyhoeddiadau
ar gael yn y Saesneg bydd o fendith i sawl pâr cael cyfrol fach fel
hon wedi ei hanelu’n benodol at gynulleidfa Gymraeg ei hiaith.
Mae o faint hwylus ar gyfer poced a bag llaw er, efallai, y byddai
rhai yn hoffi hefyd gyhoeddiad mwy cylchgronol gyda lluniau o wisgoedd,
steils gwallt ac yn y blaen. Ond byddai hwnnw yn gyhoeddiad gwahanol
ac mewn peryg o ddyddio.
Mewn cyhoeddiad mwy gellid cynnwys hefyd rifau ffôn a chyfeiriadau
defnyddiol ac fe fyddwn i’n bersonol (nid fy mod a fy mryd ar briodi)
wedi mwynhau adran helaethach yn ymwneud ag anerchiadau - pe na byddai
ond i arbed trafferth i rai fel y gweinidog yn y paragraff cyntaf.
Pwnc ar gyfer cyfrol arall - ddifyr a diddorol rwy'n siwr - fyddai
sut i ddod o hyd i gariad a chyrraedd y cyflwr o ddyweddio lle mae'r
llyfryn hwn yn cychwyn.
Stori briodasol fach dda yr ydw i yn ei hoffi yw honno am gyfaill
yn gofyn i henwr dros ei bedwar ugain oed pam yr arhosodd cyhyd cyn
priodi.
Atebodd: "Wel, os byddai wedi gwneud camgymeriad a chanfod fod priodas
yn hunllef fydd dim rhaid imi ddioddef yn hir. Ar y llaw arall, os
bydd yn wynfyd mi allai dreulio fy mlynyddoedd olaf gyda gwên ar fy
wyneb."
gan Glyn Evans
|
|
|