麻豆社


Explore the 麻豆社

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Aiden Chambers Annog plant i weithredu'n herfeiddiol . . .

Awdur blaenllaw yn son am bwysigrwydd llyfrau a darllen

Dydd Iau, Mawrth 08, 2001
• Gwarth llyfrgelloedd
Gwnaed ap锚l daer gan awdur llyfrau plant blaenllaw am i鈥檙 Llywodraeth nid yn unig amddiffyn llyfrgelloedd cyhoeddus ond i鈥檞 gwella i鈥檙 fath raddau eu bod yn hyrwyddo darllen ymhlith plant..

Dr Lionel Madden, Cadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru;Yr oedd Aiden Chambers yn traddodi ei ddarlith yn un o ystafelloedd y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd y noson cyn Diwrnod y Llyfr.

Ymhlith y gynulleidfa yr oedd aelodau o鈥檙 Cynulliad Cenedlaethol, cynrychiolwyr Cyngor Llyfrau Cymru a drefnodd y ddarlith, awduron a darllenwyr.

Llythrennedd yn fwy na darllen

Byrdwn darlith Mr Chambers oedd dyletswydd y gwleidyddion i sicrhau fod pawb o'r boblogaeth yn gwbl llythrennog. Ac ychwanegodd fod gwir lythrennedd yn golygu mwy na dim ond y gallu i ddarllen.

Dywedodd fod 60 allan o bob cant o bobl gwledydd Prydain yn lled-anllythrennog, hyd yn oed heddiw.

Galwodd am wyrdroi sefyllfa o鈥檙 fath a chael gwared a hen wireb "fod y bobl sy鈥檔 gallu darllen a sgrifennu bob amser yn llofruddio y rhai sydd ddim yn gallu."

Hynny yw y duedd o fewn arweinwyr i reoli cymdeithas trwy ymddiried gwybodaeth iddynt eu hunain a chyfyngu'r hyn sydd ar gael ei rhelyw.

Llyfrau i bawb

Yn ei farn ef y mae i lyfrgelloedd cyhoeddus rhad-ac-am-ddim le canolog yn y frwydr i hyrwyddo llythrennedd gan fod sicrhau fod llyfrau ar gael i bawb yn allweddol i unrhyw ymgyrch i gael pobol i ddarllen.

Gresynai nad yw llyfrgelloedd yn cael yr arian i wneud hynny a disgrifiodd y methiant i sicrhau llyfrgelloedd gwerth chweil yn rhad ac am ddimi bawb fel "y peth mwyaf gwrth-ddemocrataidd" posib.

"Does yna ddim pwynt annog pobol i ddarllen os nad oes ganddyn nhw fynediad at lyfrau," meddai.

Ac o fewn y llyfrgelloedd hynny byddai鈥檔 rhaid hefyd wrth lyfrgellwyr plant sydd wedi eu hyfforddi yn benodol i ddiwallu anghenion plant a darllenwyr ifanc.

Disgrifiodd y llyfrgellwyr hyn fel rhai a fyddai鈥檔 gymwys "i alluogi plant i fynd i leoedd na allant fynd ar eu pen eu hunain" sydd, meddai, y disgrifiad gorau o athro da, hefyd.

Y mae yr athrawon llengar hyn yn allweddol i unrhyw lwyddiant.

"Y mae llyfrgellwyr yn fwy na phobl sy鈥檔 rhannu llyfrau y maen nhw yn warcheidwaid ein diwylliant ," meddai.

"Y mae angen y bobl hyn sydd yn arbenigwyr ar ddarllen ymhlith plant," meddai.

Adnabod eu hunain

Mewn darlith bryfoclyd ac ysgytwol ar adegau tynnodd Aiden Chambers sylw nid yn unig at bwysigrwydd llyfrau a darllen fel rhan o wareiddiad ond hefyd at nifer o bethau sydd yn mynd i annog plant a phobl ifainc ddarllen.

Yn bennaf, meddai, nid yw pobl yn troi鈥檔 ddarllenwyr oni bai fod llyfrau yn s么n am bethau sy鈥檔 berthnasol iddyn nhw yn bersonol.

"I ddod yn ddarllenydd rhaid ichi ddarganfod eich hun mewn llyfr . . . dyna pam y mae angen llyfrau yn y Gymraeg yng Nghymru," meddai.

D. H. Lawrence - yn s么n am gymdeithas lofaol y cafodd ef ei fagu ynddi - a鈥檌 trodd ef, Aiden Chambers, ei hun yn ddarllenydd meddai.

Bodoli yn y Gymraeg

Ynglyn 芒 phwysigrwydd sgrifennu yn y Gymraeg dywedodd y byddai trefn enegol o feddwl yn darfod o鈥檙 tir pe byddai sgrifennu yn y Gymraeg yn darfod.

"Nes yr ydych i鈥檆h gweld mewn llyfr nid ydych yn bodoli. Nid faint sy鈥檔 darllen sy鈥檔 bwysig ond y ffaith fod yn rhaid ichi fod yna a dydych chi ddim yno nes yr ydych mewn llyfr. Rhaid ichi sgrifennu eich straeon eich hunain," meddai.

Darllen bob bore

O fewn ysgolion galwodd am sefydlu cynllun a fyddai鈥檔 gorfodi athrawon i ddarllen yn uchel i blant bob bore. Ond nid darllen er mwyn darllen.

"Byddai鈥檔 rhaid i鈥檙 athro nid yn unig ddarllen ond hefyd gyfiawnhau ei ddewis achos os na fydd wedi meddwl am hyn bydd y system yn troi鈥檔 ffatri."

Galwodd hefyd am drefn a fyddai鈥檔 sicrhau fod pob plentyn yn cadw cofnod o bob llyfr y mae wedi ei ddarllen. Byddai鈥檙 rhestr hon o lyfrau yn fodd i athrawon newydd ddod i adnabod plant nad ydynt wedi eu cyfarfod o鈥檙 blaen.

"Gallwch adnabod plentyn ar sail yr hyn y mae wedi ei ddarllen," meddai.

Tynnodd sylw hefyd at bwysigrwydd cael darllenwyr i siarad wedyn am yr hyn y maent wedi ei ddarllen.

Dyfodol y llyfr

Trawodd nodyn gobeithiol ynglyn 芒 dyfodol llyfrau fel cyfrwng - hyd yn oed yn yr oes dechnolegol hon - ac er y byddai dyfeisiadau electronig yn cyflawni swyddogaeth rhai llyfrau proffwydodd y byddai llyfrau eu hunain nid unig yn goroesi ond yn datblygu yn union fel y goroesodd ac y gweddnewidiodd arlunio yn dilyn dyfodiad y camera.

Disgrifiodd unig bwrpas llyfr fel cyfathrebu.

"Y mae鈥檔 gyfathrebu clos a phreifat rhwng dau feddwl sy鈥檔 cyflawni rhywbeth yn y pen na fyddai鈥檙 un ohonynt wedi medru ei wneud ar eu pen eu hunain," meddai.

"Y mae celfyddyd y llyfr y ddyfais gadwriaethol fwyaf a welodd y byd erioed. Bydd yn ein hachub ac yn ein diogelu," meddai.

Yn gyn athro y mae Aiden Chambers yn awdur llyfrau plant yn y Saesneg ac y mae wedi disgrifio darllen fel "gweithred herfeiddiol (provocative) sy鈥檔 gwneud i bethau ddigwydd."


 
Wythnosau Blaenorol:


Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 麻豆社 Cymru'r Byd






About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy