Â鶹Éç


Explore the Â鶹Éç

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹Éç Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol Antur
y ddrama

Actor Ben Hur yn tynnu blewyn o drwyn cwmni drama bro ei febyd!

Dydd Iau, Chwefror 22, 2001
Adolygiad:
• Helynt a heulwen - Hanes Cwmni Drama Llangefni 1929-1949 gan O. Arthur Williams. Gwasg Pantycelyn. £5.



Yn ei lyfr Codi’r Llen mae Hywel Teifi Edwards yn datgelu fod yna gymaint a 350 - os nad mwy - o gwmniau drama lleol ar hyd a lled Cymru ar drothwy yr Ail Ryfel Byd.

Yr oedd hwn yn beth mae o yn ei alw yn "gyfnod aur" cwmniau drama amatur yng Nghymru a’I siom fawr yn ei lyfr yw na roddwyd ar gof a chadw hanes y cyfnod cyffrous a thoreithiog hwnnw yn hanes y theatr Gymraeg.

Yr oedd yn benllanw rhyfeddol achos wedi’r Ail Ryfel Byd yr awgrym yw i nifer y cwmniau bychain a lechai gynt ym mhob twll a chornel o’r wlad ostwng i gyn lleied a rhyw 30.

Pan ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol â Môn yn 1999 un gystadleuaeth oedd, olrhain hanes cwmni drama amatur Cymraeg.

Ffrwyth y gystadleuaeth honno yw Helynt a Heulwen sy’n adrodd hanes Cwmni Drama Llangefni - dafliad carreg o faes yr Eisteddfod honno fel mae’n digwydd - rhwng ei sefydlu yn 1929 a chychwyn cyfnod y trai yn 1949.

Yr awdurAnodd meddwl am neb mewn gwell sefyllfa i lunio cyfrol o’r fath nag O Arthur Williams gan fod ei ewythr, Owen Williams a’i dad, Edward Williams, ymhlith hoelion wyth y dyddiau cynnar hynny.

Yr oedd Edward Williams - Ned Siop Gray yn ardal Llangefni - yn wr tra adnabyddus ar lwyfannau ym Môn; yn actor, yn adroddwr ac yn arweinydd Eisteddfodau poblogaidd ac, yn fwy perthnasol i’r mater dan sylw, yn gynhyrchydd drama a gipiodd yr ail wobr bum gwaith yn olynol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Rai blynyddoedd yn ôl enillodd wobr goffa Syr T. H. Parry-Williams am ei wasanaeth i’w gymdeithas.

Cysylltiad a'r Henllys Fawr

Mae i’r cwmni gysylltiadau ag unigolion diddorol eraill nid lleiaf W. J. Griffith awdur un o glasuron sgrifennu doniol yn y Gymraeg, Storiau’r Henllys Fawr.

Ar ei fferm, yr Henllys Fawr yn y Berffro, yr oedd gan Griffith gwmni drama llewyrchus.
Difyr olrhain y cysylltiad hwn a darllen y dyfyniadau o Straeon Henllys Fawr am weithgarwch cwmni drama pentrefol sy’n amlwg wedi ei sylfaenu ar y gwir.

Drama o’r enw Jac Martin a berfformiwyd gyntaf ond doedd o ddim yn gychwyn rhy addawol gyda chymaint ag ugain o actorion a 18 o olygfeydd yn y ddrama a’r llen, yn ôl papur lleol, "yn mynd i lawr ac i fyny yn aml, a thrwy hynny amser yn cael ei golli wrth newid cymaint. . ."

Ond mae’n ychwanegu’n rasol: "Am yr actio, nid oedd yr un sâl ymhlith yr ugain."

Bwrlwm ledled Cymru

Disgrifir llewyrch y cwmni gyda manylder a fydd, mae’n debyg, o fwy o ddiddordeb i ddarllenwyr yn yr ardal nag i rai drwy Gymru benbaladr ac yn hynny o beth llyfr lleol yw Helynt a Heulwen.

Ond y mae hefyd yn ddarlun o weithgarwch y gellir ei gymhwyso i adlewyrchu bwrlwm drama mewn ardaloedd eraill ledled Cymru.

Yn sicr y mae’n ddarlun o ymroddiad heb ei ail ymhlith actorion amatur ac hefyd o gefnogaeth y rhai a’u cyflogai:

"Mae’n anodd dirnad heddiw sut y gallasai cyflogwyr y dref ryddhau aelodau o’r cast o’u dyletswyddau gan mor aml y byddai’r cwmni’n perfformio yn ystod yr wythnos. Mae gan y ddrama Gymraeg le i ddiolch i bobl busnes y cyfnod. A beth am y gwyr, y gwragedd a’r plant ‘amddifad’?"

Mynd ar goll

Yr oedd rhai o’r teithiau yn rhai pell gyda’r cwmni ar ei ffordd i Lundain yn mynd ar goll yn y tywyllwch yng nghyffiniau Stratford - "roedden ni a’r bws ar fuarth ffarm yng nghanol y wlad," eglurir.

Yr oedd amcanion y cwmni yn gymeradwy ac yn aruchel:

"Ein nod ni yw codi safon y ddrama yng Nghymru a chynorthwyo cwmniau eraill llai i ddod ymlaen," meddai Edward Williams wedi un gystadleuaeth pryd y dychwelyd ugain punt o’r wobr i’r diben o’u rhoi i helpu cystadleuydd anfuddugol.

Nid oedd brawdgarwch o’r fath yn teyrnasu gydol yr amser fodd bynnag gyda’r cythraul drama yn codi ei ben o bryd i’w gilydd.

Dan lach Hugh Griffith

Difyr i’r darllenydd - ond chwithig i’r cwmni ar y pryd - yw hanes yr ymrafael ag un o wyr Môn a enillodd ei blwyf fel un o actorion mwyaf blaenllaw Prydain, Hugh Griffith a enillodd Oscar ymhen blynyddoedd wedyn am ei ran yn Ben Hur.

Yn un o dri beirniad Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn beirniadodd yn hallt nid yn unig y cwmni drama ond y ddrama a berfformiwyd ganddynt gan greu storm a sgubodd drwy’r wasg gyda Dewi Llwyd Jones, Trefnydd Drama Môn, yn disgrifio Hugh Griffith yn "fethiant" fel beirniad drama er cystal actor ydoedd.

Gan gyfeirio at y ddau feirniad arall, Haydn Davies a Kitchener Davies, meddai;

"Gwnaethant hwy eu rhan heb unrhyw stremp nag arddull chwyddedig, yn dawel ac effeithiol."

Yn ddiamau mae'r pwyslais ar yr "hwy".

Actio Lluest y Bwci yn 1945 - Charles Williams yw yw'r cyntaf ar y dde yn y rhes flaen.Ond er cymaint yr ergyd gan un o hogia ni dal ati wnaeth yr actorion a bu cystadlu a sawl llwyddiant wedyn.

Dros y blynyddoedd bu gan actorion a wnaeth eu marc gysylltiad a'r cwmni; Ifan Gruffydd y gwr o Baradwys i’w weld yn un llun, Charles Williams mewn un arall.

Troeon trwstan

Nid yw’r llyfr heb ei straeon am droeon trwstan gyda gwedd newydd i'r hen ystrydeb i beidio ag actio gydag anifeiliaid a phlant:

"Byddai’n rhaid ei nôl (ci a oedd yn rhan o ddrama) cyn pob perfformiad ac, fel arfer, T. D. Roberts fyddai’n gyfrifol amdano. Yn aml iawn mi fyddai hi’n berfeddion nos ar T.D. yn mynd a fo yn ôl yn ddiogel. Wedi ei ddychwelyd byddai’n rhaid i T.D. gerdded dros ddwy filltir i’w gartref ei hun. Ni fu sôn am gi mewn drama wedyn," meddir.

Trafferth ar lwyfan

Ond weithiau gall actorion eraill fod yn fwy o drafferth nag unrhyw anifail.

"Mewn un olygfa ‘roedd Mari yn gorwedd ar y llwyfan mewn ‘hysterics’ gan gicio ei choesau a sgrechian. Plygodd Matthew drosti a dweud dan ei wynt, ‘Coda i fynny (sic) y datan ddiawl, ‘rwyt ti wedi strancio digon ‘rwan.’

" Yn anffodus, fe’i clywyd gan bawb a methwyd â mynd ymlaen am amser o ganlyniad i chwerthin y gynulleidfa."

Gall, fe all llwyfannu drama fod yn ddrama ynddi ei hun ar adegau!



 
Wythnosau Blaenorol:


Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Â鶹Éç Cymru'r Byd






About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy