| |
|
|
|
|
|
|
|
Medi 2007 Rhestr Cyngor Llyfrau Cymru o'r llyfrau sy'n gwerthu orau
Yn amlwg mae Gwasg Carreg Gwalch wedi taro ar wythïen boblogaidd iawn gyda'r trydydd yn awr o lyfrau natur wedi ei gyhoeddi mewn cysylltiad â Iolo Williams.
Eisoes cyhoeddwyd gydag ef addasiad Cymraeg o un o'r llyfrau poced gorau sydd ar gael am adar a thoc wedyn cyhoeddwyd un arall tebyg am flodau gwylltion.
Yn awr, mae Llyfr Natur Iolo yn cwmpasu nid yn unig y ddau faes hwnnw ond holl gwmpas byd natur o drychfilod i famaliaid ac o goedydd i frwyn a glaswellt!
Y cyfan wedi ei argraffu ar bapur sglein gyda lluniau o'r radd flaenaf a chwta dwy neu dair brawddeg o eglurhad cryno am bopeth a ddarlunnir.
"Dyma hoff lyfr natur Iolo Williams a'i ddewis personol ef ar gyfer ei addasu i'r Gymraeg," meddir ar y clawr ac er yn £14.50 bydd yn siŵr o dderbyniad gwresog. Mae eisoes ar ben rhestr werthu y Cyngor Llyfrau ar gyfer Medi.
Cyfres newydd sydd i'w gweld am y tro cyntaf yw un ddeniadol dros ben o fonograffau gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion.
Awdur monograff am Rhy Gethin, un o gadfridogion Glyndŵr ydi Cledwyn Fychan ac y mae Dylan Iorwerth yn olrhain hanes y cymeriad rhyfeddol, John Griffith 'Y Gohebydd'.
O argraffiad cain mae'n amlwg fod llygad y cyhoeddwyr ar gasglwyr cyfresi.
A chan bori yn yr un tir mae'r wasg yn cyhoeddi llyfr gan E Wyn James yn trafod agweddau ar y portread o Owain Glyndŵr yn llenyddiaeth y cyfnod modern - Glyndŵr a Gobaith y Genedl
A chan Wasg Gomer mae cyfrol am Lyndŵr yn y gyfres Cip ar Gymru yn wythfed ar y rhestr.
Dyma'r rhestr gyflawn o werthwyr Medi:
1. Llyfr Natur Iolo, Paul Sterry. Addasiad Iolo Williams a Bethan Wyn Jones.
(Gwasg Carreg Gwalch) 9781845271312 £14.50
2. Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor Pws, Dewi Pws Morris
(Y Lolfa) 9780862439972 £3.95
3. Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor Pontshân, Eirwyn Pontshân
(Y Lolfa) 9780862439767 £3.95
4. Pwy oedd Rhys Gethin? Yr Ymchwil am Gadfridog Owain Glyndŵr, Cledwyn Fychan
(Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) 9781845120580 £6.99
5. Gohebydd yng Ngheredigion yn Ystod y Flwyddyn Fawr - Hanes John Griffith (Y Gohebydd) ac Etholiad 1868, Dylan Iorwerth
(Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) 9781845120573 £6.99
6. Rhoi Cymru'n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru, Richard Wyn Jones
(Gwasg Prifysgol Cymru) 9780708317563 £18.99
7. Glyndŵr a Gobaith y Genedl: Agweddau ar y Portread o Owain Glyndŵr yn Llenyddiaeth y Cyfnod Modern, E. Wyn James
(Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) 9781845120641 £9.99
8. Cyfres Cip ar Gymru / Wonder Wales: Owain Glyndŵr, Aeres Twigg
(Gwasg Gomer) 9781859029046 £2.99
9. Lle i Enaid Gael Llonydd ... ?, Robert M. Morris
(Clwb y Bont) 8888048596 £4.00
10. Codi'r Cwpan
(Cyhoeddiadau'r Gair) 9781859945872 £0.99
LLYFRAU PLANT
1. Dot-i-Ddot Deinosoriaid, Karen Bryant-Mole
(Dref Wen) 9781855967526 £3.99
2. Dot-i-Ddot Byd Natur, Karen Bryant-Mole
(Dref Wen) 9781855967533 £3.99
3. Un Noson Oer, M. Christina Butler
(Gwasg Gomer) 9781843238089 £4.99
4. Tractors Gwych!, Dawn Sirett
(Dref Wen) 9781855967755 £7.99
5. Hwyl Môr-Ladron: Pethau i'w Gwneud, Rebecca Gilpin
(Dref Wen) 9781855967557 £4.99
6. Owain yn Mynd i'r Ysgol, Ian Whybrow
(Gwasg Gomer) 9781843238539 £4.99
7. Llyfrau Poced: Tomos a'i Ffrindiau: Persi'n Chwarae Triciau
(Dref Wen) 9781855967700 £4.99
8. Siwan yn Mynd i Sglefrio, Ian Whybrow
(Gwasg Gomer) 9781843238096 £4.99
9. Elfed a'r Enfys, David McKee
(Dref Wen) 9781855967663 £4.99
10. Olion yn yr Eira, Mei Matsuoka
(Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) 9781845120658 £5.99
|
|
| | | | | | | | | | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹Éç Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|