麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Tegwyn Jones
Holi Tegwyn Jones, awdur Ar Dafod Gwerin
Enw?
Tegwyn Jones

Beth yw eich gwaith?
Wedi ymddeol - gynt yn aelod o staff Geiriadur Prifysgol Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yna yn y Ganolfan Uwchefrydiau y drws nesaf.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
B没m yn athro ysgol am flwyddyn yn Ystrad Mynach ger Caerffili.

O ble'r ydych chi'n dod?
O bentref Pen-y-bont Rhydybeddau, rhyw saith milltir I'r dwyrain o Aberystwyth.

Lle'r ydych chin byw yn awr?
Yn Bow Street, ger Aberystwyth.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do, yn yr ysgol gynradd. Dim atgofion dymunol iawn am yr Ysgol Ramadeg (Ysgol Ardwyn, Aberystwyth) - Seisnigaidd, a rhyw bwyslais gwirion ar wneud yn dda mewn chwaraeon. Cael eithaf hwyl ar fywyd coleg wedyn.

Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Casgliad o dros fil o rigymau gwerinol. Hynny yw, penillion y byddai'r bobl gyffredin yn eu hadrodd a'u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Rhai yn corffori coelion am y tywydd, eraill yn dangos sut y byddai mamau mewn gwahanol ardaloedd yn dysgu'u plant sut i rifo'u bysedd.

Mae casgliad pur helaeth yma o ganeuon calennig o bob rhan o Gymru, yn ogystal 芒 nifer o hen emynau cyntefig y byddai cynulleidfaoedd yn eu canu cyn bod s么n am lyfrau emynau, a rhai penillion go ryfedd a welir yma ac acw ar gerrig beddau.

Mae adran o rigymau am unigolion yma, adran am serch, am brofiad bob dydd, ac yn y blaen.

Dienw yw'r rhan fwya o ddigon, ac y mae blas y pridd yn drwm ar rai ohonynt! Ond dim byd anweddus.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Hen Faledi Ffair.
Baledi Ywain Meirion.
Tribannau Morgannwg.
Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, 1865.
Y Llew a'I Deulu (Hanes Lewis Morris yng Ngheredigion).
Anecdotau Llenyddol.
Abel Jones, Bardd Crwst.
Fy Annwyl Nai Si么n Owen (Bywyd a Gwaith nai i Lewis Morris).
Y Babi a'r Inc (Casgliad o gerddi ysgafn a gyfansoddwyd yn bennaf ar gyfer rhaglenni radio fel 'Talwrn y Beirdd ' a 'Dros Ben Llestri'.
Hefyd, rhai llyfrau I blant, gan gynnwys Stori Branwen a enillodd wobr Tir-na-n-Og yn 1997-98.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan oeddech yn blentyn?
Nid yw'n ateb gwreiddiol iawn, ond gwir iawn serch hynny - Llyfr Mawr y Plant.

Heb anghofio chwaith y gyfres Haf a'i Ffrindiau gan J. Ellis Williams, a'r cymeriadau lliwgar fel Cric-Croc y Crocodeil a Grwndi Pw!

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Mae gennyf gopi o Lyfr Mawr y Plant o hyd, a bydd y lluniau campus gan Peter Fraser yn dal i ddod 芒'r straeon am Si么n Blewyn Coch, Si芒n Slei Bach, Wil Cwac Cwac a'r lleill I gyd yn fyw i'r cof.

Pwy yw eich hoff awdur?
Mae'n gwestiwn anodd iawn, ond ar 么l ystyried pob peth, mae'n anodd curo Daniel Owen o ran ysgrifennu creadigol.

Ym myd hanes, hanes llenyddiaeth a beirniadaeth lenyddol y mae R. T. Jenkins, Thomas Parry a Hywel Teifi Edwards yn uchel ar fy rhestr.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Dim un arbennig. Llawer iawn o lyfrau wedi dylanwadu mewn gwahanol ffyrdd.

Pwy yw eich hoff fardd?
R. Williams Parry heb unrhyw amheuaeth.
Yn Saesneg, A. E. Housman.

Pa un yw eich hoff gerdd?
'Drudwy Branwen' (RWP).

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
' Ac ni bu dwthwn fel y dwthwn hwn' (RWP).

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm - The Winslow Boy (Terence Rattigan).
Rhaglen Deledu - Mastermind.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Rhaid mynd i lenyddiaeth Saesneg i gael y rhain:
Hoff gymeriad - Y Parchedig Josiah Crawley.
Cas gymeriad - Mrs ProudieY ddau i'w canfod yn nofel Trollope, The Last Chronicle of Barset.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Deuparth gwaith ei ddechrau.

Pa un yw eich hoff air?
Yn ystod y blynyddoedd y b没m yn gweithio ar y Geiriadur, trafodais gannoedd o eiriau o bob math.
B'le mae dechrau dewis fy hoff air?
Chwedl yr ymgeiswyr ar Mastermind weithiau - Pass.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Dawn gerddorol.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Cwestiwn i rywun sy'n fy adnabod yw hwn, nid i mi.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Y duedd i fod yn anhyderus, ac i ohirio gwneud pethau os na fydd dedlein.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Gwynfor Evans am ei ddycnwch a'i ddyfalbarhad pan oedd cymaint o bethau yn ei erbyn.

Ychydig iawn o'r rhai a etifeddodd ei fantell sy'n ffit i ddatod car茂e'i sgidie.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Ar daith i Lundain o Geredigion unwaith, digwyddodd Lewis Morris letya noson yn Llanfair ym Muallt ac, ar siawns ,yr oedd Howell Harris yn pregethu yno yr un noson.

Aeth i wrando arno - a byddwn wedi hoffi'n fawr bod yno i glywed beth oedd gan y diwygiwr i ddweud, gwylio adwaith Lewis Morris ( nad oedd yn hoff o gwbl o'r Methodistiaid cynnar) a gofyn am ei farn ar y diwedd.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Llywelyn ap Gruffudd (ein Llyw Olaf). "Beth yn hollol ddigwydddd y diwrnod hwnnw yn Rhagfyr 1282 ar lan afon Irfon yng Nghilmeri?
"

Pa un yw eich hoff daith a pham?
B没m yn yr India deirgwaith, ac y mae i'r wlad honno (ac yn enwedig dinas Calcutta) rhyw gyfaredd ryfedd i mi.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Bwffe oer a chlamp o samwn mawr yn y canol. Gwin gwyn i fynd gyda'r samwn, er bod yn well gennyf win coch.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Byddaf yn llunio cartwn gwleidyddol ei naws bob mis i'r cylchgrawn Barn. Peintio ambell lun. Llythrennu yn null David Jones yr artist. Casglu llyfrau o waith cartwnwyr gwleidyddol o wahanol wledydd.

Darllen - hanes a chofiannau'n bennaf. Ar hyn o bryd yn darllen cofiant i William Tyndale a losgwyd wrth y stanc am gyfieithu'r Beibl i'r Saesneg yng nghyfnod Harri VIII, ac ochr yn ochr ag ef lyfr diweddar Enid Pierce Roberts am ymdrechion William Morgan i gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg ychydig yn ddiweddarach.

Pa un yw eich hoff liw?
Coch.

Pa liw yw eich byd?
Melyn.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf i wahardd moto beics a chapiau baseball.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Dim ar y gweill ond y mae syniadau am sawl un yn fy mhen.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
"Wyddost-ti be?
" meddai Offa wrth ei wraig yn hwyr rhyw noson, "Rwy'n credu y coda i glawdd..."

Cysylltiadau Perthnasol

Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy