| |
|
|
|
|
|
|
|
Holi Meleri Wyn James Holi awdur Gwenynen Bigog a nofelau eraill
Enw: Meleri Wyn James.
Beth yw eich gwaith? Awdur.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Yn ddiweddar, dw i wedi bod yn sgwennu erthyglau i Lingo Newydd y cylchgrawn dysgwyr a golygu cyfrol i ddysgwyr o'r enw Stori a Mwy.Dw i hefyd yn golofnydd Western Mail.
O ble'r ydych chi'n dod? Fe ges i ngeni yn Llandeilo a symud i Beulah ger Castellnewydd-Emlyn pan o'n i'n ifanc iawn.
Lle'r ydych chin byw yn awr? Dw i'n byw yn Aberystwyth ers rhyw ddwy flynedd.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Do, ar y cyfan. Roedd fy mhen yn y cymylau braidd. Fe wellodd fy ngwaith yn aruthrol pan es i i'r chweched dosbarth a dechrau gwrando!
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano. Dw i ddim yn gwybod pam rwy'n sgwennu unrhyw lyfr ond bod rhyw syniad am stori yn dod i mi ac ysfa gryf i rannu'r stori yna.Mae Gwenynen Bigog yn nofel ddirgelwch - fy hoff fath o nofelau. Mae'n dechrau gyda marwolaeth y prif gymeriad sy'n diodde o Multiple Sclerosis. Ry'n ni'n mynd n么l mewn amser i ddarganfod pwy sydd wedi ei lladd a pham. Mae'r pwnc yn eitha' tywyll, ond mae yna lot o gyfrinachau a throeon yn y stori.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Tair nofel - Catrin Jones yn Unig a Catrin Jones a'i Chwmni a nofel i ddysgwyr, Gwendolin Pari P.I.Tair cyfrol o straeon - Mwydyn yn yr Afal, Stripio a Diwrnod Da o Waith. Dw i wedi sgwennu llyfrau ffeithiol hefyd - cyfres Sut i - sut i ... fentro i'r byd mawr, prynu ty a phriodi (ar y cyd gyda Bethan Mair).
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Ro'n i wrth fy modd gyda llyfrau dirgelwch. Mae gen i'r gyfres Secret Seven i gyd ac ro'n i'n ffan mawr o'r Llewod hefyd.
A fyddwch yn edrych arno'n awr? Na. Mae yna ormod o lyfrau newydd da i'w darllen!
Pwy yw eich hoff awdur? Roald Dahl. Ond, rwy'n darllen beth bynnag sy'n cymryd fy ffansi.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Straeon tro yn y cynffon Roald Dahl. Yn Gymraeg, rwy'n hoffi sgwennu egn茂ol Manon Rhys.
Pwy yw eich hoff fardd? Dylan Thomas.
Pa un yw eich hoff gerdd? Fern Hill gan Dylan Thomas.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? " 'Brensiach y brain, mae'n gythgam o oer!' medd Crychydd y Nant wrth hen wr y lloer." Tr茂wch ddweud hynny ar 么l peint neu ddau!
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Fy hoff ffilm yw The Big Blue am berthynas dyn 芒'r m么r. Mae'n ddwys, yn ddigri ac yn secsi. Rwy wrth fy modd gyda rhaglenni teledu DIY a realiti TV mwya c'wilydd arna i! Rwy hefyd yn ffan mawr o Alvin Hall a Your Money or Your Life.
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Fy hoff gymeriad yw Emma, Jane Austen. Wnai fyth maddau i'r moch am werthu Boxer i ladd-dy yn Animal Farm!
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? "Cwsg yw bywyd heb lyfrau."
Pa un yw eich hoff air? Hedd.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Y ddawn i ganu, heb os.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Sensitif, Penderfynol, Breuddwydiol.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Sawl peth! Rwy'n mynd i gwrdd 芒 gofid am un, a gallai ddim gwneud penderfyniad i safio fy mywyd!!
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chin ei edmygu fwyaf a pham? Rwy'n edmygu unrhyw un sy'n cadw at eu hegwyddorion.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Terfysg merched Beca yn Abergwaun. Roedd un o fy nghyn-deidiau yn eu plith, yn 么l Mam-gu. Mae ganddi'r si么l goch o hyd.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Emily Pankhurst a'r suffragettes. Fydden i'n gofyn iddyn nhw o ble ddaeth eu dewrder a diolch iddyn nhw'n daer.
Pa un yw eich hoff daith a pham? Y daith adre, wrth gwrs.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Cig oen wedi ei gwcan yn araf gyda thatws wedi stwnsho - a hufen ia Joe's i bwdin.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Cloncan gyda ffrindiau, bwyta allan - a digon o win!, darllen, ffilmiau, siopa a mynd i'r gampfa.
Pa un yw eich hoff liw? Oren.
Pa liw yw eich byd? Nid yw'n un lliw.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Tai lleol rhesymol i bobl lleol - a chadw Cyngor Ceredigion rhag adeiladu 150,000 o dai di-angen.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Mae gen i gwpwl o syniadau. Maen nhw'n dweud na ddylech eu datgelu oherwydd bydd yr ysfa i orffen y nofel er mwyn rhannu'r stori'n diflannu.
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall? Nid oedd angen cymorth grant i gwblhau'r llyfr yma oherwydd mae miloedd o Gymry bellach yn prynu a darllen llyfrau Cymraeg.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|