Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Maureen Rhys
Nadolig 2006 yr oedd ei hunangofiant, Prifio, yn un o'r llyfrau mwyaf poblogaidd
• Enw?
Maureen Rhys.

• Beth yw eich gwaith?
Actores.

• O ble'r ydych chi'n dod?
Pentref bach Cwm-y-Glo yn Arfon.

• Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Bangor.

• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do, ysgol fechan oedd yr ysgol gynradd yng Nghwm-y-Glo a digonedd o amser gan yr athrawon i roi sylw personol i ni. Wedyn ym Mrynrefail cael yr argraff bod yr athrawon yn ddiwahân am i ni lwyddo, a ffrindiau da.

• Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Hunangofiant ydi o. Bu raid crafu pen a phendroni cyn mynd at y cyfrifiadur. Fy unig fwriad oedd bod y gwaith gorffenedig yn rhoi orig o ddiddanwch i'r darllenydd. Wn i ddim a lwyddais i wneud hynny ai peidio.

• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dim un.

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Llyfr Mawr y Plant a Llyfr Darllen - mae'r ail lyfr o 1949 gen i o hyd.

• A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Pur anaml.

• Pwy yw eich hoff awdur?
Wn i ddim am hoff awdur. Mae nifer o awduron yn rhoi blas i mi am wahanol resymau a rhai newydd yn codi o hyd, ond petawn yn gorfod dewis, mi fydda 'na ddau yn dod i'r brig, sef Islwyn Ffowc Elis a Kate Roberts am i mi droi'n ôl atyn nhw fwy nag unwaith.

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Argraff arbennig: The Great Hunger - Cecil Woodham-Smith. Hanes dychrynllyd y digwyddiadau yn Iwerddon yn ystod hanner cyntaf, ac wedyn yn ystod, y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

• Pwy yw eich hoff fardd?
R. Williams Parry

• Pa un yw eich hoff gerdd?
Anodd ydi dewis rhwng 'Dinas Noddfa', R. Williams Parry a 'Cofio' - Waldo Williams. Gan mai Rhys ydi un o nghyfenwau i bellach, mae 'Y Wers Sbelio' gan R.W. Parry yn apelio ata i hefyd.

• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Mae yna nifer ohonyn nhw. Gan mai am un llinell y gofynnwyd ac am y gobaith sydd ynddi: 'Marw i fyw mae'r haf o hyd' o awdl 'Yr Haf' R. Williams Parry.

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Anaml iawn y bydda i'n mynd i'r sinema. O ran teledu rhaglenni dogfen neu drafod, Taro 9, Pawb a'i Farn, Newsnight - y math yma o raglenni fydda i yn eu hoffi. Hynny a chyfres arbennig 'Y Tywysogion' Ffilmiau'r Bont.

• Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Er yn blentyn yr oeddwn yn gwybod am Rhys Lewis gan mai hoff lyfr fy nain oedd o. Mi wnes i ddarlun yn fy meddwl o'r bachgen Rhys Lewis a'i gael o'n ffrind da. Yn y copi sydd gen i (un fy nain oedd o) mae yna ambell i ddarlun ac un ohonynt yn dangos Bob, brawd Rhys Lewis, yn llindagu'r athro brwnt (Robyn y Sowldiwr) a hwnnw yw fy nghas gymeriad i o hyd.

• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Nid aur yw popeth melyn.

• Pa un yw eich hoff air?
'adra'.

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Yn bendant canu'r piano.

• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Dwn i ddim!

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Fy amharodrwydd i roi pin ar bapur ond wedi i mi ddechrau, mynd fel fflamia - yn rhy gyflym o'r hanner. Dim ond un o 'ngwendidau i ydi hwnnw.

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Ma hwnnw'n gwestiwn rhy fawr i mi allu ei ateb. Ar lefel llai uchelgeisiol, o fewn fy mhroffesiwn fy hun, mae'r actores Judi Dench yn un dwi'n ei hedmygu'n fawr am ei bod hi'n argyhoeddi fel y ddynes drws nesaf ac fel brenhines - unrhyw ran mae hi'n ymgymryd â fo a deud y gwir.

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Mudiad y Siartwyr - bod yr un i gyflwyno deiseb i'r Senedd yn 1839 ac enwau 1,280,000 o bobl arni.

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Robert Owen, Drenewydd. Fyddwn i ddim yn gofyn cwestiwn dim ond ysgwyd llaw ag o.

• Pa un yw eich hoff daith a pham?
O ddrws y tÅ· i berfeddion Galway. Mae'r siwrnai o gar i long a char wedyn am rai oriau yn bleser pur, a'r sicrwydd bod croeso tywysogaidd yn ein disgwyl gan deulu'r Cloherty's.

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cinio dydd Sul adra. Cig oen, tatws newydd, tatws rhost, tri math o lysiau, saws mintys ffres o'r ardd a'r trimins i gyd ac efallai pwdin reis wedi bod yn y popty am oriau i ddilyn, a phawb yn sglaffio'r cwbl ac amser am sgwrs wedyn.

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Dim byd rhy anturus - cerdded, darllen, synfyfyrio.

• Pa un yw eich hoff liw?
Du.

• Pa liw yw eich byd?
Mi fyddwn i wrth fy modd dweud coch ond alla i ddim. Mae'n debyg mai gwyrdd ydi lliw fy myd i gan mod i mor hoff o goed yn eu dail. Mi fyddwn i'n berffaith hapus cael fy nghau i mewn gan goed.

• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Mwy o bŵer deddfu i'r Cynulliad/Senedd.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Nac oes

• Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel?
Er iddi bendroni am fisoedd lawer...

Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad a sgwrs am Prifio

  • Adolygiad arall o Prifio

  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹Éç Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý