|
Owen Martell 麻豆社 Cymru'r Byd yn holi Owen Martell awdur Dyn yr Eiliad a Cadw dy ffydd, brawd
Enw? Owen Martell
Beth yw eich gwaith? Awdur a cwpwl o bethau eraill
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Gohebydd chwaraeon gyda'r 麻豆社
0 ble'r ydych chi'n dod? Pontneddfechan, yng Nghwm Nedd
Lle'r ydych chi'n byw yn awr? Y Rh芒th, Caerdydd
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Do, yn fawr iawn.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf wnewch chi ddweud ychydig amdano? Mae Dyn yr Eiliad yn nofel am dri ffrind dau sydd yn fyw ac un sydd wedi marw. Mae'r llyfr yn edrych ar fywydau'r tri ac yn ceisio gofyn sut a pham y mae'r ffrind marw wedi marw. A beth yw effeithiau hynny ar y gorffennol y maen nhw wedi ei rannu ac ar y bywydau sydd ar 么l. Fe wnes i ddechrau ysgrifennu'r nofel am nad oeddwn i'n gallu rhoi'r senario hon allan o fy meddwl.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Cadw dy ffydd, brawd nofel, 2000
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? The Man Who Took the Indoors Out, gan Arnold Lobel
A fyddwch yn edrych arno'n awr? Yn anffodus does dim copi ohono gyda fi. Byddwn i wrth fy modd yn ei weld eto.
Pwy yw eich hoff awdur? Gormod i ddewis un ond mae'r rhestr yn cynnwys Camus a Kundera, Dostoiefsci, DeLillo a Doctorow, Melville a Mihangel.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Mae llyfrau David Nobbs am Reggie Perrin wedi cael dylanwad sylweddol iawn ar fy mywyd.
Pwy yw eich hoff fardd? Dwy' ddim yn siŵr.
Pa un yw eich hoff gerdd? I thought I saw Jesus on a tram. I said, Are you Jesus? He said, Yes. I am. - Spike Milligan.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? At thirty-one, when some are rich And others dead, I, being neither, have a job instead' - Philip Larkin
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Yn amlwg, fy hoff raglen deledu yw The Simpsons. O ran ffilmiau, eto, gormod i ddewis un. Mae A Night at the Opera, y Marx Brothers, yn ffefryn. Hefyd ffilmiau'r brodyr Coen. Rwy' hefyd yn hoff iawn o, oddi ar dop fy mhen, Three Colours: Red, Grosse Point Blank, Picnic at Hanging Rock.
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Rwy'n hoffi'n fawr gymeriad Dmitry yn nofel Dostoyevsky, The Brothers Karamazov. a Jay Gatsby hefyd, wrth gwrs. Ond wedyn rwy'n gofyn i fy hun, Ble fydden ni heb Karl yr Almaenwr hoff yn Cysgod y Cryman' Mae'n anodd meddwl am gas gymeriadau. Maen nhw wastad yn gas neu yn anhoffus am reswm, wrth gwrs, ac rwy' fel arfer yn gwerthfawrogi'r rhesymau hynny. Ond fe wnaeth yr adroddwr yn Enduring Love Ian McEwan fynd ar fy nerfau eitha' tipyn. Felly hefyd gymeriadau fel John Self a Keith Talent yn nofelau Martin Amis.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Hannar o be' gymwch chi? '
Pa un yw eich hoff air? Dwni'm
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Mae'n tempting i ddweud 'Gallu ysgrifennu nofelau' ond rwy'n hanner amau taswn i'n gallu chwarae'r drymiau yn dda na fyddwn i'n boddran gyda ysgrifennu.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Diawl, shwrri boi?
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Wrth gwrs.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham? Dwy' ddim yn hollol siŵr beth ma' edmygu rhywun yn ei feddwl (yn enwedig rhywun nad ydw i wedi ei gyfarfod erioed), ond rwy'n sicr yn hoff iawn o agwedd ac egni pobl fel Iolo Morgannwg a Malcolm X.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Byddwn i wedi hoffi curo George Foreman yn y Rumble in the Jungle.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Ryan, efallai, neu John Coltrane. Ond fyddwn i ddim eisiau dweud unrhyw beth wrthyn nhw o angenreidrwydd. Byddwn i jyst eisiau bod o gwmpas.
Pa un yw eich hoff daith a pham? Yr A470 o gwmpas Merthyr a Phen-y-Fan, a'r A465 o gwmpas Cwm Nedd ac ar hyd Blaenau'r Cymoedd. - Atgofion etc. Ac unrhyw daith ar awyren hefyd ond glanio yn hytrach nag esgyn. Fe fydd hedfan wastad yn beth hollol ryfeddol, rwy'n credu.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Rwy'n hoffi lot fawr o fwydydd gwahanol. Ar yr union eiliad hon, rwy'n breuddwydio am cod a chips o'r Central Fish Bar yn Aberystwyth. Rwy'n hoff iawn o gaws hefyd, a chawsiau Cymru yn arbennig. Byddwn i'n hoffi bod yn Gynrychiolydd Byd-eang i Gawsiau Cymru, fel yr oedd Geri Halliwell gyda'r Cenhedloedd Unedig.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Byddwn i'n chwarae mwy o golff os oedd gen i fwy o arian.
Pa un yw eich hoff liw? Rwy'n hoffi brown a hufen ar hyn o bryd.
Pa liw yw eich byd? Dwy' ddim yn gwbod sut i ateb y cwestiwn hwn.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Gorfodaeth ar i bawb fyw yn hapus ac yn heddychlon gyda'i gilydd ar boen eu saethu.
A byddwn i'n deddfu bod un diwrnod o bob wythnos yn cael ei neilltuo ar gyfer taflu tomatos at Iain Paisley. Mae e'n mynd ar fy nerfau yn ofnadwy.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? W锚s w锚s.
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall? Call me Ishmael llinell agoriadol Moby Dick.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|