| |
|
|
|
|
|
|
|
Gwen Lasarus Yn sgwrsio gyda Gaynor Davies
Yn ferch fach y sgrifennodd Gwen Lasarus ei llyfr cyntaf.
"Dwi'n cofio," meddai wrth Gaynor Davies, "sgwennu stori am ryw oen bach - mewn llyfr coch - a dewis y llun i'w roi ar y clawr a sgwennu fy enw yn dwt o dan teitl y stori a gorffen y llyfr.
"Roeddwn i mor falch o'r llyfr bach yna a dwi'n si诺r mai dyna pryd cychwynnodd y syniad yn y mhen i o efallai un diwrnod sgwennu nofel - a dyna ddigwyddodd," meddai.
Hadau bach Aeth y llyfr bach hwnnw ar goll bellach - ond fe ddaeth triawd o nofelau ar gyfer pobl ifainc gyda'r olaf ohonyn nhw yn gweld golau dydd cyn y Nadolig 2007.
"Mae'r hadau bach yna yda ni'n gael pan yn fach yn parhau yn ein pennau," meddai.
Nofelau ar gyfer yr arddegau yw rhai 'Hogan Fler' a hynny'n adlewyrchu'r ffaith iddi hi ei hun weld prinder nofelau ar gyfer yr oed hwn pan oedd hi yn ei harddegau ac yn gorfod neidio'n syth o ddarllen straeon i blant i ddarllen llyfrau oedolion.
Oed anodd Er yn oed anodd sgrifennu ar ei gyfer dywedodd ei fod yn rhoi pleser hefyd.
"Mae gen i ddiddordeb mewn plant o 12 oed i fyny achos maen nhw'n mynd mor gyfrinachol. Mae ganddyn nhw eu bywydau bach eu hunain ac oedolion ddim yn cael dod i mewn i'r bydau hynny - a dyna sydd mor ddiddorol am yr oed.
"Mae'n dipyn o sialens i dreiddio i'w byd," meddai.
Ond er mai fel awdur nofelau 'Hogan Fler' y mae'n adnabyddus dywedodd mai drama fer a sgrifennodd gyntaf.
Datgelodd hefyd iddi ddewis ffurf dyddiadur ar gyfer ei nofelau oherwydd cyfyngiadau amser arni fel mam i blant bychain ar y pryd a dyddiadur yn rhywbeth haws mynd a dod iddo fel y byddai amser yn caniat谩u.
Ar y gweill ganddi ar hyn o bryd mae nofel ar gyfer oedolion ond ychwanegodd; "Ond dydw i ddim yn meddwl cau'r drws ar lyfrau plant."
Gwen Lasarus: Hyfforddwyd Gwen Lasarus yn athrawes ond mae wedi bod yn actores ers dros ugain mlynedd. Yn dod o Lanfairpwll, M么n, aeth i Ysgol David Hughes.
Darllen, nofio, ioga, coginio, beicio a cherdded yw ei diddordebau pennaf.
Dywed mai ei dylanwadau cynharaf oedd Enid Blyton ac yna Kate Roberts, John Gwilym Jones, Sion Eirian ac yn fwy diweddar Frank McCout, Helen Fielding a M. Scott Peck.
Hi yw awdur: Sgribls Hogan Fler, Snogs a Sgribls Hogan Fler a Swshi, Snogs a Sgribls Hogan Fler
Darlledir rhaglen Gaynor Davies rhwng pump a saith bob bore ar 麻豆社 Radio Cymru.
Cliciwch isod:
Tegan Tsieina - stori ddigidol gan Gwen Lasarus.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|