麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Joanna Davies
Awdur y nofel Ffreshars
Enw:
Joanna Davies

  • Beth yw eich gwaith?

  • Uwch Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau i Gyngor Celfyddydau Cymru.

  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

  • Bum yn Gynhyrchydd Teledu am 10 mlynedd.

  • 0 ble'r ydych chi'n dod?

  • O Gorslas, Cwm Gwendraeth.

  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?

  • Yn y Rhath, Caerdydd.

  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?

  • . Do -roeddwn i'n real swot!

  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?

  • Angen cofnodi profiadau Coleg cyn i mi fynd yn rhy hen i wneud! Ac i barhau i fod yn greadigol gan mod i wedi gadael diwydiant creadigol sef Teledu, y llynedd.

  • Dwedwch ychydig amdano.

  • Mis Medi 1991 ac mae tri ffrind o'r un ysgol yng Nghwm Gwendraeth yn dechrau eu blwyddyn gyntaf yng ngholeg prifysgol Aberystwyth: Lois, y ddarpar-gyfreithwraig na茂f sy'n ysu am golli ei moryndod; ei ffrind gorau, Cerys, sex-symbol y neuadd Gymraeg, a Hywel, yr Efeng-yl hoffus sy'n gorfod dewis rhwng ei deulu ceidwadol a dyheadau'i gorff a'i galon. Wrth i'r glasfyfyrwyr gychwyn ar anturiaethau gwyllt, dyw hi'n fawr o dro cyn i'w delfrydau am fywyd coleg gael eu chwalu ...

    Mae'n stori oesol am ddarganfod poenau a phleserau rhyw, alcohol a chyffuriau a dathlu ieuenctid i'r eithaf er gwaetha'r canlyniadau. Ond mae hefyd yn nofel am herio confensiynau, wynebu cyfrifoldeb a thalu'r pris.

  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?

  • Bywgraffiadau a chyfweliadau gydag actorion fel Ioan Gruffudd, Matthew Rhys, Michael Sheen, Rhys Ifans, Jonathan Pryce a llawer mwy. Enw'r llyfr yw Taff Pac a cyhoeddwyd ef gan y Lolfa yn 2000.

    Dwi wedi ysgrifennu straeon byrion yn y Saesneg a gyhoeddwyd gan Virgin Books. Dwi hefyd wedi sgwennu sawl drama ddogfen i HTV ac S4C.

    Roeddwn ar d卯m creadigol creu'r gyfres deledu arobryn, Nuts and Bolts a gweithiais fel is-Gynhyrchydd sgriptiau ar Pobol y Cwm.

  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

  • Anne of Green Gables gan L.M. Montgomery.

  • A fyddwch yn edrych arno'n awr?

  • Byddaf o dro i dro.

  • Pwy yw eich hoff awdur?

  • Truman Capote a Daphne Du Maurier.

  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

  • In Cold Blood gan Truman Capote.

  • Pwy yw eich hoff fardd?

  • T.H. Parry Williams.

  • Pa un yw eich hoff gerdd?

  • Dychwelyd gan T.H. Parry Williams.

  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?

  • Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
    A Duw ar drai ar orwel pell.
    (Rhyfel gan Hedd Wyn).

  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

  • Hoff ffilm: Kind Hearts and Coronets (1949) gan Stiwdio Film Ealing.
    Hoff gyfres deledu: Frasier.

  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?

  • Hoff: Scarlett yn Gone with the Wind gan Margaret Mitchell.
    Cas gymeriad: Alec d'Urberville yn Tess of the d'Ubervilles gan Thomas Hardy.

  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

  • Mae ysgol brofiad yn ysgol ddrud.

  • Pa un yw eich hoff air?

  • Cysgu.

  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?

  • Arlunio.

  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?

  • Brwdfrydig,
    Allblyg,
    Ffraeth.

  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

  • Mod i'n ddiamynedd ac yn gorwario!

  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?

  • Vivien Leigh, yr actores. Roedd hi'n dioddef yn enbyd o salwch meddyliol ond llwyddodd i gael gyrfa lewyrchus fel actores, ennill dau Oscar a gadael perfformiadau anfarwol ar ei h么l fel Scarlett O'Hara a Blanche Du Bois.

  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

  • Hoffwn petawn ni wedi bod yn yr Oscars yn 1940 i weld yr holl selebs o'r cyfnod! Neu yn Woodstock i weld y bandiau i gyd!

  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?

  • Hoffwn gyfarfod 芒 Noel Coward a chael dosbarth meistr ganddo i sgrifennu dram芒u. A dwi'n meddwl y byddai'n hwyl mynd allan gydag e am gocteil!

  • Pa un yw eich hoff daith a pham?

  • Mynd tua thre ar 么l diwrnod o waith ar nos Wener.

  • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

  • Stecen ffilet, tatws wedi ffrio gyda winwns, madarch wedi eu ffrio. A cheescake mefus i bwdin!

  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

  • Chwarae piano, ysgrifennu, darllen, gwylio ffilmiau, mynychu gigs.

  • Pa un yw eich hoff liw?

  • Turquoise.

  • Pa liw yw eich byd?

  • Glas.

  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?

  • Bod y Llywodraeth yn stopio mynd 芒 chymaint o drethi o fy mhecyn pau!

    Joanna Davies
  • A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

  • Oes, nofel arall chwerw-ramantaidd, Mr Perffaith.

  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?

  • Nawr fod Mari wedi bachu dyn ei breuddwydion, 'roedd hi'n drueni mawr bod rhywbeth mawr yn bod arno fe . . .

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad o 'Ffreshars'

  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy