| |
|
|
|
|
|
|
|
Jac Jones Holi un o brif arlunwyr llyfrau Cymru
Enw: Jac Jones
Beth yw eich gwaith? Dylunydd graffeg
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Cynllunydd mewn uned argraffu masnachol (1961-1973)
O ble'r ydych chi'n dod? Gwalchmai, Ynys M么n
Lle'r ydych chi'n byw yn awr? Rhostrehwfa, Ynys M么n
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Na
Beth sbardunodd y diddordeb mewn arlunio? Dim teledu, dim Playstations, dim DVDs mewn gwirioneddd dim technoleg adloniant o gwbwl. O.llond bocs o bensilia lliw a phapur, ac.amserlot o amser.
Pa lyfrau fu'r her fwyaf i chi fel arlunydd a pham? Betsan a'r Bwlis ceisio dadansoddi problem anferth mewn ffr芒m fach, mewn ychydig o eiriau hefo lluniau realistig tu hwnt. Chwedlau Grimm ceisio gwneud cyfiawnder 芒 straeon byd enwog mewn du a gwyn. Drama'r Nadolig y sialens o ychwanegu at gerdd oedd yn ei ddweud o i gyd beth bynnag. Lleuad yn Olau dewis un ddelwedd i gynrychioli pob stori a bob stori yn cynnig dwsina o bosibiliadau. Hefyd y sialens o gynllunio'r teip a chlawr eitha cymhleth ar y fersiwn cynta yn Gymraeg.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? 1001 o Anifeiliaid y Byd
A fyddwch yn troi ato'n awr? Byddaf, i alaru a siomi (a dysgu gwers gofal) fod canran ohonynt ddim yn bodoli mwyach.
Pwy yw eich hoff awdur? George Orwell
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Wigan Pier
Pwy yw eich hoff fardd? R.S. Thomas
Pa un yw eich hoff gerdd? Lore
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? Live large, man, and dream small
Pwy yw eich hoff arlunydd? Van Gogh
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Schindler's List Y Simpsons
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Pando'r Ci Defaid yn stori Meinir Pierce Jones, Un o Fil Gormod o gas gymeriadau i'w hogi i lawr i un.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Y ffordd i gwrdd, cwrdd hanner ffordd.
Pa un yw eich hoff air? Gobaith
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Dawn cerddor
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Chwit Chwat Hapus
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Braidd yn danllyd ar yr ochr tempar!
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chin ei edmygu fwyaf a pham? Y person cyffredin, eto'n anghyffredin sydd o nghwmpas i'n gwneud pethe dewr, tyner, gofalus, caredig a.y.y.b. bob dydd, yn ddistaw bach heb sylw mawr a seremoni fama ma hi.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Glanio ar y lleuad.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Un o'm cyndeidiau adeg Glyndwr.
Pa un yw eich hoff daith a pham? I lawr y grisiau yn y bore i wynebu antur a chyffro diwrnod newydd arall am fod o'n fraint.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Ffesant, tatw m芒n, asparagus, caws glas a grefi tenau. Bara brown granari a photel fach o claret.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? P锚l-droed (am 50 mlynedd) Rwan cerdded (o hanfodaeth) Codi pwysau Sgwennu
Pa un yw eich hoff liw? Gwyrdd golau (lliw'r gwanwyn)
Pa liw yw eich byd? Wythfed lliw yr enfys
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Deddf sydd yn chwalur cymhlethdod o ddeddfau, hen a newydd, sydd yn rhwystro tegwch ac yn gwneud y fyddin o gyfreithwyr ac ati yn gyfoethocach bob dydd.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Oes, llyfr dwi ar hyn o bryd yn ei ysgrifennu a'i arlunio o'r enw Loose. Bydd hwn yn cael ei gyhoeddi yn y Gymraeg a'r Saesneg erbyn mis Mawrth 2004.
i ddarllen am y llyfr diweddaraf i'w ddarlunio gan Jac Jones
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|