麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Ifan Morgan Jones
Prif nofelydd Eisteddfod 2008
Enw
Ifan Morgan Jones

Beth yw eich gwaith?
Dirprwy-olygydd cylchgrawn Golwg.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Fe ddes i'n syth o'r coleg yng Nghaerdydd i weithio fel newyddiadurwr. Ro'n i fyny yn Newcastle upon Tyne am dipyn cyn dod at Golwg.

O ble'r ydych chi'n dod?
Waunfawr ar bwys Caernarfon.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Dw i'n byw ar ben bryn yn Aberystwyth.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Roedd yna gyfnod yn yr ysgol uwchradd pan wnaeth fy holl ffrindiau gorau symud i fyw lle'r o'n i braidd yn unig, ond fel arall dw i wedi mwynhau'r cyfan. Yn enwedig fy ymchwil (gyda pwyslais ar y chwil!) yn Caerdydd.

Beth wnaeth i chi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dwedwch ychydig amdano?
Fe benderfynais i wneud MA ysgrifennu creadigol ym Mangor tra'n gweithio i Golwgm a fe ysgrifennais i'r nofel Igam Ogam fel rhan o'r gwaith cwrs.

Roeddwn i wedi ei ysgrifennu hi heb feddwl ei chyhoeddi, y rhan fwyaf mewn tua wythnos. Ond wnes i ei gyrru hi i'r Daniel Owen ar gyngor fy nhiwtor, er mwyn cael beirniadaeth.

Mae pobol i weld yn ei mwynhau hi felly dw i ddim yn difaru gwneud! Mae'n nofel ffantasiol am fachgen sy'n mynd n么l i gymryd gofal o'r fferm deuluol ond yn darganfod bod ryw ddirgelwch yn perthyn i'r lle.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dim un eto. Rhowch gyfle i mi!
Fydd o ddim yn nofel ffantasi beth bynnag.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Sothach a Sglyfath gan Angharad Tomos. Mae'n glasur!

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Dw i'n cadw copi wrth gefn ar mwyn dychryn unrhyw blant ydw i'n dod ar eu traws nhw. Neu falle mai fi sy'n dychryn nhw.

Pwy yw eich hoff awdur?
Dw i'n hoffi nofelau ffantasi JRR Tolkien a Neil Gaiman. Yn Gymraeg dw i'n hoffi Robin Llywelyn, Caradog Prichard, Caryl Lewis a straeon byrion cynnar Kate Roberts.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Dw i'n credu bod Catch 22 wedi dangos i mi bod modd dod a digrifwch i'r sefyllfa mwyaf tywyll.

Pwy yw eich hoff fardd?
Dafydd ap Gwilym. Ond dw i'n reit anwybodus am farddoniaeth dweud y gwir.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Trafferth mewn Tafarn. Dw i'n hoffi barddoniaeth mae modd uniaethu gyda fo.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Dwi'm yn gwybod digon am farddoniaeth i fedru beirniadu bod un llinell yn well na'r llall. Mae creu cynghanedd yn edrych ormod fel syms i fi, ond fyddwn i'n hoffi dysgu.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Fy hoff ffilm yw The Blues Brothers.
Fy hoff raglen deledu yw Futurama.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Fy hoff gymeriad yw Sianco o lyfr Caryl Lewis - Martha, Jac a Sianco. A Gollum o Lord of the Rings.
Fy nghas gymeriad yw Jane Eyre, y cadach wlyb iddi. Piti na lwyddodd Bertha i'w llosgi'n ulw.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Does gen i ddim un. Does dim y fath beth a gwirionedd diamod, jesd mater o farn!

Pa un yw eich hoff air?
Clustog.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Medru chwarae offeryn yn dda. Neu hyd yn oed yn ddrwg, erbyn meddwl.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Byr, tew ... celwyddgi.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Er mod i'n newyddiadurwr dwi'n berson eitha swil!

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Neb!
Unwaith dych chi'n ymchwilio i hanes ryw arwr o fri buan iawn daw lot o bethau eithaf bawlyd i'r olwg.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
O'n i yn g锚m Cymru v Ffrainc ac Iwerddon camp lawn 2005 ond wnes i anghofio prynu unrhyw docynnau i gemau 2008! D'oh!

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Hoffwn i gael cyfarfod Llywelyn ein Llyw Olaf i weld os oedd o'n ryw wladgarwr mawr go iawn ta jesd am achub ei din ei hun!

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Rydw i'n hoffi teithio o Aberystwyth i fyny i Waunfawr, mae'r golygfeydd yn hyfryd.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cinio dydd sul. Cyw iar, yorkshire pudding, tatws, pys a grefi. Mmmm...

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Rydw i'n hoff o redeg (wnes i redeg marathon deufis yn 么l), eirfyrddio, a chwarae gemau cyfrifiadur.

Pa un yw eich hoff liw?
Glas.

Pa liw yw eich byd?
Gwyrdd gan fwya'. Dwi'n byw yn y wlad.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Fe fyddwn i am i gampfeydd Cymru fod am ddim i bawb er mwyn datrys y broblem gordewdra. Mae pobol ffit yn bobol hapus yn fy mhrofiad i.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes mae gen i ddau lyfr arall ar y gweill.
Mae un yn ryw fath o nofel drosedd 'hardboiled' yn nhraddodiad Raymond Chandler am heddwas o'r Ariannin sy'n dod draw i Gaerdydd yn yr 20au hwyr ac yn hel y troseddwyr a rhoi trefn ar y lle. Dydi o ddim yn gyfan gwbwl ddifrifol!
Mae'n rhy gynnar i drafod y llall.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Dw i'n gwybod beth yw hi ond gan fy mod i am ei defnyddio yn y nofel nesaf well i fi beidio dweud rhag i mi sbwylio'r syrpreis.

Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad Kate Crockett o 'Igam Ogam'

  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy