| |
|
|
|
|
|
|
|
Hedd ap Emlyn Difyrrwch nid moeswersi
Rhoi mwynhad a chreu straeon sy'n ddifyr yw dyletswydd gyntaf y rhai hynny sy'n ysgrifennu ar gyfer plant yn 么l Hedd ap Emlyn un o'n cyfieithwyr llyfrau plant mwyaf profiadol.
"Un peth yr ydw i'n teimlo'n gryf amdano yngl欧n 芒 llyfrau plant yw fod yn rhaid i blant fwynhau stori ar lefel stori heb gael athrawon yn tynnu'u perfeddion nhw'n racs a dadansoddi a chodi moeswersi ynddyn nhw," meddai wrth siarad am ei waith gyda Gaynor Davies ar 麻豆社 Radio Cymru, Ionawr 18, 2007.
Syrffedu plant "Mae ambell i foeswers neu ddadansoddiad yn iawn - os nad yn bwysig - yma ac acw, ond rwy'n teimlo fod gormod o bwyslais yn cael ei roi gan rai ym myd addysg ar ddadberfeddu llyfrau yn hytrach na gadael i blant eu mwynhau a rhoi'r gorau i gyfrol ar 么l gorffen darllen a symud ymlaen i'r stori nesaf," meddai.
"Os ydyn nhw'n dadansoddi at syrffed mae'r plant yn mynd i gael syrffed ar y llyfr a'r stori," rhybuddiodd.
Mewn partneriaeth Dywedodd Hedd ap Emlyn, sydd yn gofalu am lyfrgell Wrecsam wrth ei waith bob dydd, mai mewn partneriaeth 芒'i wraig Non y mae'n gwneud ei holl waith cyfieithu neu drosi ac iddynt drosi bron i 90 o lyfrau o'r Saesneg i'r Gymraeg dros y deng mlynedd diwethaf gan gydweithio'n bennaf 芒 Gwasg y Dref Wen.
Mewn Cymraeg naturiol Awgrymodd mai'r her wrth drosi yw cyfleu naws y cynnwys Saesneg gwreiddiol ond gwneud hynny mewn Cymraeg naturiol.
"Yr ydym yn gwneud yn si诺r nad ydym yn cyfieithu'n slafaidd ac yn cymryd ychydig bach, bach, o ryddid weithiau.
"Dydym ni ddim yn cadw'n gaeth at bob gair yn y stori - ond [yn sicrhau mai'r] un ydi'r stori yn y diwedd," meddai.
Cliciwch uchod i wrando ar y sgwrs gyflawn rhwng Hedd ap Emlyn a Gaynor Davies.
Sgyrsiau eraill Gaynor gydag awduron llyfrau plant
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|