Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Holi Geraint Lewis
Geraint Lewis, nofelydd a dramodydd yn ateb cwestiynau Llais Llên
Eich Enw?
Geraint Lewis

Beth yw eich gwaith?
Ysgrifennwr

O ble'r ydych chi'n dod?
Tregaron

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Caerdydd

Pam sgrifennu llyfr?
Mae'n rhywbeth gymharol newydd i mi sgrifennu llyfrau. Wy'n mwynhau'r cynfas eang sydd gyda chi mewn ffurf fel y nofel a'r rhyddid sydd gyda chi i sgrifennu yr hyn ry'ch chi wir moyn o'i gymharu a'r byd teledu sydd, yn ei hanfod, yn fwy o waith tim.

Dwedwch rywbeth am eich llyfr diweddara?
Mae Daw Eto Haul yn nofel gyfoes am flwyddyn ym mywyd Bryn James ym mhrifddinas ei wlad. Cymro yn tynnu tua'r deugain yw Bryn ac mae e wedi cyrraedd rhyw fath o drobwynt yn ei fywyd. Mae'n gweithio fel ecstra ac fel traethydd y stori mae ganddo ryw hiwmor sych (gobeithio).

Pwy yw eich hoff awdur?
Yn y Gymraeg, Wiliam Owen Roberts, yn y Saesneg Jonathan Coe.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Cofio darllen Dyddiadur Dyn Dwad (gan Dafydd Huws) yn fy arddegau a gweld bod hi'n bosib bod yn ddoniol iawn yn y Gymraeg.

Pwy yw eich hoff fardd?
Dylan Thomas (er gwaethaf heip y diwydiant twristiaeth sydd wedi ei herwgipio bron)

Pa un yw eich hoff gerdd?
Fern Hill gan Dylan Thomas. Er ei bod hi yn Saesneg ei hiaith, mae'n gerdd sy'n fy atgoffa o'm mhlentyndod gwledig yng Ngheredigon.

Pa un yw eich hoff ffilm?
Wy'n ffan mawr o ffilmiau The Godfather Francis Ford Copolla ac hefyd ei Apocolypse Now Yn fwy diweddar cefais flas ar ffilm o'r Almaen o'r enw Goodbye Lenin oedd yn delio â phwnc dwys (cwymp Wal Berlin) mewn ffordd ddoniol a chrafog.

Pa un yw eich hoff raglen deledu?
Unrhyw bêl-droed neu rygbi byw.

Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf at y gwir?
Deuparth gwaith yw ei ddechrau.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n bwriadu bod yn awdur?
Dal ati.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y ddawn i redeg am rai milltiroedd heb deimlo'n stiff y diwrnod canlynol.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Prysur
Mympwyol
Obsesiynol

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Martin Luther King, am ei ddewrder a'i weledigaeth.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fydde chi'n hoffi bod yn rhan ohono?
Darganfod ymbelydredd ond heb farw o'r sgil-effeithiau fel y gwnaeth Marie Curie druan. Cofio gweld y gyfres ddrama amdani ar y Â鶹Éç gyda Jane Lappatoire yn chwarae Marie a chael fy swyno'n llwyr.

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Rhedeg wrth ymyl yr afon Taf yng Nghaerdydd, am ei fod yn medru bod yn brofiad gwledig a dinesig ar yr un pryd.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Pasta, yn enwedig gyda saws Puttenesca.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded, rhedeg, mynd i'r sinema neu i'r theatr, gwylio tîm pêl-droed Caerdydd.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, nofel arall ond mae'n ddyddiau cynnar eto. Wy hefyd yn gweithio ar ddrama lwyfan, gwaith comisiwn gan Sgript Cymru a'r Coleg Cerdd Drama yng Nghaerdydd, i'w pherfformio yn Ionawr 2005.




Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹Éç Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý