| |
|
|
|
|
|
|
|
Eluned Phillips Bywyd lliwgar cochan o Genarth
Ar raglen Dei Tomos, nos Sul, Hydref 14, bu Eluned Phillips yn siarad am ei bywyd a'i gwaith ac am ei hunangofiant, The Reluctant Redhead, oedd newydd ei gyhoeddi gan Wasg Gomer.
Eluned Phillips yw'r unig ferch i ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith - yn gyntaf yn 1967 ac wedyn yn 1983 gyda phryddest am Ryfel y Malvinas / Falklands yn gefndir iddi.
Fe'i ganed yng Nghenarth a'i magu yn bennaf gan ei mam-gu. Aeth i goleg yn Llundain ond ni pharhaodd gyda'i hastudiaethau. Trwy gysylltiad brawd i gyfeilles iddi symudodd maes o law i fyw a newyddiadura ym Mharis lle daeth i gysylltiad 芒 Maurice Chevalier, Pablo Picasso ac Edith Piaf ymhlith eraill.
Yng Nghymru yr oedd yn gyfarwydd 芒 Dylan Thomas ac Augustus John gan ffafrio yr arlunydd, John, fel cyfaill. Dywed i Dylan fod yn un anodd ei adnabod a chynnal sgwrs ag ef.
Yr oedd yn gyfeillgar hefyd a'r bardd o Gymro, Dewi Emrys, a hi a gyhoeddodd gofiant iddo yn 1971.
Treuliodd gyfnod yn yr Unol Daleithiau hefyd ond gartref yng Nghymru mae'n cael ei chofio'n bennaf am ei champ o fod yn un o ddim ond tair merch i fod yn brifeirdd. Hi oedd yr ail i ennill y Goron yn y Genedlaethol gan ddilyn Dilys Cadwaladr a'i henillodd yn 1953.
Erbyn hyn ymunodd Mererid Hopwood 芒 hwy gan ennill y Gadair a'r Goron.
Isod gellir gwrando ar rannau o'r sgwrs rhwng Eluned Phillips a Dei Tomos:
Atgofion plentyndod
Wnaeth Eluned Phillips erioed adnabod ei thad gan iddo gael ei ladd yn y Rhyfel Mawr o fewn wythnosau i'w geni a hithau'n cael ei magu yn bennaf gan ei nain - gwraig a oedd yn ystyried pawb yn gyfartal beth bynnag eu gradd gymdeithasol; agwedd y mae Eluned Phillips ei hun wedi ei hetifeddu, meddai.
Hunllef Cochan
Fel yr awgryma teitl ei hunangofiant doedd Eluned Phillips ddim yn ymhyfrydu yn ei gwallt coch! Dywed i blant eraill fod yn gweiddi pob math o enwau arni o'i herwydd ac i bethau fynd cyn waethed fe geisiodd ei liwio - gyda ch么l tar!
Ennill ei hail goron
Enillodd ei hail goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni yn 1983 gyda phryddest ar y testun Clymau a Rhyfel y Malvinas / Falklands yn gefndir ynddi. Mae'n s么n am Gymry - un o Gymru a'r llall o Batagonia - yn cyfarfod yn elynion ar faes y frwydr.
Mae'n s么n hefyd am ei phrofiad o Batagonia ac iddi gael ei henwi ar 么l Eluned Morgan, prif lenor Y Wladfa.
I Lundain
Mae Eluned Phillips yn symud i Lundain yn 1930 ac mae'n s么n am ei chysylltiad 芒 Dewi Emrys, Dylan Thomas ac Augustus John gan ddweud i John helpu i gynnal Dylan yn ariannol.
Dyddiau Paris
Ym Mharis daeth Eluned Phillips i gysylltiad ag enwogion fel Picasso, Maurice Chevalier ac Edith Piaf. Dywed iddi fod fod "yn lwcus drwy fy mywyd" cyfarfod pobl mor ddiddorol. Anfonodd bryddest am Piaff i gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod 1967 ond pryddest arall, a anfonodd i'r un gystadleuaeth, a enillodd y wobr iddi. Oni bai fod un o'r beirniaid yn offeiriad dywed mai pryddest Piaf a fyddai wedi ennill ac mai honno oedd beirniad arall, Alun Llewelyn-Williams, yn ei ffafrio.
Cyhoeddi 'chydig
Yr unig gasgliad o gerddi a gyhoeddodd Eluned Phillips yw cerddi Glyn-y-M锚l yn 1985. Ei hunig lyfr arall yw Cofiant Dewi Emrys nes cyhoeddi ei hunangofiant yn 2007. Mae'n awgrymu mai'r rheswm iddi gyhoeddi cyn lleied yw ' na wnaeth neb ofyn imi' ac mae'n egluro hefyd pam mai yn y Saesneg y cyhoeddodd ei hunangofiant.
Cyhoeddir The Reluctant Redhead gan Wasg Gomer.
拢7.99.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|