Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Holi Robin Chapman
Holi Robin Chapman, awdur, Rhywfaint o Anfarwoldeb, cofiant Islwyn Ffowc Elis.


Enw: :
T. Robin Chapman

Beth yw eich gwaith?

Darlithydd a chyfieithydd

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

Athro ysgol, geiriadurwr (Geiriadur yr Academi)

0 ble'r ydych chi'n dod?

Caerly^r (Leicester)

Ller ydych chin byw yn awr?

Aberangell (yn symud i Aberystwyth cyn bo hir)

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?

Do - o'r chweched dosbarth ymlaen. Rwy'n dal i wneud hefyd.

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf:?
Y cymhelliad cyntaf oedd dangos bod mwy i Islwyn Ffowc na Cysgod y Cryman. Wrth imi weithio arno, daeth yn ymgais i egluro sut y gall awdur feithrin y ddawn i ysgrifennu, a'i cholli hefyd.

Dwedwch ychydig amdano.
Bywgraffiad digon confensiynol, mae'n debyg. Bm yn ddigon ffodus i weld nid yn unig bapurau preifat Islwyn ei hun ond hefyd lythyrau oddi wrtho at y ffigurau amlwg a adwaenai.

Mae'n fywgraffiad sy'n dweud cryn lawer, er enghraifft, am Gwynfor Evans - ac edrychaf ymlaen yn eiddgar at weld ymdriniaeth Rhys Evans â Gwynfor a'i gyfnod ymhen blwyddyn neu ddwy eto.

Ceir math o is-stori ym mhob bywgraffiad a chofiant, mae'n debyg, a'r stori sy'n brigo i'r wyneb yma yw hanes rhywun a fynnai fod yn llenor proffesiynol yn wyneb anawsterau ymarferol - ac annealltwriaeth ei gydnabod.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Cofiannau i WJ Gruffydd ac Ambrose Bebb, ac ambell beth bach arall.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

Storïau William Richmal Crompton.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?

Yn dibynnu bellach ar ddarlleniadau meistraidd Martin Jarvis ar radio ac ar dâp sain y Â鶹Éç, sydd wedi dod â'r gyfres yn fyw unwaith eto.

Pwy yw eich hoff awdur?

Mihangel Morgan, yn ei afiaith.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

Rwy'n cofio cael fy nghyfareddu gan Caniadau T. Gwynn Jones (o bopeth) pan oeddwn i yn y Coleg. Wyddwn i ddim y gallai neb ysgrifennu mor goeth yn Gymraeg.

Y llyfr Saesneg a'm cyfareddodd pan ddarllenais ef am y tro cyntaf oedd Possession A.S. Byatt; y llyfr i ddeall meddylfryd ac obsesiynau bywgraffydd.

Pwy yw eich hoff fardd?

Mae gen i chwaeth anfeirniadol o eang: gallaf weld Ifor ap Glyn a T.H. Parry-Williams ar yr un silff yn y gornel.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Dim clem.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
'Di fegi bendefigion ' JM-J, am ei sain rhagor ei hystyr. Mae'n ddefnyddiol iawn wrth ddysgu nodweddion cynghanedd sain.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: American Beauty.
Teledu: The Simpsons, debyg

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad: Jane, yn Jane & Prudence, Barbara Pym.
Cas gymeriad: y traethydd yn Rhaid i ti fyned y daith honno dy hun, Aled Jones Williams.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Rwy'n hoff o ddyfynnu Kate Roberts, er nad wyf yn siwr o'r ffynhonnell, na'r orgraff: 'Rydan ni'n mynd drwy fywyd heb ei fyw o, am yn bod ni'n disgwyl rhwbath gwell o hyd'.

Pa un yw eich hoff air?
Chwilfrydedd

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Canu'r piano

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Diamynedd.
Hygoelus.
Dryslyd

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Gweler yr uchod

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chin ei edmygu fwyaf a pham?
Rwyf wedi dysgu edmygu Islwyn Ffowc - yn ei hoffi erioed

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?


Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Byddwn yn rhy ofnus i siarad â neb o'r gorffennol sy'n fy niddori.

Pa un yw eich hoff daith a pham?
O Ddulyn i Galway - i gyfeiriad y machlud ar noson o haf

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cyri yn y Kashmir yn Bradford, wrth fwrdd heb liain arno na chyllell na fforc: dim ond pentwr o naan.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Ysgrifennu - yn gobeithio cael gwylio lot mwy o bêl-droed byw ar ôl symud.

Pa un yw eich hoff liw?
Glas - ond nid oherwydd unrhyw gysylltiadau gwleidyddol.

Pa liw yw eich byd?
:?

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deallaf fod deddf yng Ngweriniaeth Iwerddon lle caiff unrhyw un sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus ddewis bwrw blwyddyn sabothol (yn ddi-dâl) bob saith mlynedd yn gwneud rhywbeth heblaw ei swydd arferol.
Mae'n swnio'n ddeddf iachus iawn.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill:?
Oes, am ddelweddau Cymreictod yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Mae gen i ryw wyth pennod ar eu hanner, ac mae'n dechrau dod at ei gilydd. Y drwg yw fod y deunydd crai mor ddiddiwedd.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Heb ateb

Mwy am Rhywfaint o Anfarwoldeb


Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹Éç Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý