|
|
Holi
awdur:
Gwynn ap Gwilym
Bardd
a nofelydd
Dydd Iau, Gorffennaf 25, 2002 |
Enw:
Gwynn ap Gwilym
Beth yw eich gwaith?
Clerigwr yn yr Eglwys yng Nghymru a darlithydd mewn Hebraeg ac
Astudiaethau Hen Destament yn y Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Darlithydd yn Adran Hen Wyddeleg a Gwyddeleg Ganol Prifysgol Iwerddon,
Corc.
O ble¹’r ydych chi¹n dod?
O Fachynlleth yn Sir Drefaldwyn.
Lle’r ydych chi¹n byw yn awr?
Ym Mallwyd ger Machynlleth.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
.Do, yn fawr
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig
amdano.
Gweld bedd yng Nghadeirlan Henffordd ac arno'r arysgrif: John
Trevnant, Bishop of Hereford, 1389 - 1404.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Tair cyfrol o farddoniaeth; un nofel; cyfieithiad o storïau byrion
Gwyddeleg Padraig Pearse; esboniad ar lyfr Deuteronomium a nifer fawr
o lyfrau wedi eu golygu.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Trysor y Morladron gan T. Llew Jones.
A fyddwch yn edrych arno’n awr?
Na fyddaf.
Pwy yw eich hoff awdur?
Thomas Hardy.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Methodistiaeth Galfinaidd Cymru (John Roberts, Caerdydd). Fe'm trodd
i'r Eglwys.
Pwy yw eich hoff fardd?
T. Gwynn Jones.
Pa un yw eich hoff gerdd?
Iddewes - Elwyn Evans.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Marw i fyw mae'r haf o hyd - R. Williams Parry.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Fanny and Alexander (Bergman).
Cyfresi hanes ar y teledu.
Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Michael Henchard yn The Mayor of Casterbridge, Thomas Hardy
- dyn drwg hoffus.
Abel Huws yn Rhys Lewis, Daniel Owen - dyn da atgas.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?.
Y gelyn olaf a ddilëir yw angau (1 Corinthiaid 15).
Pa un yw eich hoff air?
Ffydd
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y ddawn i ddal tafod.
Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Gwych
Gwael
Cymysg-oll-i-gyd
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Swildod parlysol a thymer ymfflamychol.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a
pham?
Yr Apostol Pedr - teyrngar, byrbwyll, plaen ei dafod, cywir.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn
rhan ohono?
Gwrthryfel Owain Glyndwr.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Owain Glyndwr.
"Lle ti di bod?"
Pa un yw eich hoff daith a pham?
Unrhyw daith ar long neu awyren i le na bum ynddo o'r blaen.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cinio fin nos yng Ngardd Parador yr Alhambra yn ninas Granada,
Sbaen.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen. Gwylio ffilmiau. Teithio. Cerddoriaeth glasurol.
Pa un yw eich hoff liw?
Asur
Pa liw yw eich byd?
Gwyn gydag ysmotiau o ddu a choch a gwyrdd.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf i wahardd moto-beics oddi ar ffyrdd bach Cymru.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Ddim ar hyn o bryd
Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith
llenyddol arall?
"Blydi hel, mae'n boeth," meddai'r Pab wrth lusgo'i dau blentyn ieuengaf
oddi ar yr awyren i wynebu'r dyrfa lawen ym maes awyr Islamabad. "Welais
i ddim byd tebyg pan oeddwn i'n groten ym Mhen-uwch."
|
|
|