Â鶹Éç


Explore the Â鶹Éç

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹Éç Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr

Adnabod Awdur:
Aled Jones Williams


Awdur

Dydd Iau, Gorffennaf 12, 2001
• Enw:
Aled Jones Williams

• Beth yw eich gwaith?
Ficer

• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? BYW GYDA POBL ANABL MEWN CYMUNED O’R ENW L’ARCHE YN LERPWL

• 0 ble’r ydych chi¹n dod?
LLANWNDA GER CAERNARFON

• Lle’r ydych chi¹n byw yn awr?
PORTHMADOG

• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
CHWECHED DOSBARTH, DO. OND NI FWYNHEAIS I ‘RUN COLEG . NA BANGOR NA CHAERDYDD. DWEUD Y GWIR CASEAIS Y COLEG DIWINYDDOL YN LLANDAF. TWLL O LE..


• Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano.
MARWOLAETH FY NHAD O DDEMENTIA YM 1997. DYDDIADUR YDIO OND MAE PAWB I WELD YN EI ALW YN NOFEL. MAE’N SON LLAWER AM BLENTYNDOD YNDDO. HEFYD Y MAE STORI AM GARWRIAETH YN YSTOD Y RHYFEL MAWR.


• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Y DDRAMA YDY FY NGHARIAD CYNTA. FELLY DRAMAU YR YDWI WEDI EU SGWENNU. PERFFORMIWYD; CNAWD PEL GOCH; FEL STAFELL; WAL; SUNDANCE ; TIWLIPS.


• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
YCHYDIG IAWN OEDDWN I YN EI DDARLLEN PAN OEDDWN I YN BLENTYN. BRON DDIM STORIAU. AC FELLY DOES YNA ‘RUN LLYFR YN NEIDIO I FY NGHOF.


• A fyddwch yn edrych arno’n awr?

MOND AR Y GWACTER LLE DYLAI LLYFR FOD.

• Pwy yw eich hoff awdur?
JANE EDWARDS

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
LLYFR Y TRI ADERYN GAN MORGAN LLWYD.

• Pwy yw eich hoff fardd?
ROBERT WILLIAMS PARRY

• Pa un yw eich hoff gerdd?
A.E.HOUSMAN GAN R. WILLIAMS PARRY.

• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
OND HIRAETH DOETH Y GALON ADRE A’M DUG

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
FFILM: ETERNITY AND A DAY GAN THEO ANGELOPOULOS.
RHAGLEN DELEDU: THE VICE HEFO KEN STOTT YN ACTIO.

• Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
FY HOFF GYMERIAD YW Y BRENIN LLYR – KING LEAR.
FY NGHAS GYMERIAD YW ENOC HUGHES AM EI FOD O MOR LLYWAETH.


• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
.
AMDANAF FI; NID EISTEDD GYDA’R UNION-GRED,NA CHYDA’R ANGHRED YNFYD.

• Pa un yw eich hoff air?
PORFFOR

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
MEDRU CERFLUNIO

• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
ANSICR;
ANWADAL;
OFNUS.

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
DIFFYG YNNI WEITHIAU.

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
ANGHARAD TOMOS OHERWYDD DYFNDER EI DALIADAU.

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Y RHYFEL CARTREF ADEG MORGAN LLWYD A CROMWELL.

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
IESU. AR CWESTIWN FYDDAI; "WEL, BE TI’N FEDDWL?"

• Pa un yw eich hoff daith a pham?
O FANGOR I LUNDAIN AR Y TREN. OHERWYDD FY MOD I YN HOFF O’R DDINAS A’R HYN YMAE HI YN EI GYNNIG

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
UNRHYW FATH O GYRI WEDI EI GOGINIO YN DDA.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
CRWYDRO

• Pa un yw eich hoff liw?
MELYN

• Pa liw yw eich byd?
GWYRDD.

• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
FOD ADDYSG A IECHYD YN WIRIONEDDOL AM DDIM I BAWB

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
OES

• Beth fyddai’r paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?

ELWCH Y MOR. CODODD Y GRAGEN ODDI AR Y SILFF BEN TAN A’I GOSOD WRTH EI GLUST.

i ddarllen adolygiad o
Rhaid i ti fyned y daith honno dy hun.






Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Â鶹Éç Cymru'r Byd






About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy