麻豆社


Explore the 麻豆社

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sandi Thomas

Adnabod Awdur:
Sandi Thomas


Awdur - llyfr am brofiadau dysgwraig

Dydd Iau, Mehefin 28, 2001
Enw:
Sandi Thomas

• Beth yw eich gwaith?
Dw i wedi bod yn athrawes llenyddiaeth a drama, cyfarwyddwraig theatr, gohebydd papur newydd yng ngogledd California ac yn ysgrifennwr teithio i鈥檙 San Francisco Examiner ac Alaska Magazine.

• O ble'r ydych chi'n dod?
Dw i鈥檔 dod o Galiffornia (Colorado yn wreiddiol)

• Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Dw i'n byw yng Ngwlad Belg nawr.

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr?
I fod yn hwb i ddysgwyr Cymraeg ac i geisio perswadio rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg i ddysgu鈥檙 iaith. I ddangos fod byd y Cymro Cymraeg werth y drafferth o ddysgu鈥檙 iaith.

• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dim. Mae hwn yn llyfr cyntaf.

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Llyfrau dirgelwch Nancy Drew

• A fyddwch yn edrych arnynt yn awr?
Fel ffrindiau hen

• Pwy yw eich hoff awdur?
Mae llawer! Jane Austen, Sharon Kay Penman, Stephen King... i enwi ond ychydig.

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Here Be Dragons gan Sharon Kay Penman

• Pwy yw eich hoff fardd?
Mae llawer, eto! Edna St. Vincent Millay (Americanes), Wilfred Owen (Sais), David Greenslade (Cymro)

• Pa un yw eich hoff gerdd?
The Town I Loved So Well gan Phil Coulter

• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
I'm Nobody, who are you? Are you Nobody too?
- Emily Dickenson

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Dw i ddim gwylio teledu ond fy hoff ffilm yw To Kill A Mockingbird.

• Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Fy hoff gymeriad yw Miss Elizabeth Bennet yn Pride and Prejudice.

Fy nghas gymeriad yw Sir Lancelot.

• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Ffydd, gobaith, cariad a鈥檙 mwyaf o鈥檙 rhai hyn yw cariad.

• Pa un yw eich hoff air?
Caru

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Yr holl gelfyddydau - artist, pianydd, actores ac ysgrifennu.

• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Bywiol
Teyrngar
Angerddol

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio?
Mathemateg!!

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Pawb sy鈥檔 ymladd dros ryddid rhag gormes.

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
William Shakespeare.
Oeddech chi yn unig awdur eich dramâu?

• Pa un ys eich hoff daith a pham?
Fy nhaith cyntaf i Gymru. Agorodd fyd newydd imi.

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Llyfrau

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen neu fynd am dro

• Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd

• Pa liw yw eich byd?
Melyn

• Pa gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Goddefgarwch tuag at wahaniaethau ac amrywiaeth pobl eraill.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes





Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 麻豆社 Cymru'r Byd






About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy