麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Lladdwr a Casglwr
Dwy nofel gan Llion Iwan
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Lladdwr a Casglwr gan Llion Iwan.


  • "Mae'r Lladdwr ar dy 么l a wnaiff o ddim, wnaiff o byth bythoedd stopio . Os ydi o'n llwyddo dy ddal mi wnaiff dy ladd. Os wyt am fyw, rhed."

    Hoeliodd y frawddeg hon fy sylw o'r munud cyntaf. Brawddeg iasoer, brawddeg rybuddiol, brawddeg sy'n addo mwy - a'r frawddeg sydd ar glawr y llyfr ac sy'n cael ei hailadrodd nifer o weithiau gydol y stori.

    Clawr y llyfr Prif gymeriad y stori yw Dafydd Smith sydd, ar 么l i'w yrfa addawol fel p锚l-droediwr yn dod i ben wedi iddoanafu ei goes, yn dychwelyd i'w gartref yn y Drenewydd i weithio ar y papur newydd lleol.

    Mae pethau'n cyffroi pan dderbyn alwad ff么n ddienw yn ei hysbysu am lofruddiaeth Gladys Morse a Dafydd yn teimlo mwy o gyffro yn ei fol wrth ddilyn y stori nac a brofodd erioed at y cae p锚l-droed yn gwisgo crys Arsenal.

    Mae ei hen gyfaill, Ifan, yn blismon sydd hefyd yn ymchwilio i farwolaeth amheus Gladys Morse.

    Mae'r dirgelwch yn dwysau pan gaiff Dafydd amlen gyfrinachol y mae ei chynnwys yn ddigon i godi'r nyth cacwn rhyfeddaf yn y byd gwleidyddol a newid hanes y byd am byth.

    Yn dilyn marwolaeth un o'i ffrindiau nid yn unig y mae bywyd Dafydd ei hun mewn perygl a rhywun am ei ladd ond caiff ei arestio hefyd ar gam amheuaeth o lofruddio.

    Roeddwn ar bigau'r drain wrth ddarllen am Dafydd yn ffoi drwy'r goedwig, a'r cwestiwn mawr oedd pa un o'i erlidwyr oedd yn mynd i'w ddal yn gyntaf? Y Cyrnol, yr heddlu neu'r Lladdwr?

    Mae hon yn stori llawn tensiwn yn symud yn gyflym rhwng Canolbarth Cymru a choridorau grym Llundain ac unwaith yr agorwch chi'r llyfr ni fyddwch yn gallu ei roi i lawr. Nid oes geiriau i ddisgrifio'r tensiwn annioddefol sydd yn y stori hon.

    Cymeradwyaf Lladdwr i unrhyw un ac er nad yw'r clawr yn hynod o apelgar mae gan Llion Iwan ddawn benigamp i ysgrifennu straeon anghredadwy.

    Casglwr
    "Mae rhywun yn hela dynion yn y dyffryn ....."
    Mae'r dilyniant hwn i Lladdwr hyd yn oed yn well na'r gwreiddiol.

    Clawr y llyfr Dafydd Smith yw'r prif gymeriad eto - a phethau'n edrych yn go ddu arno gyda'i fos ar y papur lleol yn ei gas谩u. Mae hefyd mewn dyled, ar fin colli ei swydd a'i gariad ac yn yfed gormod.

    Yna, daw ar draws stori frawychus am farwolaeth sinistr ac wrth i Dafydd a'i gydweithwraig, Elen, ddilyn y trywydd maent yn baglu ar draws cysylltiadau 芒 marwolaethau yn y gorffennol.

    Mae hyn yn ffyrnigo'r Casglwr sy'n ofni y bydd yn cael ei ddatgelu ac yntau wedi dianc o grafangau'r heddlu dros y blynyddoedd.

    Mae Dafydd yn peryglu ei fywyd ei hun a bywydau eu gydweithwyr wrth ddilyn trywydd ac y mae sawl digwyddiad dramatig.

    Dyma nofel sy'n haeddu sylw pawb gyda'i hud a'i chrefft hynod sydd fel naddu darn o bren yn gain. Mae Llion Iwan wedi rhagori ar ein disgwyliadau a buaswn yn cymell Casglwr i unrhyw un o unrhyw oed.

    Mae Llion Iwan yn meddu ar dalent brin iawn ac rwy'n edrych ymlaen i ddarllen rhagor o'i waith - dwi'n siwr na chaf fy siomi! Felly, erfyniaf ar bawb i ddarllen Casglwr. Efallai nad yw'r clawr yn edrych yn hynod o apelgar ond mae'n tynnu'r llygaid anoddaf i'w plesio.
    Darllenwch anturiaethau Dafydd Smith da chi.

  • Cyhoeddir yr adolygiad hwn fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 麻豆社 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill 拢30 am ysgrifennu - Cliciwch

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad arall o Lladdwr

  • Adolygiad arall o Casglwr


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy