| |
|
|
|
|
|
|
|
Gwyn Thomas - blwyddyn bardd Gwyn Thomas yn edrych yn ol dros ei flwyddyn yn Fardd Cenedlaethol
Bu Gwyn Thomas yn edrych yn 么l dros ei flwyddyn Fardd Cenedlaethol Cymru mewn sgwrs gyda Dei Tomos ar 麻豆社 Radio Cymru, nos Sul, Gorffennaf 15, 2007.
Y gerdd gyntaf
Dywedodd iddo sgrifennu "rhyw bymtheg neu well o gerddi" yn ystod ei flwyddyn; rhai wedi eu comisiynu yn arbennig.
Dywedodd mai ei gerdd gyntaf yn Fardd cenedlaethol oedd un am ferch ifanc a laddwyd gan geffyl yn rhoi ei harennau i'w chwaer ac achub bywyd honno.
"Roeddwn i'n meddwl, efo'r holl newyddion enbyd yna sydd o'n cwmpas ni y dyddiau hyn ei bod hi'n iechyd inni gael newydd am bobl dda . . . ac roeddwn i'n meddwl fod hynny yn beth priodol iawn i unrhyw fardd cenedlaethol i wneud," meddai.
Dolch am Brunstrom O bosib mai un o'i gerddi mwyaf dadleuol oedd un yn diolch am Richard Brunstrom, Prif Gwnstabl Gogledd Cymru.
"Do, mi es i ati i sgwennu cerdd i Richard Brunstrom. Sais ydi o 'de, a mynd ati i ddysgu Cymraeg!
"Mae o wedi gweddnewid y sefyllfa rhwng pobl a'r heddlu yng ngogledd Cymru, er efallai nad ydi'r Daily Post yn ei hoffi o.
"Pan sgwennais i'r gerdd yna roedd yna ryw aelod seneddol yn y gogledd ddwyrain yna ddim yn hoffi hynny ychwaith."
Pobl yn y geiriau Bu'n trafod hefyd absenoldeb pobl yn y llyfr o luniau am Flaenau Ffestiniog y cyhoeddodd gerddi ar eu cyfer.
"Does yna ddim pobl yn y lluniau ond mae yna bobl yn y geiriau sy'n cyd-fynd a'r lluniau," meddai.
Y Gelli
Un o uchelbwyntiau ei flwyddyn oedd ymweld 芒 Gwyl y Gelli - ac er yn wyl Seisnig yn ei hanfod pwysleisiodd bwysigrwydd bod yno:
"Doeddwn i erioed wedi bod yno o'r blaen.
"[Ym mhabell yr Academi] mi wnaethom ni wneud darlleniadau oedd yn Gymraeg i gyd wedyn roedd yna ddarlleniadau gan rhyw saith, wyth, o feirdd - a rhai ohonyn nhw yn feirdd oedd wedi ennill Gwobr Nobel a phethau felly - yn un o'r pebyll mawr yma ar y nos Sul ac wrth gwrs mi glywodd rheini Gymraeg hefyd. . .
"Mae'n dibynnu ar bobl i fynd yno a gwneud pethau yn Gymraeg yn ogystal a'u dehongli i bobl eraill.
"Os ydych chi'n troi cefn ar bethau dydych chi ddim am fod yno wedyn, nac ydych - mae gofyn ichi ymwthio.
"A dydi pobl ddim am eich cau chi allan beth bynnag. Maen nhw eisiau ichi fod yno ac mae'n bosib gwneud llwyddiant o'r peth," meddai.
Ar fatiau cwrw
Yn ystod y flwyddyn gwlwyd cyhoeddi cerddi ganddo ar fatiau cwrw:
"Roedd hwn yn un o'r pethau wnaethom ni s么n amdano ar y dechrau un; sef cael cerddi yng ngolwg pobl mewn rhyw fannau cyhoeddus ac yn y blaen ac roeddwn i wedi awgrymu nifer o bethau - ac eisiau pethau gan feirdd cyfoes.
"Ond pethau byr oedd eisiau oedd yn ffitio ar fatiau cwrw ac yn y blaen ac mi wnes i ddewis rhai hen benillion a'u cyfieithu nhw hefyd ac mae yna un neu ddau o bytiau bach gen i," meddai.
Yn America
Ymweliad a wnaeth argraff arno yn ystod y flwyddyn oedd un 芒 Monument Valley.
Bu'n s么n am ei ymateb o weld Indiaid Cochion - "Mae'n well ganddyn nhw gael eu galw yn hynny nag yn frodorion gwreiddiol" - yn cael tynnu eu lluniau.
Cadw'r lleisiau
Dywedodd mai un o'r pethau yr oedd yn arbennig o falch ohonynt oedd cynllun i ddiogelu lleisiau beirdd.
"Fel un o'r giamocs ar y dechrau cyntaf mi wnes i s么n ei bod hi'n bwysig ein bod ni yn recordio lleisiau beirdd achos fel yr ydw i wedi dweud hyd at syrffed yr oeddwn i wedi methu a chael gafael ar lais R Williams Parry.
"A dyma Dafydd John Pritchard o'r Llyfrgell Genedlaethol yn dweud y byddai o yn hoffi cydweithredu ar hyn ac mae yna feirdd wedi cael eu recordio yn barod ac mi fydd yna fwy yn digwydd.
"Mae hyn yn bwysig oherwydd mae yna wahaniaeth yn y ffordd y mae beirdd yn darllen eu gwaith a'r ffordd y mae pobl eraill yn ei ddarllen a dwi'n meddwl eich bod yn dod yn nes at y ffordd iawn pan yw bardd yn darllen ei waith ei hun - hyd yn oed os ydi o'n darllen yn weddol giami!" meddai.
Ei hunangofiant
Dywedodd unwaith eto na fydd yn ychwanegu at ei hunangofiant - gan fod y cyfnod wedi Bywyd Bach yn fwy cymhleth ac aneglur yn ei feddwl .
"Ac mae'n bosib sathru mwy o gyrn - nid bod gen i ots am hynny."
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|