| |
|
|
|
|
|
|
|
Diwrnod y Llyfr 2008 E-gardiau, digwyddiadau, miri a hwyl . . .
Diwrnod sydd wedi tyfu a thyfu
Bydd pob math o ddigwyddiadau ar hyd a lled Cymru i ddathlu Diwrnod y Llyfr 2008 - ddydd Iau, 6 Chwefror.
Mae hwn yn ddiwrnod sy'n tyfu o flwyddyn i flwyddyn ers ei gynnal gyntaf yng Nghymru fel un o weithgareddau Blwyddyn Darllen 1998-99 ac yn cael ei weld gan gyhoeddwyr a hyrwyddwyr fel Cyngor Llyfrau Cymru yn un o ddyddiadau pwysicaf y flwyddyn.
Ail flwyddyn ddarllen
Ac yn 2008 mae Diwrnod y Llyfr hefyd yn ddiwrnod cychwyn yr ail Blwyddyn Darllen a fydd yn cael ei chyhoeddi'n swyddogol gan Jane Hutt - y gweinidog dros addysg, plant, dysgu gydol oes a sgiliau -yn y Cynulliad Cenedlaethol - fore Iau, 13 Mawrth, yn y Senedd.
Yn ystod y blynyddoedd cynnar cymharol ychydig o ddigwyddiadau a drefnwyd a'r rheini gan y Cyngor Llyfrau ond yn sgil llwyddiant y rheini sylweddolwyd y gallai hwn dyfu i fod yn rhywbeth llawer iawn mwy na'r hyn y gallai'r criw bychan o weithwyr y Cyngor ei gynnal eu hunain.
Y canlyniad fu ffurfio partneriaethau ac fe fydd ffrwyth hynny i'w weld yn glir eleni gyda channoedd o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu gan amrywiaeth o bobl a sefydliadau a'r gweithgareddau hynny yn ymestyn ymhell y tu draw i ffiniau un diwrnod.
Dros y blynyddoedd daeth nifer o is ymgyrchoedd i fodolaeth gan gynnwys yr ymgyrch Gair ar Led gyda'i gardiau post ac e-gardiau lliwgar y gellir eu hanfon o'r wefan hon i argymell a chymeradwyo llyfrau neu rannau profiadau darllen.
Stori Sydyn
Menter arall sy'n ganolog i'r diwrnod erbyn hyn yw'r gyfres Stori Sydyn gyda nifer o deitlau wedi eu cyhoeddi ar gyfer y diwrnod eleni gan gynnwys stori gan un o'n hawduron mwyaf poblogaidd, Caryl Lewis, Jackie Jones
Partneriaeth yw'r gyfres hon gyda Sgiliau Sylfaenol Cymru a nawdd gan y Cynulliad ac yn un y mae'r Cyngor Llyfrau yn amlwg yn rhoi cryn bwys arni fel cyfrwng i ddenu pobl i ddarllen.
Mae'r llyfrau yn fyr ac mewn print bras ac yn rhai nad ydynt yn hawlio llawer o amser y darllenydd.
Ar y cychwyn nofelau byrion neu straeon byr hir oedden nhw ond erbyn hyn mae llyfrau ffeithiol wedi eu cyhoeddi hefyd.
Erbyn hyn cyhoeddwyd 12 cyfrol Gymraeg a 10 o rai Saesneg o Gymru ac yn 么l yr hyrwyddwyr mae "croeso mawr" iddynt a hwythau mor addas ar gyfer oedolion sy'n ceisio gwella eu sgiliau sylfaenol.
Mae iddynt eu hap锚l ymhlith dysgwyr hefyd.
Mae adran arbennig ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru gyda gwybodaeth am y rheseidiau o ddigwyddiadau ar hyd a lled Cymru,
Ymhlith uchelbwyntiau y llynedd yr oedd penderfyniad cwmni Wiltan o Bont-y-p诺l i greu llyfrgell ar gyfer y gweithwyr ar Ddiwrnod y Llyfr.
Yn 2008 criw o undebwyr llafur o ardal Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr sydd wedi tanlinellu gwerth y Diwrnod i'w gwaith hwythau. - yn ystod lansiad Stori Sydyn/Quick Reads 2008 gan Scott Quinnell yng nghynhadledd TUC Cymru yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe, dywedwyd i nifer o undebwyr gydweithio 芒 llyfrgellwyr ysbytai i drefnu ymgyrch Llamu mewn i'ch Llyfrgell ar gyfer y diwrnod.
e-gardiau Diwrnod y Llyfr
Blwyddyn darllen 2008
Cysylltiadau Perthnasol
Blwyddyn Darllen 2008
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|