Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Themâu ein Llên
'Beibl' i'r sawl sy'n sgwennu
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Themâu ein Llên - Blas ar themâu ein llenorion gan Emyr Llywelyn. Lolfa. £7.95.


  • Pan welais hysbyseb gan y Lolfa am y llyfr hwn roeddwn am feddu ar gopi ar unwaith a rhuthrais i'w swyddfa gan imi deimlo y buasai ei ddarllen o fudd imi oherwydd fy hoffter o ysgrifennu creadigol.

    Ond yn wir, wedi'i ddarllen - nid llyfr mohono ond perlau o wybodaeth y dylasai pob awdur eu darllen!!

    Clawr y llyfr Mae hi'n gyfrol bwysig arall gan Emyr Llywelyn, sy'n rhoi arweiniad i waith pedwar llenor cyfoes.

    Hefyd, cawn ddetholiadau cynhwysfawr dan themâu penodol o waith llenorion o Gymru ac o wledydd tramor.

    Fel yr awgryma'r teitl, mae'r llyfr yn trin a thrafod themâu llenyddiaeth yn gyffredinol ond trwy ganolbwyntio'n arbennig ar bedwar awdur - Caryl Lewis, Mihangel Morgan, Eleri Llewelyn-Morris a Geraint Vaughan Jones.

    Mae'r llyfr wedi'i rannu'n ddwy ran gyda chyfweliadau hynod o ddiddorol gyda'r pedwar awdur yn y rhan gyntaf.

    Gan imi ddarllen nifer o straeon yr awduron roeddwn yn awyddus i ddarganfod sut yr aethant ati i greu'r fath gampweithiau.

    Mwynhau fwyaf
    Er bod y pedwar cyfweliad yn ddiddorol, mae'n rhaid cyfaddef taw un Caryl Lewis a fwynheais fwyaf - o drwch y blewyn meinaf! - gan imi deimlo y gallwn uniaethu'n fwy gyda hi na'r lleill.

    Yn dilyn pob cyfweliad mae detholiad o weithiau'r awduron gyda cwestiynau'n dilyn i brofi'n gallu i sylwi ar amrywiadau llenyddol a themâu yn y darnau darllen.

    Syniad defnyddiol dros ben.

    Modd i fyw
    Yn yr ail ran mae'r pwyslais ar themâu, techneg, naratif, plot ac adeiladwaith a chymeriadaeth ond gyda hyd yn oed yn fwy o ddetholiadau o weithiau nifer o awduron.

    Cefais fodd i fyw wrth ddarllen y detholiadau gan imi hefyd ddarganfod llawer am y math o berson yr ydw i.

    Cyn hyn, rwyf wedi bod yn darllen amrywiaeth o lyfrau ar ystod eang o themâu heb sylweddoli'n iawn pa thema sydd yn fy nghyfareddu i fwyaf - os o gwbwl!!

    Ond drwy ddarllen detholiadau gwrthgyferbyniol ar yr un adeg gwelaf yn glir pa themâu sydd yn fy ysbrydoli fwyaf i ysgrifennu fy hun.

    Credaf ei bod hi'n syniad gwych gan yr awdur, Emyr Llywelyn, i nodi llyfrau tebyg o ran thema o dan y detholiadau.

    Gallaf ganolbwyntio bellach ar y llyfrau argymhellwyd ar gyfer fy mhersonoliaeth i.

    I bob oed
    Mae Themâu ein Llên yn cael ei gymeradwyol ar gyfer rhai sy'n astudio Cymraeg Safon A ond fel disgybl fydd yn sefyll arholiadau TGAU eleni ac sy'n mwynhau ysgrifennu straeon byr rwy'n argymell y llyfr i ddisgyblion ysgol uwchradd o unrhyw oedran i baratoi ar gyfer arholiadau.

    Haedda Themâu ein Llên bob clôd a chanmoliaeth.

    Mae'n werth ystyried yr awgrymiadau a roddwyd i'r darllenwyr gan yr awduron adnabyddus yn eu cyfweliadau - a'r tro nesaf y byddaf yn mynd ati i ysgrifennu stori fer, bydd Themâu ein Llên yn Feibl wrth fy ymyl!!!!

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹Éç Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý