| |
|
|
|
|
|
|
|
Lladdwr Croesawu nofel gyfffrous
Rhagfyr 2005 Adolygiad Gwenllian Higginson, Ysgol y Preseli, o Lladdwr gan Llion Iwan. Gomer 拢6.99.
Ar adeg pan fo cyhuddiadau o MI5 a gwasanaethau cudd y wladwriaeth Brydeinig yn rhedeg ysbiwyr y tu mewn i Sinn F茅in yn Iwerddon, cwbl amserol yw croesawu nofel gyffrous Llion Iwan, Lladdwr.
Mae Llion Iwan yn ein harwain i fyd tywyll, lle cyrchir amcanion gwleidyddol heb rwystrau moesol; byd y licence to kill.
Rhaid canmol strwythur ac arddull y llyfr hwn; er i'r stori fod braidd yn ddryslyd ar y cychwyn, gan neidio o olygfa i olygfa ac o'r presennol i'r gorffennol.
Mewn dull teledaidd, mewn gwirionedd, mae hyn yn adlewyrchu ansicrwydd a dryswch byd y gwasanaethau cudd.
Dilynwn antur Dafydd Smith sydd wedi cael gafael ar ddogfennau amheus wrth iddo geisio cael gafel ar stori fawr ar gyfer y papur newydd leol.
Ar 么l darllen y dogfennau cyfrinachol yma, mae'n sylweddoli fod rhywbeth mawr o'i le, does dim dewis ganddo ond cyhoeddi; ond mae'r lladdwr ar ei 么l a "wnaiff o byth bythoedd stopio. Os ydi o'n llwyddo mi wnaiff dy ladd. Os wyt ti am fyw, rhed."
Ond gwell peidio 芒 datgelu rhagor... os ydych am ddihangfa rhag "gameshows" diflas ar y teledu prynwch y llyfr yma.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 麻豆社 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad arall
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|