| |
|
|
|
|
|
|
|
Fyny Lawr Rhy drwm a than bwysau!
Adolygiad Carys Mair Davies o Fyny Lawr gan Meleri Wyn James. Gomer. 拢7.99.
Cyhoeddwyd llyfr diweddaraf Meleri Wyn James, Fyny Lawr, ar gyfer taro'r siopau llyfrau erbyn y Nadolig.
Mae 拢7.99 yn bris teg iawn am yr oriau o ddarllen a mwynhad a gefais.
Mae'r stori'n dilyn taith bywyd y prif gymeriad, Judith, o'i gwaith i'w byd carwriaethol; o'i bywyd cymdeithasol i fyd o gyfrif calor茂au'n ddi-baid.
Datblyga edau aur y plot mewn modd gelfydd iawn gan godi cwestiynau ym meddyliau'r darllenwyr.
Er y codir cwestiynau sy'n mynd ac yn dod mae un cwestiwn sy'n poenydio'r darllenwyr gydol y nofel, Beth yw hanes gorffennol tywyll Judith?
Ac ni chawn ateb i'r cwestiwn hwn tan y munudau olaf.
Ceir cymeriadau hollol gredadwy yn y nofel. Nid ydynt wedi cael eu rhoi ar bedestal nac ychwaith wedi'u portreadu fel arwresau ffasiynol sy'n achub y dydd.
I'r gwrthwyneb a dweud y gwir!! Gwelir pob cymeriad 芒'i wendid ei hun, pob cymeriad 芒'i gryfder ei hun a phob cymeriad 芒'i lwyth o broblemau.
Tanseilio hyder Er enghraifft dyna ichi Erin sy'n fam briod i efeilliaid ac yn ffigur blaenllaw a hyderus ymhlith ei ffrindiau.
Ond pan fo'i g诺r, Breian, yn dechrau gweithio oriau hir ac yn mynychu cyfarfodydd sydd ynghlwm 芒'i waith yn selog, gwelwn nad yw hi mor hyderus ag yr ymddengys ar yr olwg gyntaf.
Mae'n dechrau amau fod Breian yn cael aff锚r ac yn gwneud popeth o fewn ei gallu i achub ei phriodas. A phan rwy'n dweud popeth - rwy'n meddwl popeth!!
Cwbl gredadwy Mae'r cymeriadau a geir yng nghampwaith Meleri Wyn James yn gwbl gredadwy fel cymeriadau'r gymdeithas fodern yr ydym yn byw ynddi heddiw.
Buaswn yn argymell Fyny Lawr ar gyfer merched yn bennaf gyda'r stori yn troi o amgylch clwb colli pwysau.
Credaf fod y llyfr yn un gwirioneddol wych ar gyfer merched yn eu harddegau sy'n poeni am eu pwysau gan ei fod yn darlunio problemau colli gormod o bwysau yn rhy gyflym ac yn datgelu sut mae colli pwysau mewn ffordd iach.
Ac mae'r teitl, Fyny Lawr, yn adlewyrchu'n berffaith yr hyn a geir yn y stori gyda'r emosiynau'n rhemp!!
Mae'r clawr yn un apelgar ac addas hefyd.
Felly, dewch i fyny ac i lawr gyda Judith wrth iddi geisio dal y ddysgl yn wastad gyda'i theulu a cheisio cefnogi Erin, gwneud ei marc yn y byd cyfieithu a pheidio a thynnu blewyn o drwyn Lowri, ei chydweithwraig berffaith ond llym ei thafod.
Ac, wrth gwrs, gyfri'r calor茂au!!
Clamp o stori a fydd yn eich hudo o'r cychwyn cyntaf. Byddwch yn si诺r o chwerthin - a chrio - gyda nofel newydd Meleri Wyn James, sy'n ddathliad o fywyd yn ei holl gymhlethdod!!
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 麻豆社 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiadau eraill Cynllun Papurau Bro
Clamp o Broblem
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|