| |
|
|
|
|
|
|
|
Hi Oedd fy Ffrind Darganfod hoff awdur newydd
Adolygiad Dylan Davies o Hi Oedd fy Ffrind gan Bethan Gwanas. Lolfa.
Fel person ifanc, nid wyf yn rhy hoff o ddarllen llyfrau.
I fod yn onest, nid wyf yn darllen llawer o lyfrau Cymraeg - ond ar 么l gwylio rhaglen Ar y Lein ar S4C a gweld Bethan Gwanas mor fywiog rhoddais gynnig ar ddarllen ei llyfr newydd.
Hanes Non a Nia Dilyniant yw i'r nofel Hi yw fy Ffrind - hanes y berthynas rhwng Non a Nia.
Portreadir Non fel merch nwydwyllt sy'n meddwl llawer amdani'i hun. Mae am fod yn actores broffesiynol ac yn dilyn cwrs drama yn y Brifysgol yn Aberystwyth.
Darlunnir bywyd myfyrwyr fel un o yfed, meddwi a chysgu gyda dyn gwanhaol bob nos.
Mae Non yn cysgu gyda chariad ei ffrind gorau ar ddechrau'r nofel gan ddifetha popeth iddi ei hun trwy ei hymddygiad byrbwyll.
Ar 么l gorffen coleg mae'n symud i Gaerdydd ac yn cael gwaith fel ecstra. Hyd yn oed pan gaiff ran fel "actores iawn" mae'n dwyn offer o'r set.
Yn gynnar iawn yn y nofel dysgwn ei bod yn dioddef o 'bwlimia' hefyd.
Erbyn diwedd y nofel daw i sylweddoli pa mor unig yw ac mae'n ceisio lladd ei hun ond nid ydym yn si诺r a fu'n llwyddiannus ai beidio gan nad oes epilog i'r nofel.
Mewn gwrthgyferbyniad 芒 Non, er nad yw'n byw fel lleian, mae Nia'n gweithio mewn fferyllfa ac yn caru Jac.
Mae ei thad yn marw dan amgylchiadau amheus a hynny'n peri i Non a hithau gyfamodi.
Mae'n anghofio cymryd y bilsen a beichiogi - ac mae Jac a hi'n priodi. Mae'n dal i gysylltu 芒 Non ac ar ddiwedd y nofel mae'n gadael neges i Non ar y ff么n yn dweud am enedigaeth ei merch, Gwenll茂an.
Dwy ar sedd Mae clawr y llyfr yn dangos dwy ferch yn eistedd un y naill ben a'r llall i sedd yn edrych dros Fae Ceredigion - yn arwydd o'r rhwyg rhyngddynt.
Hyn yn dra gwahanol i glawr y llyfr cyntaf lle mae'r ddwy yn agos at ei gilydd mewn cyfeillgarwch.
Mae'r nofel yn ddarllenadwy ond yn defnyddio tipyn o regfeydd a gallwn ddychmygu Bethan Gwanas a gw锚n fawr ar ei hwyneb wrth deipio'r rhegfeydd yn y nofel.
Er hyn, ni fyddwm yn ei hargymell i neb dan 16 i'w darllen.
Er mai dilyniant yw hon ni theimlais bod unrhyw reidrwydd darllen Hon yw fy ffrind i'w deall ond wedi ei darllen, cododd awydd arnaf i ddarllen y nofel gyntaf.
Hoff awduron Pe byddai rhywun wedi fy holi cyn hyn, pwy yw fy hoff awdur Cymraeg, yr ateb fyddai T Llew Jones ac Islwyn Ffowc Elis ond ar 么l darllen Hi Oedd fy Ffrind rhaid ychwanegu enw Bethan Gwanas.
Edrychaf ymlaen at lyfr newydd ganddi.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 麻豆社 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiadau eraill
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|