麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dawnsio Gwirion a'r Duw Rhyw
Miri, sbort a sbri
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Dawnsio Gwirion a'r Duw Rhyw gan Si芒n Summers. Gwasg y Dref Wen. 拢6.99.


  • Cefais fy nenu at y llyfr hwn gan ei glawr lliwgar a oedd yn addo cynnwys yn llawn bwrlwm, miri, sbort a sbri - ac mae'n rhaid cyfaddef na chefais fy siomi.

    Clawr y llyfr Cawn y stori ardderchog yma o safbwynt Sadie, merch 13 oed (a deg mis a hanner!!) sy'n byw gyda'i rhieni, ei brawd "dronglyd" h欧n, Taylor, a'i chwaer "ciwt" ieuengach, Hayley - - heb anghofio Elfis, y ci "problematig"!

    Dyddiadur
    Mae'r stori ar ffurf dyddiadur sy'n dechrau gyda chwech wythnos o wyliau haf o'r ysgol.

    Yn hytrach na'r disgrifiadau a'r cyflwyniadau arferol a geir ar ddechrau nofelau, cawn ein tynnu i mewn i gorwynt bywyd Sadie o'r cychwyn cyntaf gyda'r frawddeg;
    "Be ydi problam pawb?"

    Mae'r agoriad yma yn gwneud Sadie yn gymeriad hoffus dros ben oherwydd nid ydym yn si诺r beth sydd wedi'i chythruddo na beth fydd yn digwydd iddi nesaf.

    Ond cawn wybod yn ddigon cyflym beth sydd wedi'i gwylltio wrth iddi fwrw i baragraff hir am beth sydd o'i le ar ei bywyd - sef, yn bennaf, ateb Cymru i Ant a Dec, ei thad a'i Yncl Kenny!!

    Drwy'r dyddiadur mae Sadie yn neidio o un broblem i drasiedi arall. Os nad yw hi'n cwympo allan 芒'i ffrind gorau, mae hi'n gwerthu ymbarels llachar ar ddiwrnod toreithiog o haf yn y Royal Welsh; ac os nad yw hi'n cyhuddo menywod o Sweden o ddwyn ac yn neidio ar eu pennau, yna mae'r Duw Rhyw ei hun yn ei gweld hi 芒'i phen 么l yn yr awyr ar 么l cwympo i mewn i glawdd wrth loncian.

    Ond dyw'r problemau hyn yn ddim o gymharu 芒'r digwyddiadau erchyll a fydd yn newid ei bywyd yn nes ymlaen yn y stori.

    Problemau ei rhieni
    Mae Sadie'n gwybod fod ei rhieni'n cael problemau gan iddi golli sawl noson o gwsg yn gwrando ar eu ceryddu.

    Felly, pan fo hi'n clywed ei mam yn poenydio ei thad dro ar 么l tro mae hi'n camu i mewn i'r ddadl ac yn ceisio'i gorau i atal ei mam rhag lladd ar ei thad.

    Dim ond wedyn mae hi'n darganfod fod ei mam yn feichiog, fod ei ffrind gorau (newydd ers iddi gwympo allan 芒 Jo), Fflur, wedi dioddef bwlian di-ben draw yn ei hen ysgol a bod ei thad, o bawb, yn cael aff锚r!!!

    Darganfu Sadie ei hun yn ddiymadferth yn y canol a threialon bywyd yn cael eu taflu ati heb drugaredd.

    Mae ei hamynedd a'i doethineb yn cael eu profi i'r eithaf ond rhywffordd neu'i gilydd mae hi'n delio 芒'r sefyllfaoedd "problematig" ac yn darganfod ei hun ynghlwm wrth wefusau Caron y Duw Rhyw.

    Gwelwn Sadie ei hun yn aeddfedu drwy gydol y stori ac mae'r diweddglo yn benagored sy'n gadael y darllenydd yn ysu am fwy.

    Hoff gymeriad
    Fy hoff gymeriad yn y nofel yw Yncl Kenny ac er nad yw'n gymeriad blaenllaw iawn mae'n meddu ar bersonoliaeth gref a'r ddawn i wneud i chi chwerthin.

    Cawn wybod fod Yncl Kenny (neu YK) yn gweithio iddo'i hun ac yn tynnu tad Sadie i mewn i fenter ar 么l menter.

    Go brin fod angen gofyn a yw'n llwyddo neu beidio gan fod ei waled bob amser yn ysgafn iawn.

    Hoffwn fod wedi cael mwy o hanes ei fywyd ef ac yntau'n swnio'n gymeriad mor hynod!

    Tafodiaith ogleddol sydd i'r nofel ond yn ddigon ddealladwy ac rwyf yn argymell yn gryf fod pobl ifanc yn ei darllen gyda'i iaith sy'n 'wddol dbyg i dcst' mewn mannau.

    Mwynheais ddarllen Dawnsio Gwirion a'r Duw Rhyw yn enfawr. Mae'n ddeunydd darllen ysgafn ar gyfer penwythnos a byddaf yn sicr yn darllen mwy o waith Si芒n Summers yn y dyfodol gan obeithio y bydd dilyniant i'r llyfr yma er mwyn cael gwybod beth a ddigwydd rhwng Sadie a Caron yn y pen draw!!

    Llyfr i'w ddarllen os ydych am chwerthin nes i'ch ochrau frifo!

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 麻豆社 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Adolygiad arall o'r llyfr


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy