| |
|
|
|
|
|
|
|
Cam Wrth Gam Crafangau'r ddiod
Adolygiad Lowri Rebecca Davies o Cam Wrth Gam gan Mari Emlyn.
Nofel yn ymdrin ag alcoholiaeth yw hon, pwnc dwys iawn byddech yn ei feddwl ar gyfer nofel gyntaf ond y mae Mari Emlyn yn haeddu pob canmoliaeth am y llyfr hwn.
Mae'n ein tywys ni i ganol byd gwraig barchus o'r enw Leusa, trwy ei dyddiadur.
Ar yr wyneb, cawn ddarlun braf iawn o fywyd.
Mae gan Leusa 诺r golygus, gyrfa lwyddiannus a th欧 moethus.
Y bywyd delfrydol i rai mae'n si诺r. Ond y tu 么l i hyn mae darlun arall ac wrth i Mari Emlyn dreiddio i ganol y nofel, cawn wybod am y cwmwl du sy'n hedfan dros fywyd Leusa - alcoholiaeth ei mam.
Mae cyflwr y fam, yn y diwedd, yn peri iddi guddio ei gwir deimladau a'i hemosiynau rhag pawb a hynny, o ganlyniad, yn cael effaith dyngedfennol ar ei phriodas.
Wrth gwrs, cydymdeimlwn yn llwyr 芒 Leusa wrth iddi ymhelaethu ar ei straen o orfod cuddio cyflwr ei mam a'r cywilydd a deimlir tuag ati.
Fel y gallwch dybio, mae'n gosod naws hynod o drist i'r nofel.
Rhaid canmol Mari Emlyn am nofel sy'n gofyn am gryn dipyn o ddealltwriaeth seicolegol wrth ymdrin 芒 thema mor ddifrifol.
Llwydda i ddenu'r ddarllenwr o'r cychwyn cyntaf a chawn ein taflu'n syth i fywyd dirdynnol Leusa, gyda'r geiriau, "Anghofia i fyth, fyth y noson honno."
Dyma nofel rymus iawn, sydd yn llwyddo i gipio meddwl a dychymyg y ddarllenwr yn syth gyda'i chymeriadau realistig a phlot gwreiddiol yn cadw'r un lefel o sylw tan y llythyren olaf. Mae hi'n sicr yn un gwerth ei darllen!
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 麻豆社 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Adolygiad ar Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|