| |
|
|
|
|
|
|
|
Hen Friwiau Corwynt bywyd Aleska Jones
Adolygiad Carys Mair Davies, Llanbadarn, Aberystwyth o Hen Friwiau gan Dyfed Edwards. Gwasg Carreg Gwalch. 拢6.50
Wedi darllen Hen Friwiau gan Dyfed Edwards byddaf yn gwneud yn si诺r fy mod yn cadw'r berl hon.
Enynnwyd fy niddordeb yn y llyfr o'r cychwyn cyntaf gan brofi'r rhialtwch, y sbort a'r sbri o gael fy nhaflu i gorwynt bywyd y gohebydd Aleska Jones.
Caiff y darllenydd ei lusgo i fyd o gyfrinachau a sgandal pan ddaw Aleska ar draws stori am lofruddiaeth merch ifanc chwarter canrif yn 么l - llofruddiaeth sydd heb ei datrys.
Mae Aleska yn benderfynol o ddod sicrhau cyfiawnder i Glenda Rees; y ferch a gafodd ei thagu a'i gadael yn noeth ar waelod coelcerth.
Wrth iddi dyrchu i'r stori mae Aleska'n tynnu nyth cacwn yn ei phen trwy agor hen friwiau a thynnu sylw lladdwr cyfrwys sy'n fwy na pharod i ladd eto.
Caiff Aleska ei bygwth, ei herwgipio ddwywaith a'i herlid o'i chymuned pan ddaw ar draws cyfrinachau tywyll pileri'r gymdeithas.
Pwy a ddychmygai fod uwch arolygydd, sy'n briod 芒 chanddo blant, wedi'i ddal a'i drowsus o amgylch ei sodlau ar ei liniau efo adeiladwr mewn toiledau maes parcio?
A phwy a ddychmygai fod cyflogwr a'i frawd wedi beichiogi'u chwaer am hwyl gan adael i eraill wneud yr un peth? A beth am y gweinidog? Pwy a ddychmygai ddyn yr Efengyl yn treisio merched? Neu beth am wraig t欧 gymeradwy? A fuasai hi'n llofruddio chwaer ei gwr pan ganfu fod y ddau yn cael perthynas rywiol?
Ond mae gan yr uchelgeisiol eu cyfrinachau yn Hen Friwiau.
Diwedda'r stori'n benagored pan fo Aleska Jones yn ffarwelio 芒'i ffrindiau, ei chartref a'i chariad a throi tuag at strydoedd llwch a phalmentydd aur Llundain i gesio anghofio'r wythnosau diwethaf a gadael i'r creithiau wella.
Stori antur, sydd ymron yn iasoer yw campwaith Dyfed Edwards.
Mae i'r llyfr glawr iasol gan roi syniad i'r darllenwyr o'r cynnwys ac yn fy marn i mae'r clawr hwnnw yn ategu at yr elfen o erchylltra sy'n hanfod y llyfr.
Mae sawl elfen i'r stori gan gynnwys cariad, casineb, goddefgarwch a pherthynas mam a merch.
Ond y brif thema, fodd bynnag, yw'r newid mewn cymdeithas.
Fy hoff gymeriad yw'r prif gymeriad, Aleska Jones nad ydym yn cael gwybod popeth amdani ar y cychwyn a hynny'n creu elfen o ddirgelwch yngl欧n 芒 hi.
Ond wrth i'r plot ddatblygu, felly ei chymeriad hithau.
Er yn sylweddoli ei bod yn chwarae 芒 th芒n wrth ddilyn trywydd stori Glenda Rees mae ei 'styfnigrwydd yn gwrthod gadael iddi gladdu'r stori yr eilwaith a hithau'n dawnsio ar ffin beryglus.
Ond fy hoff elfen ynddi yw ei bod yn gwrthod cael ei rhwystro gan unrhyw beth nac unrhyw un sy'n sefyll yn ei ffordd.
Adeiladodd wal amddiffynnol gadarn o'i hamgylch ei hun gan wrthod gadael teimladau yn agos ati.
Dim ond unwaith neu ddwy y cawn gipolwg arni heb ei mantell amddiffynnol a hynny'n peri iddi fod yn gymeriad angerddol iawn.
Defnyddir iaith eithaf syml, uniongyrchol, diaddurn a deheuol i ddweud y stori.
Yn fy marn i mae hon yn nofel addas ar gyfer plant 14 oed a throsodd. Mae ychydig o regfeydd a bratiaith.
Os oes bai o gwbl, y ffaith iddi ddirwyn i ben yn llawer rhy gyflym yw hwnnw felly gobeithio y bydd dilyniant!
Efallai y gwel rhai y dechreuad ychydig yn aneglur ond mae'n werth dal ati ac yn fuan iawn fe fyddwch yn ei chael yn amhosib rhoi'r llyfr i lawr!
Mae gan yr awdur dalent werthfawr, dychymyg hudolus a sbarc yn ei ysgrifennu. Ac o ddarllen llyfr arall o'i eiddo buaswn yn llwyr argymell gwaith Dyfed Edwards - yn enwedig Hen Friwiau
Gweler Gwales
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 麻豆社 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|