麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Arthur - brenin ac arwr pob oes
'Cyfraniad pwysicaf Cymru i'r byd'

  • Glyn Jones: 'Y Brenin Arthur - ffaith ynteu ffuglen?
  • Heb unrhyw amheuaeth, y Brenin Arthur yw cyfraniad pwysicaf Cymru i lenyddiaeth y byd.

    Bu'n destun cannoedd o gerddi, llyfrau a ffilmiau, ac y mae mwy nag un wlad wedi ceisio ei ddwyn oddi arnom a'i hawlio.

    Fodd bynnag, a oes sail hanesyddol i'r holl l锚n Arthuraidd yma, ynteu a yw'n trysor cenedlaethol yn ddim ond straeon celwydd golau?

    Llun dychmygol o'r Brenin Arthur

    Mae'r ateb yn niwloedd gorffennol gwych ein gwlad.
    Awn yn 么l i ddechrau'r chweched ganrif cyn bo s么n am Loegr a phan oedd yr ynys fawreddog hon yn nwylo'r Brytaniaid a chnocio ar ddrysau trymion llysoedd y wlad i geisio cael cip ar y Brenin balch. Ond och! Nis gwelwn yn unman.
    A pham?
    Gan nad brenin oedd y Brenin Arthur, dyna pam.

    Dyn go iawn
    Ond peidiwch 芒 digalonni. Roedd Arthur yn gymeriad hanesyddol go iawn. Disgrifia'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru ef fel: ". . . pennaeth neu arweinydd milwrol ar y Brytaniaid a dyfodd erbyn yr Oesoedd Canol yng nghof gwlad ac yn nychymyg cyfarwyddiaid a llenorion yn ganolbwynt i liaws o chwedlau a rhamantau."

    Y traddodiad llafar sy'n gyfrifol am hyn. Roedd pawb yn awyddus i hawlio Arthur iddynt eu hunain a chyda dychymyg byw ychwanegwyd at yr hyn a wyddid amdano.

    Mae'n debyg mai'r Cristnogion a ddechreuodd y si iddo gario Croes yr Arglwydd ar ei ysgwyddau am deirnos a thridiau.

    Mae'n debyg mai'r Cymry gwlatgar a honnodd iddo ymladd deuddeg brwydyr buddugoliaethus yn erbyn y Saeson.

    Cyn sgrifennu
    Cyn i'r chwedlau Arthuraidd gael eu sgrifennu hyd yn oed, roedd y gwir wedi ei gymylu gan ddychymyg. A phan gawsant eu hysgrifennu, ehangwyd arnynt fwy fyth. Mae'r gwahaniaeth a welir yn y chwedlau yn dra diddorol.

  • Culhwch ac Olwen yw'r chwedl Arthuraidd hynaf mewn unrhyw iaith. Fe'i cyfansoddwyd oddeutu 1100.

    Cawn wedyn dair chwedl frodorol arall, y tair rhamant - Chwedl Iarlles y Ffynnon, Hanes Peredur fab Efrog, a Geraint fab Erbin.

    Dau Arthur gwahanol
    Dau Arthur gwahanol iawn yw Arthur y chwedlau hyn.
    Yn y Gelli Wig mae llys Arthur Culhwch ac Olwen, a darlun digon cyntefig a gawn ohono. Porthor anghwrtais sy'n cadw'r porth a "Na wnaf" swrth yw ei ateb i Culwch pan yw'n gofyn iddo agor y gi芒t. Ar ffurf deialog ffraeth ac ystwyth, fe'i enfyn ar ei union i westy'r llys, gan sicrhau:
    "Ni bydd yn waeth i ti yno nag i Arthur yn ei lys - gwraig i gysgu gyda thi a cherddi diddan ger dy ddeulin."

    Mae Arthur Culhwch ac Olwen yn cadw puteindy o fath felly a dywed yr awdur hynny yn gwbl niwtral ei d么n, fel petai pawb yn gwneud yr un fath.

    Ond wfft i'r fath faswedd. Gwnio o flaen y ffenest mewn dillad crand a wnaiff merched Y Tair Rhamant ac nid porthor anghwrtais sy'n cadw gatiai'r llysoedd chwaith ond gweision sidanwisg mewn esgidiau o ledr cordofa.

    Aiff awdur Iarlles y Ffynnon gam ymhellach hyd yn oed, gan feiddio awgrymu bod awdur Culhwch ac Olwen yn anghywir.
    "Ac er y dywedid bod porthor ar lys Arthur, nid oedd un," meddai.

    Coroni Arthur Dyna Arthur ei hun wedyn.
    Yn Culhwch ac Olwen ni roddir teitl i Arthur. Cyferchir ef gan Cai fel "fy nghyfaill" ac mae Arthur yn ei watwar drwy ganu englyn iddo. Perthynas dau gyfaill sydd yma, nid perthynas gwas a brenin.

    Gwahanol yw'r darlun a gawn ohono yn Y Tair Rhamant. Ystyrier y pwt hwn o ddeialog allan o Iarlles y Ffynnon:
    "'W欧r, pe na buasech yn fy ngoganu,' meddai ef, 'fe gysgwn i tra bawn yn aros fy mwyd; a gellwch chwithau ymddiddan a chymryd ystenaid o fedd a seigiau cig gan Gai.' A chysgodd yr ymherodr."

    Gelwir Arthur yn ymherodr yma. Gwelwn ei fod yn h欧n hefyd. Nid yw'n ymuno yn yr hwyl fel ag y gwn芒i yn Culhwch ac Olwen. Mae'n blino, ac yn cysgu. Yn ogystal a hyn, mae ei lys wedi symud i Gaerllion ar Wysg ac y mae ganddo tair mil o farchogion, mewn cymhariaeth 芒'r tri chant a oedd ganddo yn Culhwch ac Olwen.

    Cymdeithas wahanol
    Mae natur y gymdeithas yn wahanol hyd yn oed.
    Arthur Celtaidd yw Arthur Culhwch ac Olwen ac yn 么l at ffynonellau Celtaidd yr aeth yr awdur. Trodd at Drioedd Ynys Prydain a Llyfr Du Caerfyrddin. Mae gan ei filwyr gyneddfau hynod; Cai er enghraifft:
    "Yr oedd i Gai hynodrwydd. O dan y d诺r, byddai ei anadl yn para am naw noson a naw diwrnod. Byddai am naw noson a naw diwrnod o hyd heb gysgu. Ni allai meddyg wella ergyd cleddyf Cai."

    Defnyddio'r cyneddfau hyn i ladd cynifer a phosib oedd amcan Arthur a'i filwyr. Ond o na, na. Paganiaeth anghristnogol fyddai hynny i awduron Y Tair Rhamant. Rhaid oedd ei gywiro ac yn y chwedlau hyn mae ymladd yn grefft. Brwydir yn barchus a hynny heb dwyllo gyda hud a lledrith.

    Eithriad oedd i filwyr Arthur ladd gelyn. Byddent yn eu gorfodi i erchi nawdd. Nid dull Cymreig o ymladd mo hyn ond un Cyfandirol neu, i fod yn fanwl gywir, dull Ffrengig.

    Diddorol yw sylwi hefyd bod cymdeithas Y Tair Rhamant yn frith o farwniaid a ieirll. Mae ffiwdaliaeth Eingl Normanaidd yn dechrau ennill ei phlwyf yng Nghymru. Ac o graffu, mae'r enwau priod, Luned, Limwris a Gwiffred Petit oll yn fathiadau o'r Ffrangeg.

    Hyn sy'n egluro'r gwahaniaeth mawr rhwng Arthur Culhwch ac Olwen ac Arthur Y Tair Rhamant. Rhwng y ddau, digwyddodd dau beth o bwys yng Nghymru.
    Yn gyntaf, cyhoeddwyd Historia Regum Brittanniae Sieffre o Fynwy yn 1136.

    Defnyddiodd yr ysgolor hwn lawer ar ei ddychymyg wrth lunio'r gwaith. Er enghraifft, ef oedd y cyntaf i ddweud mai i ynys Afallon yr aeth Arthur i wella ei glwyf.

    Rhys Morgan Evans o York, Maine, America yn ymweld 芒 Charreg Brenin Arthur yng Nghefn Bryn, Y Gwyr, gyda'i dad, Richard
Er hyn, cydnabyddid y llyfr am ganrifoedd fel gwirionedd hanesyddol ac at y llyfr hwn y trodd awduron Y Tair Rhamant.

    Normanaidd
    Yn ail, gwelwyd cynnydd aruthrol yng ngrym yr arglwyddi Normanaidd a ymsefydlasai yn ne Cymru. Byddai hyn wedi dylanwadu ar chwaethau'r arglwyddi Cymreig cyfagos, ac o ganlyniad, ar y gymdeithas, gan gynnwys awduron Y Tair Rhamant.

    Sgrifennu sifalriaidd sydd yma. Sgrifennu sy'n cuddio'r drwg ac yn dyrchafu'r da. Ymgais yw'r Tair Rhamant i wareiddio milwyr gwyllt Prydain, a dysgu tipyn o urddas Ffrengig i Gymru fach anwaraidd.

    Erbyn heddiw mae Arthur ar y we ac yn seren ar y teledu.
    Pam?
    Oherwydd bod yr hedyn gwreiddiol o hanes yn cynnig cymaint o bosibiliadau. Gall unrhyw un edrych arno a'i saern茂o o'r newydd i drafod agweddau modern mewn cymdeithas fodern.

    Na, nid dyna'r gwir - ond dyna lenyddiaeth yng ngwir ystyr y gair.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 麻豆社 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Y Brenin Arthur

  • Sieffre o Fynwy


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy