|
Ychydig Is Na'r Angylion Ar daith ysgytwol gydag awdur pwerus
Adolygiad Huw Alun Foulkes o Ychydig Is Na'r Angylion gan Aled Jones Williams. Gwasg y Brython. 拢8.
Yr ydym yn hen gyfarwydd bellach ag enw'r awdur hwn nid yn unig yn awdur nofelau ond hefyd yn fardd a dramodydd yn ogystal.
Yn Ychydig Is Na'r Angylion, daw'r holl elfennau ynghyd a chredaf y ceir yma nid yn unig naratif a deialog yn rhedeg yn esmwyth ond nodweddion theatraidd a chyffyrddiadau barddonol.
Mae prif blot y nofel yn tanlinellu bywyd Dulyn Pari ac ef yw'r prif gymeriad.
Cawn ein tywys ar hyd ei 'daith' wedi i'w wraig a dau o'i blant gael eu lladd mewn damwain car erchyll.
Down i gyfarfod nifer o gymeriadau ar y 'ffordd' honno; ei fab anabl, Rhodri, yr artist Elliw Vaughan, Huan Ellis sy'n rhyw lun o therapydd ac Edgar Owen, y ditectif lleol.
Cyfarfyddwn yn ogystal 芒 nifer o gymeriadau eraill sydd ar gyrion y 'ffordd' megis Sabrina Ong, hen gyfaill i Ddulyn.
Mae'r nofel wedi ei rhannu'n benodau synhwyrol a phob un gydag is-deitl yn crynhoi i ryw raddau ddigwyddiad penodol o fewn y bennod honno.
Geiriau ei fam Nid taith Dulyn Pari yn unig a geir yma ond hefyd adlais o'i orffennol a geiriau ei fam yn aml yn ymyrryd ar rediad y naratif mewn ffont italig.
Llwydda'r awdur i gyfleu perthynas Dulyn Pari a'r cymeriadau eraill yn hynod effeithiol ac mae'r iaith lafar yn gwella'r gyfathrebiaeth rhwng yr awdur 芒'i gynulleidfa.
Mae gwir hudoliaeth y nofel i'w darganfod yn y ddeialog ac mae'r enghreifftiau o hyn yn ddiddiwedd,
"'Yma eto, Ditectif!'
'Sbio! Dyna be ydy gwaith ditectif... A gwrando...'"
Daliadau personol Mae'r syniad o grefydd yn bwysig iawn yma a daliadau personol yr awdur efallai yn dod i'r wyneb.
Mae'r gwrthdaro rhwng Huan ac Isa, mab Sabrina tuag at ddiwedd y nofel yn pwysleisio culni'r Cymry ac yn agor ein llygaid i grefyddau eraill.
Mae'r ymdriniaeth ar adegau yn bwerus a thanllyd ac er i Aled Jones Williams gyfaddef ei fod yn ceisio cadw crefydd a llenyddiaeth ar wah芒n, teimlaf fod hynny yn amhosib ac mae crefydd yn cyd-fynd yn aml 芒'i ddram芒u a'i farddoniaeth.
Fodd bynnag, nid crefydd yw prif thema'r nofel ac mae'r awdur yn llwyddo i fynegi ei lais ei hun ar nifer o bynciau a them芒u eraill na all eu trafod o'r pulpud megis hanfod bywyd, gwirionedd, sut i ddod o hyd i'r unigolyn sy'n rhan ohonoch yn ogystal 芒'r iaith Gymraeg.
Mae Aled Jones Williams ei hun wedi crybwyll fod iaith yn thema bwysig iddo a thrwy gymeriad Huan Ellis y down wyneb yn wyneb 芒 sefyllfa'r iaith, pwysigrwydd iaith a chyfoeth geiriau,
"Gafaelodd yn ei feiro... Ond, roedd o, fe wyddai, tu mewn i absenoldeb. Yn hollol ddi-stori. Fel petai cystrawen pwy ydoedd yn datod. Ym marwolaeth y berfau."
Taith yr iaith Gellir synhwyro fod 'taith' yr iaith Gymraeg i'w darganfod yn y nofel i gyd-fynd 芒 theithiau'r cymeriadau eraill.
Mae nifer o gyfeiriadau at ddarnau enwog o lenyddiaeth yr iaith Gymraeg megis Peniarth a Llyfr Du Caerfyrddin yn ogystal 芒'r gyfeiriadaeth gyson at ddarluniau, artistiaid, ffilmiau a'r cyfryngau.
Credaf fod nifer o'r elfennau hyn yn ymdebygu i nofelau Mihangel Morgan ac mae'r syniad o blethiad nifer o blotiau yn debyg iawn i'r nofel Dan Gadarn Goncrit.
Wedi dweud hynny, mae arddull unigryw Aled Jones Williams yn gwneud iddo sefyll ar wah芒n ac mae'r syniad o 'daith' yn elfen gyson yn ei holl weithiau.
Mae'r un syniad yn Rhaid iti Fyned y Daith Honno dy Hun ac yn ei ddram芒u megis Tiwlips a Wal.
Y syniad hwnnw o daith ei gymeriadau a gellir teimlo'n emosiynol tuag atynt ar brydiau sy'n dyst i'r elfen theatrig honno.
Llwydda, drwy gyfrwng yr iaith lafar, i sefyll ar ei draed ei hun ym myd llenyddiaeth Gymraeg.
Dyna sydd mor llwyddiannus am Ychydig Is Na'r Angylion; y pontio cyson rhwng elfennau dramatig, barddonol a stor茂ol.
Parhau yn niwlog Rhaid imi gyfaddef, fodd bynnag, fod rhai rhannau yn parhau'n niwlog ac efallai bod yr iaith lafar yn llywodraethu gormod ar rediad y naratif ar adegau.
Gallaf ddweud yn ddi-flewyn ar dafod i'r nofel bwerus hon afael ynof mewn mwy nag un ffordd ac mae ynddi ddigon i gyffroi'r dychymyg.
Efallai bod rhai cymeriadau heb eu datblygu'n ddigonol a bod y gwahanol blotiau'n cymhlethu'r dweud ar adegau, ond 'rwy'n prysuro i bwysleisio fod hyn yn elfen amlwg yng ngwaith Aled Jones Williams a bod digon o le yma i'r darllenydd - neu'r gynulleidfa - feddwl drostynt eu hunain.
Mae yma brocio'r cof a thrwy gyfrwng arddull unigryw a chreadigol, cawn ein tywys ar 'daith' emosiynol bywyd drwy lygaid nifer o gymeriadau ymylol cymdeithas.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 麻豆社 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Cysylltiadau Perthnasol
Rhagor am Ychydig Is Na'r Angylion
Sgwrs am Ychydig Is Na'r Angylion
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|