|
Creaduriaid Hud Myrddin Ddewin Dychymyg dewin darluniau
Adolygiad Glyn Evans o Creaduriaid Hud Myrddin Ddewin gan Graham Howells. Addasiad Gwyn Thomas. Gomer. 拢8.99.
Does dim amheuaeth mai Creaduriaid Hud Myrddin Ddewin fydd 'llyfr hosan Dolig' gorau 2008. Anodd rhagweld unrhyw un arall gwell.
Mae yr union faint iawn - cwta bum modfedd efo saith (135x190) ac yn brothio o luniau gyda'r mwyaf anhygoel.
Cyfeiriadur bychan ydi o i gymeriadau chwedlonol oes Myrddin yn amrywio o ddreigiau i dylwyth teg - ac annheg - a choblynnod.
Mae chwe adran: Dreigiau; Tylwyth Teg a Thylwyth Cas; Creaduriaid Cyfarwydd; Creaduriaid dan ddaear; Creaduriaid y d诺r a Chewri a thrigolion y mynyddoedd.
Mae yma bwca a phwca, bwbach a bwci bo, Gwrach y Rhibyn, Cath Palug, Bodach Glas a Chyhyraeth.
Y patrwm yw llun lliwgar gyda dalen o ddisgrifiad gyferbyn.
Yr hanes tu 么l i'r llyfr yw i Graham Howells o Lanelli ddod o hyd i gyfres o lawysgrifau "mewn ogof bellennig ym mynyddoedd Sir G芒r" y "teimlai'n lled hyderus" ei fod yn waith Myrddin ddewin ei hun!
"Ers y darganfyddiad hynod hwnnw, bu Graham wrthi'n ddiwyd yn addasu testun Myrddin ar gyfer y darllenydd modern gan ychwanegu ei ddarluniau unigryw ei hun i ddod 芒'r wybodaeth hynafol yma'n fyw o flaen dy lygaid," eglurir.
Syniad gwych, wedyn, oedd cael Yr Athro Gwyn Thomas, bardd, ysgolhaig ac arbenigwr ar yr hen chwedlau Cymreig i addasu'r testun.
Ganddo ef hefyd mae rhagair yn gosod Myrddin yn ei amser a'r creaduriaid rhyfeddol sydd yn y gyfrol:
"Y mae'r rhan fwyaf o'r coelion am 'greaduriaid' Myrddin yn hen: fe geir ambell un ohonyn nhw yn ein Mabinogion ni - dyna ichwi'r hen gyfaill Y Twrch Trwyth . . . neu'r Coraniaid," meddai.
"Y mae hen Fyd Arall y Cymry yma, dan yr enw 'Annwn' sef yr hen enw a ddaeth dros y canrifoedd i olygu 'Uffern'," meddai.
Ac mae ganddo air o rybudd:
"Wrth ichwi fynd allan yn y nos gwyliwch rhag Gwragedd Annwn a Ch诺n Annwn - maen nhw'n beryglus iawn."
Yn wir mae'n ymddangos bod peryg yn gysylltiedig 芒'r rhan fwyaf o'r creaduriaid hyn - mae hyd yn oed y Tylwyth Teg yn greaduriaid go wahanol a llawer mwy sinistr nag a dybiwn ni dan arweiniad eu brenin - corniog yn hytrach na choronog - Gwyn ap Nudd !
Mae'r Bwgan, Bwci Bo neu Bwci Bal, wedyn, yn edrych "mor ddychrynllyd fel na ellir byth anghofio unrhyw gyfarfyddiad 芒 hwy".
Y Coraniaid wedyn yn greaduriaid a chlustiau main iawn;
"Fe gariai'r gwynt hyd yn oed y sibrwd distawaf yn unrhyw ran o'r wlad i'w clustiau. Allai neb gynllwynio yn eu herbyn heb iddyn nhw glywed," meddir.
Direidus a "digon cl锚n" yw'r disgrifiad o'r Bwbach ond "gall eu pranciau fod yn drwblus iawn, ac yn arbennig yng nghwmni rhai nad ydyn nhw'n yfed diod gadarn, a gweinidogion".
Y lluniau, wrth gwrs, sy'n gwneud hon yn gyfrol hon yn un amheuthun ac y mae dychymyg Graham Howells yn rhywbeth i ryfeddu ato gan beri i rywun fynd n么l a blaen drwy'r gyfrol yn ddiddiwedd.
Creaduriaid "Myrddin Ddewin" meddai'r clawr - ond yn ei ffordd mae dychymyg yr arlunydd hynod hwn yn ddewinol hefyd.
A phe byddai gofyn i mi ddewis y rhyfeddaf o'i holl greaduriaid byddwn yn mynd am y Sarff-geiliog sy'n edrych mor ofnadwy fod gweld ei hadlewyrchiad ei hun yn ei lladd!
Yr heibrid rhyfeddaf fyw, o'i gweld i gyd, wedi ei deor o wy a ddodwyd gan geiliog a'i ori dan lyffant du neu sarff!
Anodd dychmygu effaith hon a'r creaduriaid eraill ar rywun dan ddylanwad dau'n dri o sieris Dolig go nobl. Waaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaa.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|