|
Crawia Cymeriadau brith gan milltir yr awr
Adolygiad Kate Crockett o Crawia gan Dewi Prysor.Y Lolfa. 拢7.95.
Erbyn cyhoeddi trydedd nofel Dewi Prysor, Crawia, siawns na fydd darllenwyr brwd yng Nghymru eisoes wedi penderfynu a yw gwaith y dyn amryddawn hwn at eu dant ai peidio.
Bydd y rhai sy'n cael eu tramgwyddo gan iaith gref a disgrifiadau cignoeth o ryw a thrais, a'r rhai sy'n gwingo wrth ddarllen am dorcyfraith, meddwi a chymryd cyffuriau, bellach yn gwybod nad dyma'r nofelau iddyn nhw.
Ond yn yr un modd, bydd y rhai sy'n chwilio am yr union bethau hynny, ac am ddos go dda o hiwmor, yn disgwyl yn eiddgar am y dilyniant i Brithyll a Madarch - y ddwy nofel flaenorol.
Gwneud gwaith pwysig Mae yna garfan go helaeth o bobl sy'n credu (ar gam, yn fy marn i) bod nofelau Cymraeg ar y cyfan yn rhy ddiflas, hen ffasiwn ac yn amherthnasol i'w bywydau nhw, ac mae gwaith Dewi Prysor, fel nofelau Llwyd Owen, yn gwneud gwaith pwysig o ran newid y camargraff hwnnw.
Da gweld bod Y Lolfa wedi gorfod ailargraffu Brithyll eisoes.
Ond dydy bod yn fentrus a chignoeth ynddyn nhw eu hunain ddim am sicrhau nofel dda.
Beth felly sydd gan yr awduron hyn i' w cynnig ar ben hynny?
Yn achos Llwyd Owen, plotio da a straeon cryf - ac er bod Dewi Prysor yntau'n gwybod sut i blotio'n ofalus, ei brif ddawn yw ei allu i greu sefyllfaoedd a chymeriadau doniol.
Erbyn hyn, mae Drwgi, Sbanish, Cled, Bic a'r efeilliaid, y Dybl Bybls, wedi hen ennill eu plwyf fel rhai o greadigaethau doniolaf llenyddiaeth Gymraeg gyfoes.
O ddydd Iau tan fore Llun Mae Crawia, fel y nofelau blaenorol, yn rhychwantu cyfnod byr iawn:
Mae'n agor ar ddydd Iau ac yn gorffen ar y bore Llun wedyn ac yn yr oriau prin hynny, mewn tref sy'n hynod o debyg i Flaenau Ffestiniog, mae yna ladrad ac ymosodiad treisgar, sgamiau, diswyddiadau, digon o gyffuriau ac alcohol i lorio meidrolion cyffredin, cwffas enfawr, gwaith ditectif, ymweliadau ag ysbyty, a chan Dystion Jehofa, cyrchoedd heddlu, damwain, cynllwyn, ymosodiad figilanti, marwolaeth, a chynllun busnes - i enwi ond rhai o'r digwyddiadau.
Mae bywydau'r cymeriadau yn digwydd ar gan milltir yr awr ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu gan ruthr gwyllt y naratif a'r ddeialog.
Bydd rhai o olygfeydd Crawia yn aros yng nghof y darllenydd am gyfnod maith, gan gynnwys PC Pennylove yn ceisio gorfodi'r Dybl Bybls i ddatgelu pa un yw pa un drwy geisio darganfod ar ba un mae'r atal dweud, a phrofiad anffodus Drwgi yn y cwt ieir.
Bu s么n am y posibilrwydd o addasu'r nofelau blaenorol yn y drioleg ar gyfer y teledu, a byddai golygfeydd fel y rhain yn gweithio'n fendigedig ar y sgrin fach.
Gwerthoedd gwahanol Go brin y bydd pawb sy'n darllen y nofel hon yn cytuno gyda gwerthoedd y garfan hon o bobl; ac mae ganddyn nhw werthoedd sydd yr un mor gadarn, er yn wahanol iawn, 芒 rhai'r gymdeithas a bortreadir yn Teulu L貌rd Bach gan Geraint Vaughan Jones - mewn tref arall sydd eto'n debyg iawn i Flaenau Ffestiniog.
Eto i gyd mae creadigaethau Dewi Prysor wedi'u portreadu mor fyw, ac i'w gweld yn ymrafael 芒 bywyd gyda chymaint o afiaith, mae'n anodd peidio 芒 chael eich swyno ganddyn nhw, a'u hymrwymiad at ei gilydd, eu teuluoedd a'u bro.
Sgwrs ar y tr锚n Byddwn wedi credu bod elfennau o'r nofel hon yn ormod o ffars. Fodd bynnag, wrth imi orffen ei darllen, digwydd imi glustfeinio ar sgwrs rhwng dau o'm cyd-deithwyr ar dr锚n yn ne Cymru.
Roedd y g诺r a adroddai'r hanes wedi bod yn gweithio ym Mlaenau Ffestiniog ac yn ceisio perswadio'i gydymaith mai dyma'r lle mwyaf gwallgof iddo weithio ynddo erioed - ac roedd ganddo hanesyn i gyfiawnhau'r honiad.
Ar ei noson gyntaf yn aros yn y dref, cafodd ei eneradur ei ddwyn. Llwyddodd yr heddlu i ddod o hyd iddo, a derbyniodd y gwron eu cynnig i gadw'r generadur o hynny ymlaen o dan glo yn eu compownd nhw dros nos.
Erbyn y bore wedyn, roedd wedi'i ddwyn eto.
Ar y foment honno, deuthum i gredu nad yn nychymyg Dewi Prysor yn unig mae Bic, Sbanish, Cled, Drwgi, a'r anfarwol Dybl Bybls yn bodoli.
Cysylltiadau Perthnasol
Brithyll - adolygiad
Madarch - adolygiad
Holi Dewi Prysor
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|