麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Un Dydd ar y Tro
Cyfrol ddifyr dyn diddorol
  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Un Dydd ar y Tro: Hunangofiant Trebor Edwards. Y Lolfa. 拢9.95.



  • Am gyfrol ddifyr a dyn diddorol!
    Mae nifer o'i recordiau gen i ac fe'i clywais yn canu ar radio a'i weld ar deledu ond wyddwn i mo'r hanner o hanes Trebor Edwards.

    Dyma ffermwr mentrus a blaengar. Dyn busnes, hefyd, yr un mor llwyddiannus a mentrus. Wedi'r cwbl dyn busnes yw ffermwr ond bod Trebor Edwards yn arbennig yn yr ystyr nad etifeddu fferm, fel sy mor gyffredin, a wnaeth.

    Clawr y llyfr Rwy'n llawn edmygedd o'r hyn a wnaeth iddo'i hun a sicrhau gwaddol o ffermydd i'w trosglwyddo'n dreftadaeth gyfoethog i'w blant ac i'w plant hwythau.

    Os rhywbeth dyma lyfr sy'n fwy o stori ffermwr a ffermio nag o hanes canwr. Gwelodd a phrofodd y newid mawr yng nghefn gwlad o ddyddiau'r cribyn llaw i beiriannau mawr diwydiannol ein dyddiau ni, a lleihad nifer y ffermydd sy'n cynhyrchu llaeth.

    Yn annatod wrth hyn oll mae diwylliant cyfoethog ei deulu ac ardal Betws Gwerful Goch fu'n sail i'r rhan o'i fywyd a ddaeth ag enwogrwydd iddo fel un o denoriaid mwyaf poblogaidd ac adnabyddus ein gwlad.

    Brwdfrydedd
    Ar ben hynny, fe'i cawn yn cystadlu ac arddangos mewn sioeau lleol gyda chymaint o frwdfrydedd a llwyddiant nes, yn haeddiannol iawn, yr etholwyd ef yn Llywydd Sioe Frenhinol Cymru eleni.

    Ni ddylai sylw cenedlaethol rwystro rhywun rhag tynnu ei bwysau yn lleol, meddai.

    Hoffaf ei barodrwydd i roi ei farn yn ddi-flewyn ar amrywiol bynciau.
    Ni all ddeall y gwrthwynebiad i felinau gwynt ar gyfer cynhyrchu trydan. Fu neb yn cwyno am yr hen beilons hyll ar draws ein gwlad, yn arbennig hyd bennau'r bryniau lle maen nhw'n gwneud mwy i anharddu'r wlad nag unrhyw felin wynt.
    Clywch, clywch!

    Geirio'n glir
    Hoffais ei sylw am bwysigrwydd geirio clir wrth ganu, gwers a ddysgodd yn ifanc gan 'Taid Pen Brynie'.

    "Dallt y geirie, nid dallt yr iaith, mae 'ne wahanieth! Dwi'n dallt pob gair pan mae Bryn Terfel yn canu mewn Almaeneg hyd yn oed, ond dydw i'm yn dallt yr iaith."

    Cytuno gant y cant.
    Mae gen i CD o Bryn Terfel yn canu deuawdau gyda Cecilia Bartoli a'r ddau'n geirio mor glir mae'n bleser gwrando arnyn nhw er na fedra i air o Eidaleg.

    Mae gen i CD fydda i'n gwrando arni weithiau o Joan Sutherland, un o sopranos mawr y byd - ond wfft i'w geirio. Hyd yn oed pan fo hi'n canu Home, Sweet Home prin y medra i ddeall gair.
    Diolch byth am y traddodiad Eisteddfodol.

    Teithio'r byd
    Cafodd Trebor Edwards deithio'r byd i ganu, a hwylio'r moroedd hefyd, gan iddo fynd i ddifyrru'r m么rdeithwyr ar longau pleser. Ond cafodd ambell sylw annisgwyl fel y tro hwnnw pan oedd yn recordio Yr Hen Shep ar gyfer S4C gyda Sbot ei gi yn y cefndir.

    Torrwyd ar y ffilmio gan chwerthin mawr pan ddechreuodd y ci lithro lawr y llechwedd fel pe bai ei ben-么l ar d芒n. Anfonodd y dyn camera ddarn o ffilm o'r ci'n crafu'i ben-么l i It'll be Alright on the Night a dangoswyd y clip ar deledu mewn gwledydd eraill a chafodd Trebor lu o lythyron o bob rhan o'r byd, gan gynnwys tabledi a phowdwr llyngyr!

    Disgiau aur
    Cawn hanes y recordio, y llwyddiannau a'r disgiau aur ac arian a'r anhawster i ddod o hyd i ddigon o ganeuon ar gyfer y recordiau. Fel pob dyn busnes da byddai'n mynd a stoc o'i recordiau yng nghist y car i'w gwerthu pan fyddai'n canu mewn cyngherddau.

    Mae'n cyfaddef y byddai, fel pob ffermwr, weithiau'n hwyrfrydig yn talu'i filiau a dywed iddo unwaith gynnig talu'i ddyled i Huw Jones - Sain bryd hynny - mewn defaid.

    Mewn manylder
    Mae'r gyfrol yn anhygoel ei manylder.
    Cawn hanes ei brofiad yn Llywydd y Sioe ac y mae hyd yn oed yn cynnwys pob manylyn am wasanaeth agoriadol y sioe yn Eglwys y Santes Fair, Llanfair-Ym-Muallt, gan gynnwys pwy oedd yn pregethu, ei destun a'r tri phen!

    Fel ei ganu, mae hunangofiant Trebor Edwards yn amlygu'r un bersonoliaeth hawddgar agosatoch chi. Rwy'n si诺r y bydd y canwr yn sicrhau fel gyda'r recordiau y bydd stoc dda o'r llyfr hwn yng nghist y car ac y bydd y gwerthiant yn ardderchog.

    Edrychaf ymlaen clywed beth fydd ymateb Y Lolfa pan fydd yn cynnig talu amdanynt gyda stoc o 诺yn blwydd!


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy