| |
|
|
|
|
|
|
|
rhyw deid yn dod miwn Creu darlun gyda cherddi a lluniau
Adolygiad John Gruffydd Jones o rhyw deid yn dod miwn gan Aled Rhys Hughes ac Iwan Llwyd. Gomer 拢19.99 128 tud.
Ysgoloriaeth gan yr Academi a nawdd gan Gyngor Llyfrau Cymru wnaeth roi bodolaeth i'r gyfrol arbennig yma - ac mae'n arbennig mewn sawl ystyr.
Fel un sy'n mwynhau ceisio trin camera a geiriau roedd fy niddordeb ynddi'n ddeublyg - ac mae peth heli'r mor yn rhedeg yn fy ngwaed hefyd.
M么r a mynydd
Gan mai gwlad fechan yw Cymru ni fu'r m么r a'r mynyddoedd erioed ymhell iawn oddi wrth ei gilydd ac mae galwadau a rhamant y ddeule wedi ysbrydoli beirdd, arlunwyr a chrefftwyr o bob math ar hyd y canrifoedd, heb son am roi bywoliaeth i lawer hefyd.
Naturiol felly i'r arfordir ddod a bardd a ffotograffydd ynghyd.
Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o effeithiau y cynhesu byd eang sy'n digwydd, ac maent i'w gweld ar dirlun arfordir Cymru mewn sawl man.
Cymaint felly fel nad oes gobaith adnewyddu na gofalu am ambell lecyn o harddwch arbennig ar draws gwlad. Mae sawl llecyn felly yn y gyfrol yma, a dyna un rheswm da i'w thrysori. Ond mae ynddi lawer mwy na hynny.
Priodas hapus
Y briodas hapus rhwng gair a nodyn sy'n gwneud c芒n dda ac mae yna briodasau hapus iawn rhwng lluniau a geiriau yn y gyfrol hon ac mae'r lleoliadau sy'n cael eu rhestru'n gymen ar y diwedd yn fodd i ni sylweddoli mor eang yw rhychwant ein treftadaeth.
Tuedd ambell gyfrol am dirwedd gwlad ac ardal yw canolbwyntio ar yr harddwch yn unig heb gofnodi dim o'r traddodiadau na nodi'r elfen o hagrwch chwaith.
Nid felly yma. Mae'r darlun o'r hen long Duke of Lancaster yn rhydu'n araf i'w thranc ar draeth Mostyn yn esiampl o realiti bregus bywyd yr arfordir.
Adlais o ddirywiad Ac mae is-deitl y gerdd Cilgwri (that's Wales over there) sy'n gyfochrog 芒'r llun ynghyd 芒'r dyfyniad o Culwch ac Olwen yn adlais o ddirywiad taith yr iaith Gymraeg yn yr ardal yma.
Dyma gyfuniad a roddodd ias wrth i mi edrych a darllen ac mae'r teitl ei hun yn siwr o fod yn adleisio effeithiau'r mewnlifiad i Gymru.
Ias o hiraeth
Fe deimlais ias o hiraeth hefyd wrth droi sawl tudalen ac adnabod ambell le.
Traeth Abersoch ac Ynys Tudwal yn y cefndir, traeth Morfa Bychan a thraeth Mochras yn Ardudwy. Rhain oedd fy nghynefin innau. Bellach mae un caban pren ar draeth Abersoch wedi ei werthu am 拢70,000 a moduron nid pobl sy'n llenwi Morfa Bychan yn ystod sglein yr haf.
Mae'r tywod sy'n cuddio'r cabanau yn y gaeaf yn dweud cyfrolau, a dyma linell olaf y gerdd gyferbyn: a nythod gosod y gog.
Gair a darlun ar yr un donfedd yn union.
Ond rhag i mi ymddangos yn blwyfol, rhaid sylweddoli cefndir y ffotograffydd a'i wreiddiau yn y Rhondda. Mae'r darlun gwych ar dudalen 45 o'r galchfaen yn erydu ym Mhenrhyn G诺yr, ac yna Abercastell gyda Phwllderi'n gefndir, nid yn unig yn dangos dawn greadigol Aled Rhys Hughes ond yn rhoi cip i ni o'i ddoe yntau ac mae ei gariad at y m么r yn fwrlwm yn ei erthygl tua diwedd y gyfrol.
Bron hefyd na allwn arogli'r sglodion yn y darlun o'r siop yn y Borth, Ceredigion.
Dylanwad morwyr Yn ei gyflwyniad i'r gyfrol mae Iwan Llwyd yn s么n am ddylanwad morwyr gyda'u hanesion a'u caneuon yn dod adref a hynny'n cyfoethogi'n hiaith ninnau.
Nid grym y tonnau'n unig yw grym y m么r ac mae'r grym hwnnw'n gallu bod yn llesol a dinistriol.
Cryfder diamheuol y gyfrol yma yw'r islais sydd tu 么l i'r lluniau a'r cerddi, islais sy'n sicr o wneud i'r darllenydd sylweddoli gwerth ei dreftadaeth a'i ddiwylliant ond hefyd sylweddoli ac ofni cryfder y llanw.
Pe bai angen isdeitl i'r gyfrol yna fe fyddai'r gair 'Perthyn' yn gweddu i'r dim am fod yma lun a gair sy'n rhan o bawb sy'n teimlo'i wreiddiau'n cydio yn ei gynefin.
Mae'n albwm o'n llinach diwylliannol i gyd ac mae'r darlun o'r person yn sefyll ar y dibyn ar y dudalen olaf yn llawn ofn o'r dyfodol. Dyna rym y llyfr yma.
Hoelio diddordeb Ydi, mae'r clawr yn si诺r o dynnu sylw ond mae'r cynnwys yn hoelio'r diddordeb ac mae'n gyfrol fydd yn agos at fy llaw am amser hir.
Diolch i Aled a Iwan am y wledd o weld ac o wybod ystyr 'perthyn' ac i Wasg Gomer am gyfrol sy'n wirioneddol gain ymhob ystyr ac sy'n werth mwy o lawer na'i phris.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|