|
Bywyd Fferm Newid byd - newid arferion
Adolygiad Lowri Rees-Roberts o Bywyd Fferm gan Chris S Stephens, addasiad gan Elin Meek. Gwasg Gomer. 拢5.99
"Pe bai teulu oedd yn ffermio ganrif yn 么l yn ymweld 芒 fferm heddiw, fe fydden nhw'n rhyfeddu!"
Dyma eiriau a glywir yn aml gan ein cyfoedion a byddai fy Nain yn pregethu'n aml gymaint mae'r oes wedi newid a bywyd mor braf yw hi arnom ni heddiw.
Ac wedi imi ddarllen Bywyd Fferm, dwi'n tueddu i gytuno 芒 hi.
Trawsdoriad eang Mae Bywyd Fferm yn addasiad gan Elin Meek o lyfr gwreiddiol Chris S Stephens ac yn bumed llyfr mewn cyfres arbennig sydd wedi eu cyhoeddi gan Wasg Gomer.
Dewisodd Chris Stephens drawsdoriad eang o draddodiadau ac arferion sy'n bwysig ym mywyd y fferm ar hyd y flwyddyn. Ynddi gwelwn sut mae ffermwyr ar hyd yr oesau wedi dysgu cydweithio 芒'r tir ac anifeiliaid.
Hefyd edrychwn ar y gymuned glos a arferai fodoli ddegau o flynyddoedd yn 么l, cymuned lle'r oedd pawb yn dibynnu ar ei gilydd er mwyn sicrhau bod gwaith y tymor yn dod i ben yn ei bryd.
Erbyn heddiw mae'r cydweithrediad a'r agosatrwydd hwn wedi diflannu wrth i nifer o amaethwyr ddibynnu fwyfwy ar gontractwyr i wneud gwaith ar y fferm yn hytrach nag ar ei gilydd.
Tra bo plant y trefi yn gwylio'r teledu, yn meistroli'r Playstation ac yn arbenigwyr ar gyfrifiaduron, mae plant sydd wedi eu magu yng nghefn gwlad Cymru wedi bod yn helpu ar y fferm erioed - yn casglu wyau, yn bwydo'r moch, codi tatws a rhoi silwair a d诺r i'r gwartheg.
Nid yw'n anghyffredin gweld plentyn mor ifanc 芒 thair oed yn carthu yn ei ofer么ls!
A hithau yn nes谩u at y Nadolig, bydd rhestrau a rhestrau o ddymuniadau Nadoligaidd yn cael eu hanfon i fyny'r simnai acw yn y gobaith o gyrraedd y dyn barfog cyn y diwrnod mawr ond yn bendant ar restr yr hogiau acw bydd ychwanegiadau i'r ffarm fawr sydd yn rhan o'u chwarae beunyddiol.
Wedi newid Ond mae'r oes wedi newid; arferai godro ar gyfer y bwrdd fod yn orchwyl ddyddiol ar bob fferm yng Nghymru ac yr oedd gwneud menyn a'i werthu yn y farchnad leol yn rhoi ychydig arian ychwanegol i deuluoedd.
Arferai gwraig y fferm hefyd wneud caws gan ddefnyddio'r llaeth - ond dim ond ychydig iawn o hyn sy'n digwydd heddiw gyda nifer o wragedd fferm wedi gorfod arallgyfeirio a mynd allan i weithio i ysgolion , swyddfeydd a busnesau.
Arferai diwrnod ffair fod yn un pwysig; yn ddiwrnod y byddai cryn edrych ymlaen amdano drwy'r flwyddyn a lle byddai gweision ffermydd yn cael eu talu.
Byddai gwartheg a defaid yn cael eu gwerthu farchnad leol a byddai'n gyfle i'r gwragedd brynu nwyddau pwrpasol ar gyfer y t欧. Hefyd byddai nifer yn ymweld 芒'r ffair i chwilio am waith.
Erbyn heddiw mae'r ffair wedi newid, oddeutu pump o stondinau yn gwerthu nwyddau oedd yn ffair Y Bala fis Hydref 2008 ac ychydig iawn o ymwelwyr a ddaeth ar ei chyfyl gan fod y tywydd ar ei waethaf.
Porthmyn Gyda lor茂au yn cyrraedd y buarth i fynd a gwartheg i'w gwerthu mae rhywun wedi anghofio hanes y cyfnod pan arferai porthmyn yrru gwartheg ar hyd heolydd a llwybrau Cymru i farchnadoedd gwartheg yn Lloegr.
"Yn 么l haneswyr, ddau gan mlynedd yn 么l, roedd tua 6,000 o wartheg yn dod o Benrhyn Ll欧n bob blwyddyn, 10,000 o Sir F么n a 30,000 drwy ganolbarth Cymru i Henffordd. Llawer o wartheg a llawer o s诺n," meddai'r llyfr.
"Byddai gwartheg yn cael eu pedoli'n union fel ceffylau i warchod eu traed ar y daith hir. Weithiau byddai gofaint yn mynd gyda'r porthmyn rhag ofn bod eisiau trwsio pedolau, neu byddai'r dynion yn mynd a phedolau a hoelion byr spar wedi'u lapio mewn darn o fraster bacwn fel na fydden nhw'n rhydu."
Dyma gyffwrdd a rhai o benodau llyfr arbennig iawn sydd yn edrych ar hen draddodiadau bywyd amaethyddol.
Mae'n drysor ac yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n ymddiddori yn y bywyd amaethyddol. Heb os, , dylai fod ar silff lyfrau pob plentyn o gefndir amaethyddol yng Nghymru fel eu bod yn dod yn ymwybodol o hanes cyfoethog eu cyndeidiau ar y fferm.
Mae Bywyd Fferm mewn lliw llawn gyda chyfres o luniau hen a newydd a gwybodaeth ddiddorol, bachog a hwyliog.
Teitlau eraill yn y gyfres yw: Amser Rhyfel, Anrheg Nadolig, Ar Lan y M么r a Taith Bywyd.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|