|
Rhywbeth Bob Dydd Cronicl dyddiol Hafina Clwyd
Adolygiad Glyn Evans o Rhywbeth Bob Dydd gan Hafina Clwyd. Gwasg Carreg Gwalch. 拢8.50.
Erbyn gweld, mae diwrnod fy mhen-blwydd i yn gymysgedd "o orfoledd a thristwch" ac yr ydw i'n ddyledus i Hafina Clwyd am yr wybodaeth yna.
Rhan o'r gorfoledd oedd geni yn 1833 awdur Does Unman yn Debyg i Gartref, Myfanwy, Pistyll y Llan a phennill gwreiddiol Sosban Fach, sef Richard Davies - Mynyddog.
Y tristwch oedd marw Carwyn James yn 54 oed yn 1983 - dyn rygbi ac ysgolhaig ysbrydoledig.
Mae hyn a llawer mwy yn llyfr diweddaraf Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd, a gyhoeddwyd ar Hydref 1 2008; diwrnod dathlu postio y cerdyn post cyntaf - yn 1870.
Lluniodd Hafina ei llyfr oherwydd iddi gael ei chythruddo gan gyflwynwyr rhaglenni radio Cymraeg yn cyfeirio byth a hefyd at ben-blwyddi digwyddiadau ac unigolion Seisnig nodedig ond braidd byth at ddathliadau Cymreig.
"Ac felly dyma fi'n mynd ati i weld a fedrwn ddarganfod rhywbeth Cymreig a ddigwyddodd ar bob dyddiad drwy'r flwyddyn," meddai.
Afraid dweud iddi lwyddo a dod hyd i rywbeth bob dydd!
Hynod o ddifyr
Ond yn wahanol i'r llaweroedd o lyfrau Saesneg sy'n crynhoi digwyddiadau fesul diwrnod eu digwydd nid rhestr foel o ffeithiau moel yw cynnwys ei Rhywbeth Bob Dydd hi.
Yn hytrach, yr hyn a gawn yw ysgrif fer wedi ei saernio ar gyfer pob diwrnod - ambell un yn ymestyn fymryn dros ddalen ond y rhan fwyaf ychydig yn llai na hynny.
Mae y tu hwnt o ddifyr ac rwy'n synnu braidd na fyddai'r cyhoeddwyr wedi rhoi mymryn gwell gwisg i'r gyfrol fel bo'i diwyg cyn ysgafned a'i chynnwys yn hytrach nag yn ddrabiau llwyd o brint.
O blethu llun a thestun - yn hytrach na chorlannu'r lluniau i gyd yn y canol - yr oedd cyfle yma i lunio cyfrol ddeniadol iawn.
Ond os yw'r diwyg yn siomi nid felly'r testun. Mae'n ddifyr ddiwylliedig mewn arddull sionc.
Sionc, ddwedais i?
Dim rhyfedd hynny a chymaint o sgwarnogod yn cael eu codi wrth i'r awdur olrhain gwahanol gysylltiadau a rhannu atgofion personol difyr.
Mewn angladd Fel yr atgof am fynychu angladd y llenor a'r tynnwr coes D Tecwyn Lloyd:
"Byddai wedi cael hwyl pe gwyddai mai'r geiriau cyntaf yn ei angladd oedd hysbysiad bod dau fodur 芒'u goleuadau heb eu diffodd yn y maes parcio ar draws y ffordd. Byddai hefyd wedi mwynhau'r ffaith na symudodd neb. Nid oedd neb yn barod i fentro colli sedd yn y capel na'r festri," meddai.
Nid yn annisgwyl, y mae i Ddyffryn Clwyd a'r gymdeithas Gymraeg yn Llundain a'u pobl le amlwg ac mae yma hefyd sawl enghraifft o ddiddordeb yr awdur mewn hel achau - gall groniclo'n Feiblaidd bron, i'r cyff cynharaf, achau'r rhai mae'n s么n amdanynt gan ddatgelu wrth wneud hynny ambell i berthynas annisgwyl.
Gwn yn awr fod mam Syr Anthony Hopkins yn perthyn o bell i'r bardd Gwyddelig W B Yeats.
Cywiro Manteisir hefyd ar gyfle i gywiro camgymeriadau mewn lleoedd eraill fel ag yn achos Robert Ambrose Jones - Emrys ap Iwan (a fu farw Ionawr 6 1906).
Anghywir, meddai, yw dweud - fel y gwnaeth T Gwynn Jones, Y Bywgraffiadur a'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru - mai Ffrances oedd ei nain.
Un o Lanllyfni oedd hi!
Anghywir hefyd wybodaeth ar blac ar Fryn Aber, Abergele, yn dweud mai yno y'i ganwyd. Ac ar ben hynny mae dyddiad y geni'n anghywir hefyd.
Dywed i T Gwynn Jones gael ei gamarwain gan Ann, chwaer Emrys ap Iwan:
"Roedd hi wedi celu oddi wrth ei g诺r, Peter Jones, ei bod hi bymtheg mlynedd yn h欧n nag ef, felly ystumiodd hanes y teulu er mwyn cadw'r gyfrinach," meddai Hafina Clwyd.
Merched a'u hoed!
Heb selebs Ei siomi, fodd bynnag, gaiff y sawl fydd yn troi at y gyfrol hon am wybodaeth am y bodau brau hynny sy'n cael eu galw yn 'selebs' ac y mae'r Wasg a'r cyfryngau cyfoes yn ymdrybaeddu gymaint yn eu bywydau.
Mae hynny ynddo'i hun yn fendith.
Ond fe geir sawl enw annisgwyl; Rudyard Kipling yn eu plith.
Ac mae ganddo bob hawl bod yma gan mai o Ddinbych y deuai Hannah Jones ei nain - a hithau'n mudo'n ferch ifanc i Fanceinion lle priododd y Parchedig George Brown Macdonald yr ordeiniwyd ei dad, James, gan John Wesley ei hun.
"Cafodd Hannah a'i g诺r un ar ddeg o blant yn cynnwys saith merch," meddai Hafina Clwyd.
"Un o'r merched oedd Georgiana a'i g诺r oedd Syr Edward Burne-Jones, yr arlunydd a chyfaill mawr William Morris.
"Ei arbenigrwydd oedd ffenestri lliw. Un o'i luniau enwocaf yw Arthur yn Cysgu. Roedd Georgiana'n ffrindiau mawr efo George Eliot ac roedd ei g诺r, Burne-Jones, yn ffrindiau mawr mawr efo May Gaskell, hen hen nain Josceline, gwraig David Dimbleby."
Na, waeth lle mae'r stori'n dechrau does wybod lle bydd hi'n gorffen . . .!
Bocs sebon Mae cyfle weithiau i'r awdur ddringo ar focs sebon megis wrth nodi mai ar Ionawr 16 (yn 1840) y condemniwyd John Frost, Zephaniah Williams a William Jones i'w crogi a'u chwarteru am eu rhan yn ymgyrch y Siartwyr.
"Fe newidiwyd y ddedfryd a chawsant eu halltudio i ben draw'r byd," meddai gan ychwanegu:
"I bobl fel hyn y mae'r diolch bod gennym bleidlais ac mae'n gywilyddus fod cymaint yn afradu'r hawl. Ail ran y gair 'pleidlais' sy'n bwysig."
Gwrhydri Cymreig Mae sawl achlysur yn ystod blwyddyn Rhywbeth Bob Dydd i ymhyfrydu mewn rhyw wrhydri neu hynodrwydd Cymreig neu'i gilydd.
Rhagfyr 20, er enghraifft, yn ddiwrnod geni Elizabeth Morgan (1843) yn Aberhonddu "y ferch gyntaf i ennill gradd mewn meddygaeth mewn prifysgol yn Ewrop" a meddyg benywaidd gyntaf Cymru!
Mewn maes arall, ar Dachwedd 13 (1923) y ganwyd p锚l-droediwr a ddisgrifiwyd gan Syr Stanley Matthews fel "y chwaraewr mwyaf dawnus ac anodd ei guro y deuthum wyneb yn wyneb ag o" - Alf Sherwood o Aberaman.
Ydi, mae'r detholiad yn amrywiol ond, wrth gwrs, gyda llyfr o'r fath, bydd pob darllenydd yn sylwi ar rhyw fwlch neu'i gilydd - ac fe fyddan nhw wrth eu boddau gydag awgrym Hafina Clwyd ar raglen deledu yn ddiweddar y gallai cyfrol arall debyg gael ei chywain.
Da hynny.
Yn y cyfamser bydd y gyfrol hon o fendith beunyddiol nid yn unig i borwyr diamcan ond hefyd i bapurau newydd ac i ymchwilwyr radio a theledu.
Gobeithio y caiff y llyfr a'i awdur y gydnabyddiaeth haeddiannol.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|