|
Ffiniau 'Sylweddol' ymhob ystyr
Adolygiad Vaughan Hughes o Ffiniau. Myfyrdod Athronyddol ar Lenyddiaeth gan Dewi Z. Phillips. Y Lolfa. 拢19.95.
Pan ofynnwyd imi adolygu'r gyfrol hon protestiais nad oeddwn i'n gymwys i gloriannu gwaith athronydd sy'n awdur cryn 24 o gyfrolau cyhoeddedig, bob un ond tair ohonyn nhw, gyda llaw, yn y Saesneg.
Mae teitlau rhai o'r cyfrolau'n ddigon i godi ofn ar y mwyafrif ohonom - The Problem of Evil and the Problem of God neu Religion and the Hermeneutis of Contemplation.
Tystiodd Hywel Teifi Edwards mewn erthygl yn Barn bod Saesneg ysgrifenedig yn dod yn haws na'r Gymraeg i Dewi Z. Phillips.
Mae'n deyrnged, felly, i Hywel ac i gyfeillion eraill a grybwyllir yn y rhagair am roi sglein ar iaith a mynegiant y gyfrol .
Mae'r cyfan, bron, yn darllen yn rhwydd a naturiol.
Ydi, o safbwynt arddull, dealler.
Nid "rhwydd" ydi'r gair priodol, fodd bynnag, i ddisgrifio astrusi'r syniadau a fynegir yma. Ddim ar unrhyw gyfrif.
Ond mewn maes sy'n ddrwgenwog am orddefnyddio jargon, mae Dewi Z yn wynfydedig ddieuog o hynny.
Y 'Z' yna A chyn mynd dim pellach, rhaid esbonio beth oedd yr ecsotig Z yn ei enw yn ei chynrychioli. Chewch chi mo'r ateb yn y gyfrol hon. Chewch chi mo'r ateb chwaith, gresyn hynny, yn y Cydymaith, sy'n ei anwybyddu. Ond ei enw canol oedd Zephaniah.
Perswadiwyd fi i fynd i'r afael 芒 Ffiniau ar 么l i gomisiynydd adolygiadau'r wefan hon fy sicrhau ei fod o'n gwybod o'r gorau nad oeddwn i'n athronydd.
Dyna'r union reswm , esboniodd, pam ei fod yn gofyn yn y lle cyntaf i mi adolygu'r gyfrol hon! Onid oeddwn i, holai'n rhethregol, yn ddarllenwr brwd?
Y cyfan roedd o angen imi ei wneud oedd mynd drwy gyfrol olaf y diweddar Dewi Z. Phillips 芒 chrib m芒n gan ateb un cwestiwn: a fu myfyrdodau'r athronydd yn gyfrwng i ddwysau ai peidio fy ngwerthfawrogiad o weithiau'r ffigyrau llenyddol dan sylw?
Dyna'r "cyfan", sylwer!
Ymhlith yr awduron a drafodir mae T.H Parry-Williams, Kate Roberts, Gwenallt, Waldo, R.S Thomas, Dic Jones a Gerallt Lloyd Owen.
Y lluniau' Afraid dweud bod hon yn gyfrol sylweddol ymhob ystyr i'r gair. O ran trwch, gan gynnwys y mynegai, a 14 tudalen o ffotogrffau, mae hi'n gyfrol o 348 tudalen .
Ond bylchog ydi'r mynegai. Yn eironig, mae'r athronydd J.R Jones o bawb yn absennol o'r mynegai. Och a gwae.
Yn achos y ffotograffau, symol ydi eu safon nhw. Mae'n od fod gwell graen ar luniau Islwyn,1832-78 ( nid Ffowc Elis) a Tennyson, tasa hi'n dod i hynny, nag sydd ar luniau r Archdderwydd Dic Jones a'r Archesgob Rowan Williams.
Doedd dim rhaid iddi fod felly.
Yn y bon, mae'r gyfrol hardd hon yn ail bobiad o ysgrifau a ymddangosodd yn eu ffurf gwreiddiol yn Y Tyst, Y Traethodydd ac Efrydiau Atrhronyddol, rhwng 1972 a 2001.
Yn 么l yr awdur, ei ysgrif ar Kate Roberts ydi'r unig un a ailgyhoeddir yn ei chrynswth, heb ei diwygio.
Balch drybeilig Bydd rheini ohonom a ddiflaswyd ers oes pys gan feirniadaeth lenyddol Bobi Jones yn falch drybeilig o weld Dewi Z yn mynd ati i herio'r modd mae Calfiniaeth Bobi wedi peri iddo gyfeiliorni - yn ein barn ni - ynglyn 芒 natur a phwrpas llenyddiaeth.
Fe wn am laweroedd o ysgolheigion, hyd yn oed, sydd wedi rhoi'r gorau i'w ddarllen ers tro byd.
Ond darllen Bobi Jones a'i ddarllen yn drwyadl wnaeth yr athronydd cyn mynd ati'n bwyllog a rhesymol, heb ymfflamychu na rhethregu, i'w danseilio.
Yma mae'r ymdriniaeth o waith Beckett yn gyffredinol, ac Wrth Aros Godot yn benodol, yn ardderchog. Ond cyfaddefa'r athronydd pa mor anodd ydi dal pen rheswm efo Calfin.
脗 fflach o hiwmor direidus mae Dewi Z Phillips ar un adeg yn dweud bod dadlau efo Bobi Jones fel dadlau efo'r Ysbryd Gl芒n - yn yr ystyr bod Bobi'n ymarweddu fel llefarydd swyddogol yr Ysbryd Gl芒n.
T H Parry-Williams Ond os ydi credu'n peri anawsterau, dydi anghrediniaeth ddim yn rhwydd chwaith a dyna fan cychwyn ymdriniaeth yr athronydd o gerddi ac ysgrifau T.H Parry-Williams, ffefryn cynifer o ddarllenwyr, minnau yn eu plith.
Fedra i ddim haeru fod ei ymdriniaeth wedi peri imi edrych o'r newydd ar waith TH ond roedd o'n ddifyr dros ben.
Ar y cychwyn gosodir y cwestiwn, ai crediniwr neu anghrediniwr oedd y bardd, y llenor a'r ysgolhaig o Ryd-Ddu? Ateb yr athronydd ydi nad oedd o'n grediniwr nac anghrediniwr chwaith. Cop out, meddech chi? Ddim o gwbl, dadleua Dewi Z gan ein hatgoffa bod TH yn ei ddisgrifio ei hun fel:
Yr estron brith na all hyd ben ei daith Ymhonni'n Bagan nac yn Gristion chwaith.
Kate Roberts Uchafbwynt y gyrfol gyfan i mi, fodd bynnag, ydi'r ymdriniaeth feistrolgar o Traed mewn Cyffion, ac yn sg卯l y nofel honno, y modd mae Dewi Z Phillips yn mynd i'r afael 芒 holl ethos a meddylfryd Kate Roberts.
Cafodd ei ddweud o'r blaen gan feirniaid llenyddol, a'i ddweud hefyd gan yr awdures ei hun, nad pobol grefyddol oedd pobol Rhosgadfan ei phlentyndod er eu bod nhw'n gapelwyr selog.
Neu yng ngeiriau Dr Kate ei hun: "Paganiaid yw'r mwyafrif ohonynt wrth reddf ond eu bod yn mynd i'r capel o ran arfer."
Gan gydio yn y disgrifiad hwnnw mae Dewi Z Phillips yn mynd ati'n orchestol i drafod caledi bywyd mewn cymdeithas chwarelyddol uniaith Gymraeg yn y blynyddoedd cyn ac yn ystod y Rhyfel Mawr.
Dengys sut mae tlodi materol yn achosi tlodi ysbrydol a theimladol. Ymdrinir yn ardderchog 芒'r nofel gyfan gan gymharu'r prif gymeriad , Jane Gruffydd, yn annisgwyl ond nid yn gwbl ffans茂ol, ag Iago Prytherech, alter ego R S Thomas.
Y deyrnged bennaf y gallaf ei thalu i'r gyfrol hon ac i goffawdwriaeth Dewi Z Phillips ydi ei fod o wedi f'ysgogi'n syth, ar 么l gorffen yr adolygiad hwn, i fynd ati eto i ddarllen Traed mewn Cyffion.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|