麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Bro a Bywyd Gwynfor Evans
Urddas mewn slipars!
  • Adolygiad John Stevenson o Bro a Bywyd: Gwynfor Evans. Golygydd: Peter Hughes Griffiths. Cyhoeddiadau Barddas. 拢11.95.



  • Mae'r rhan fwyaf ohonom yn berchen albwm teulu.

    Y gyfrol drwchus sy'n llawn trysorau ffotograffig ac yn cael ei chadw fel arfer yn y seidboard.
    Albwm sydd gan amlaf o diddordeb i neb y tu allan i'r cylch teuluol.

    Lluniau du a gwyn o briodas Nain a Taid. Trip Ysgol Sul i'r Marine Lake yn Y Rhyl gydag Wncl Willie yn ei het gowboi Kiss Me Quick yn llyfu candi fflos.

    Tad a'i deulu dedwydd Lluniau o'r teulu o amgylch y bwrdd cinio Dolig a pawb yn chwerthin o weld llygaid-croes Anti Jini ar 么l iddi gael diferyn bach yn ormod o sherry trifle.

    "A hithau'n cymeryd arni bod yn ddynas mor sid锚t," meddai pawb!

    Cyfrol yn yr olyniaeth honno yw y gyfrol hon. Albwm sy'n cofnodi hynt a helynt y ddau deulu oedd mor bwysig i'r diweddar Gwynfor Evans.

    Dau deulu?
    Wel ie.
    Teulu'r Evansiaid oedd yn cynnwys rhieni a rhieni yng nghyfraith Gwynfor Evans yn ogystal a'i wraig a'i blant; yr wyrion a'r wyresau a'r holl berthnasau oedd yn rhan o wead y teulu.

    Yna'r teulu arall, y teulu estynedig cenedlaetholgar ar hyd a lled Cymru, oedd yn ystyried Gwynfor Evans fel y Penteulu.

    Beth hoffwn i ei weld mewn cyfrol fel hon fyddai lluniau sy'n dangos y lleddf a'r llon, y dyfnderoedd yn ogystal a'r uchafbwyntiau.

    Fel arfer, yr unig dro mae rhywun yn cael gweld y tu 么l i'r llen o breifatrwydd mae gan wleidyddion yr hawl i'w dynnu er mwyn gwarchod eu teulu, ydi pan fo sgandal ar fin torri.

    Yn y gyfrol hon mae na nifer o luniau o Gwynfor Evans 'y dyn cyhoeddus'.

    Hwyl teuluol Mae yna hefyd swmp o luniau cynnes yn dangos 'y dyn ei hun' - y g诺r, y tad, y tad-cu.

    Lluniau ohono gyda'i wraig, ei blant, ei wyrion a'i wyresau.

    Mae dyn bron 芒 theimlo'n euog wrth edrych ar y lluniau personol hyn o Gwynfor Evans gyda'i deulu ar y garreg aelwyd, gan deimlo iddo groesi'r ffin rhwng y preifat a'r cyhoeddus.

    Ond mae'n hawdd gweld o'r lluniau preifat hyn mai carreg yr aelwyd oedd y 'canol llonydd' ym mywyd prysur y g诺r o Langadog.

    Rhannwyd y gyfrol yn drefnus:
    'Cyfnod Coleg'
    'Priodi a Phrifo'n Arweinydd'
    'Teulu'r Dalar Wen'
    'Yr Iaith'
    'Radio a Sianel Deledu Gymraeg'
    'Llysgennad ar Grwydr'
    a llawer mwy.

    Dyma'r g诺r a safodd 13 o weithiau fel ymgeisydd seneddol dros ei Blaid.

    Y g诺r fu'n Llwydd Undeb yr Annibynwyr; yn aelod o Gyngor Sir Caerfyrddin ac a aeth yn rhan o ddirpwyaeth i Gambodia yn ystod Rhyfel Vietnam a chael ei ddilorni am wneud hynny.

    Y g诺r ddaru fygwth ymprydio hyd angau, i gael y llywodraeth Dor茂aidd i newid ei meddwl am Sianel Gymraeg.

    Y g诺r 芒 ddyfarnwyd yn 'Greatest Living Welsh Statesman' mewn p么l ymhlith darllenwyr y Western Mail.

    Pleser y gyfrol hon yw'r lluniau, llawer ohonynt o gasgliad personol y teulu.

    Ac wrth gwrs, lluniau yw'r rhain a dynnwyd heb unrhyw fwriad i neb ond y teulu eu gweld.

    Y peth a'm trawodd i wrth fynd drwy'r gasgliad oedd i Gwynfor Evans, hyd yn oed wrth chwarae a chlownio gyda'i wyrion, wneud hynny heb golli urddas.

    Yn union fel y dywedodd yr Arglwydd Elis Thomas amdano mewn ysgrif sy'n cael ei dyfynnu yn y gyfrol:

    "Gosododd urddas digymar ar ein bywyd cyhoeddus yn genedlaethol a rhyngwladol."

    Criced yn yr ardd Mae'n gwbl deg dweud fod Gwynfor Evans yn raenus ac urddasol - hyd yn oed yn gwisgo ei slipars!

    Mae newyddiadurwyr a haneswyr y Gymru Gymraeg wedi bod yn hynod barchus hyd yma o gyfraniad Gwynfor Evans i hanes Cymru yn yr ugeinfed ganrif.
    Ef i lawer yw Nelson Mandela Cymru ac mae'n hawdd deall pam.

    Mae pawb ohonom wrth fodio drwy'r albwm teulu yn anorfod yn hel atgofion cynnes am anwyliaid.

    Ond mae perygl inni fod yn rhy agos i fod yn gwbwl wrthrychol - a dyna berygl y gyfrol hon - yn arbennig gyda'r nodiadau sy'n egluro'r lluniau. Ond dydi'r gyfrol ddim yn smalio bod yn ymgais ddiduedd a gwaith newyddiadurwyr a haneswyr y dyfodol, felly, fydd pwyso a chloriannu'n wrthrychol.

    Yn y cyfamser mae hon yn gyfrol i'w chroesawu fel un deilwng yn y gyfres Bro a Bywyd.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy