麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Dyn Handi
Nofel gan gymeriad teledu
  • Adolygiad Glyn Jones o Y Dyn Handi gan Si么n White a Catrin Dafydd. Lolfa.拢6.95.

  • Nofel wedi ei sgrifennu gan un o gymeriadau y gyfres deledu, Pobol y Cwm


    Fe glywsom ni Gymry diwylliedig am nofelau'n cael eu troi yn rhaglenni teledu ers tro. Clywsom hefyd am weithiau llenyddol yn esgor ar waith llenyddol newydd.

    Ond beth am gymeriad rhaglen deledu yn rhoi bod i nofel?

    Gyda chyhoeddi Y Dyn Handigallwn frolio ein bod yn gwybod am hynny nawr. Trowch at glawr cefn y llyfr ac mi welwch am beth rwy'n s么n. Mae'r awdur yn cael ei ddisgrifio fel Si么n White, cyfieithydd o Gwmderi.

    Clawr y llyfr Bydd unrhyw un o selogion Pobl y Cwm yn gwybod fod y g诺r hwn wedi sgrifennu nofel.

    Ond sut ymddangosodd y llyfr dychmygol hwnnw ar silffoedd ein siopau llyfrau?

    Yr ateb yw dychymyg y llenor ifanc o Shir G芒r, Catrin Dafydd.

    Cafodd ei nofel gyntaf, Pili Pala ei chanmol am ei gwreiddioldeb a'i huchelgais. Mae'r nodweddion hyn i'w gweld yn y syniad a gafodd ar gyfer ei hail nofel Gymraeg trwy iddi sgrifennu nofel Si么n White, go iawn, a'i rhoi gerbron darllenwyr Cymru.

    Newydd
    Gellid dadlau fod y nofel yn cyflwyno genre newydd i lenyddiaeth Gymraeg, genre 'Ffuglen Cefnogwyr' fodern; 'Fan Fiction' yn yr iaith fain. Dyma ddiffiniad Rainbow Press o'r term:

    "Ffuglen . . . wedi'i hysgrifennu gan gefnogwyr ac wedi ei seilio ar eu hoff raglenni teledu."

    Mae'n amlwg fod Pobl y Cwm yn hoff raglen deledu i lawer! Dewisodd y Cyngor Llyfrau Y Dyn Handi yn nofel y mis ar gyfer mis Awst 2008 ac mae hi'n ail ar y rhestr o lyfrau a werthodd orau yng Ngorffennaf.

    Roedd y disgwyliadau'n uchel. Ond a gawson nhw eu gwireddu?

    Nid opera sebon
    Yn ddiddorol, nid opera sebon o nofel yw hon. Warren, y prif gymeriad sy'n hawlio'r llwyfan, ac o'i amgylch ef y mae'r naratif yn troi.

    Mae tair prif elfen iddi.
    Y gyntaf yw trionglau serch.
    Rhain sy'n rhoi'r elfen ddramatig i'r nofel. Rydym yn dal ein gwynt pan gaiff Warren ei hun yn sownd mewn cornel ac yn rhoi ochenaid o ryddhad wrth iddo lithro ohoni.

    Gwaetha'r modd, credaf bod y trionglau hyn ychydig yn rhy niferus ac i'r awdur danseilio'r stori trwy eu cymryd yn rhy ysgafn ar adegau. Wedi'r cyfan, does dim yn ysgafn am serch!

    Yr ail elfen storiol yw helyntion Cwmni Carcus Cyf a'r rhain sy'n dod 芒 gw锚n i'n hwynebau.

    Ond eto, mae'r rhain hefyd yn tueddu i lithro i bwll y digwyddiadau stoc.

    Mae gyrru i'r siop anifeiliad anwes i brynu ci sydd yr un fath a'r un a laddwyd gennych, heb yn wybod i'r perchenog, yn stori cyn hyned 芒 phechod!

    Dwys
    Y drydedd elfen a'r fwyaf crefftus, efallai, yw'r golygfeydd dwys sydd ymhleth a'r rhai digri. Dyna'r benod gyntaf sy'n gorffen yn annisgwyl gydag atgofion yn dod i bryfocio Warren:

    " . . . rhoddodd gusan cyflym i'r llun cyn ei wthio o dan y glustog arall. Cwrlodd yn belen, ei ddwylo brwnt yn cydio'n dynn yn y glustog, a chysgu."

    Nid dyma'r Warren y darllenasom amdano yn Nh欧'n Graig ac mae'r awdur wedi mynd 芒 ni i mewn i'w feddwl. Nid ydym yn ei gollfarnu am fod yn hen gi. I'r gwrthwyneb, rydym yn cydymdeimlo ag o.

    Y cymeriadu yw rhagoriaeth y nofel. Gallwn wneud llun meddyliol manwl o bron bob un a hynny oherwydd bod yr awdur, fel pob llenor gwerth ei halen, yn gadael i'r cymeriadau ddisgrifio eu hunain.
    Dim ond un math o berson a fyddai'n galw ei chi yn 'William Eithin' er enghraifft!

    Cymraeg cyfoethog
    Rhaid canmol yr awdures hefyd am ei Chymraeg cyfoethog a naturiol a chredaf ei bod wedi dal tafodiaeth 'Cwmderi' yn well na sgwenwyr Pobl y Cwm ei hun hyd yn oed. Clywch y llinell hon.
    " . . . a dyw e'r Doc ddim yn dod gatre tan marce naw unrhyw noson."

    Dengys hefyd nad oes raid stwffio Saesneg a rhegi i gegau cymeriadau i'w gwneud yn werinol. Ei dull hi yw dangos y gwahaniaeth rhwng y dosbarthiadau mewn ffordd uniongyrchol. Dyna linell bryfoclyd Bev:

    "Sdim ishe cymysgu gyda'r siort 'na. Y siort sy'n watsio Pobl y Cwm."

    Mae'r sylw metaffuglenol hwn yn codi cwestiwn pwysig. Ai'r dosbarth canol Cymraeg sy'n gwylio operau sebon Cymraeg, tra bo'r rhai Saesneg yn cael eu gwylio gan y dosbarth gweithiol?

    Os gwir hynny, fel y credaf ei fod, ni allaf beidio 芒 theimlo nad yw'r nofel yn gweddu i'r gynulleidfa a fyddai'n ei darllen.

    Ymhellach, er nad wy'n un o selogion Pobl y Cwm, nid wy'n teimlo fod y nofel yn darllen fel un a sgrifennwyd gan S卯on White.
    A fydd eraill yn cytuno?
    Dim ond amser a ddengys.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Gwefan Pobol y cwm


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy