|
Cythrel Cerdd Straeon difyr a dywediadau bachog a brathog
Adolygiad Glyn Evans o Cythrel Cerdd Anectodau o fyd cerdd gan Alwyn Humphreys. Lolfa 拢7.95.
Mae llyfrau fel hwn yn niferus ac yn boblogaidd ym mhob rhyw faes yn y Saesneg. Hawdd iawn fyddai bod yn berchen cypyrddiad da o lyfrau tebyg yn llawn straeon a dywediadau bachog ym mhob rhyw faes o b锚l-droed i'r theatr.
Am ryw reswm maen nhw'n brinnach pethau yn y Gymraeg er bod yr anecdot yn ffurf digon poblogaidd mewn cyfnodolion a chylchgronau ddyddiau fu.
Mae sawl blwyddyn ers i'r Lolfa gyhoeddi casgliad o Anectodau Llenyddol gan Elwyn Ioan er enghraifft ac mae cryn lawer o flynyddoedd - fel yr awgryma ei deitl - ers cyhoeddi Hynodion Hen Bregethwyr Cymru gydag Hanesion Difyrus am Danynt gan - wel, ni ddywedir. Arwyddwyd nodyn at y darllenydd 芒'r geiriau "Yr Awdur" yn unig!
Ta beth, roedd hwnnw'n llyfr o 388 o ddalennau .
Cyfrol denau mewn cymhariaeth yw Cythrel Cerdd ond yn un drwchus o ran difyrrwch serch hynny.
Gwybod am Gymru Edrychwn ymlaen at bori ynddi pe na byddai ond am y ffaith y cawn yn hon straeon na fyddai'n cyrraedd cyfrol Saesneg debyg gan fod yr awdur yn gwbl gyfarwydd 芒'n byd cerdd ni.
Ac y mae yma anectodau am Elin Manahan Thomas, R S Hughes ac Arwel Hughes er enghraifft ac adran 芒'r pennawd Eisteddfodau.
Ond yn anffodus canran fechan o'r cynnwys sydd 芒'r cyffyrddiadau Cymreig y gobeithiwn amdanynt - fel yr wybodaeth mai yn ystod gwyliau yng Nghastell Llandochau ger y Bontfaen y cyfansoddodd y cyfansoddwr Ffrengig Faur茅 ei Nocturne Rhif 7.
Yn wir, dim ond un stori sydd yna dan y pennawd "Eisteddfodau" - Arweinydd eisteddfod bentref heb gyfeilydd yn gwneud cais o'r llwyfan; "Oes 'na rywun yma all chwarae 'Merch y Morwr?" a Llais o'r cefn yn ymateb, "Faint ydi hoed hi?"
Gystal stori ag ydi hi fe fyddai hi'n well o gael rhai eraill i gadw cwmni iddi!
Yn synnu Un stori sydd yna dan Corau meibion hefyd sydd yn synnu rhywun braidd o gofio cysylltiad cyfoethog yr awdur a'r maes hwnnw.
Ond mae'r cyfraniadau Cymreig prin yn ddieithriad yn flasus fel y stori am y cyfansoddwr R S Hughes yn cyfeilio ar yr organ mewn cyngerdd mawreddog mewn capel ym Methesda, Dyffryn Ogwen.
O weld bod cryn amser cyn y byddai ei angen enciliodd i dafarn gyferbyn i ladd amser gan siarsio bachgen i ddod i'w gyrchuo fewn dwy eitem i ddatgania d yr organydd.
Ond pan ddaeth yr amser gwelodd y bachgen fod R S Hughes yn feddw gaib a bron 芒 methu sefyll ar ei draed.
"Yn rhyfeddol, fe lusgodd y bachgen y cerddor ar draws y ffordd i gefn y capel, wedyn i fyny'r grisiau at yr organ, a oedd, yn ffodus yn guddiedig oddi wrth y gynulleidfa y tu 么l i lenni trwchus.
"Pan gyhoeddodd y gweinidog mai'r eitem nesaf oedd datganiad gan organydd y capel o'r 'Hallelujah Chorus' gan Handel cododd y bachgen ddwylo'r datgeinydd ar yr allweddell a sibrwd yn ei glust, 'Rwan'.
"Gyda'i lygaid ynghau fe ddechreuodd R S Hughes ar ei berfformiad - gan chwarae'r darn yn berffaith!"
Cath-edral
Stori dda arall yw yr un am y soprano Elin Mahanan Thomas yn canu mewn cyngerdd yng Nghadeirlan Caer-Wysg .
"Ymddangosodd cath oren, fawr, dew ac ymlwybro heibio'r allor. Ar 么l crwydro'n hamddenol fe setlodd yn y diwedd wrth draed Elin, codi ei choes a llyfu ei hun o flaen y gynulleidfa, a hwythau yn eu dyblau'n chwerthin."
Pethau prin Ond gemau prin yw'r straeon Cymreig o'r fath.
Mae yma fwy o gyfeiriadau at Syr Thomas Beecham, er enghraifft, nag at unrhyw Gymro. Gellir deall pam; yr oedd yn gymeriad ffraeth gyda llu o straeon amdano. Ond mae'r rhan fwyaf o'r rheini eisoes wedi eu cyhoeddi mewn cyfrolau Saesneg.
Yr un modd straeon am gyfansoddwyr mawr y byd fel Mozart, Handel ac yn y blaen.
Oll yn ddifyr ac yn flasus iawn ond heb fod yn arbennig i'r gyfrol hon.
Hoffwn i ddim cael fy nghyhuddo o fod yn fewnblyg neu ynysig wrth gwyno fel hyn ac nid dweud y mae rhywun nad yw straeon am Beethoven a Bach ac yn y blaen o ddiddordeb i Gymro ond gofidio i gyfle gael ei golli i'n difyrru 芒 rhagor o straeon Cymreig gan nad yw y rhai hynny ar gof a chadw'n barod mewn lleoedd eraill.
Atebion parod Wedi dweud hynny, eitemau a hoffais i oedd y straeon ateb parod fel yr un am George Bernard Shaw yn dweud wrth wraig bod feiolinydd yr oedden nhw'n gwrando arno yn ei atgoffa o Paderewski.
Y wraig yn ymateb: "Ond dydy Paderewski ddim yn feiolinydd" a Shaw yn ateb:
"Dydy hwn ddim chwaith."
Dywediadau bachog
Mae'r gyfrol hefyd yn disgleirio o ddywediadau bachog:
Meddai Andr茅s Segovia: "Dwi wedi cael tair gwraig a thair git芒r. Dwi'n dal i chwarae'r git芒rs." Dihareb Eidalaidd: "Duw a'm gwaredo rhag cymydog gwael a rhywun sydd newydd ddechrau chwarae'r ffidil." Malcolm Williamson am Andrew Lloyd Webber: "Mae ei fiwsig ym mhobman - ond mae hynny'n wir am AIDS hefyd." Stravinsky: "Mae gormod o ddarnau cerddoriaeth yn dod i ben ar 么l y diwedd." Pablo Casals; "Ymddeoliad yw dechrau marwolaeth." John Erskine am gerddoriaeth: "Miwsig ydi'r unig iaith lle na ellir mynegi unrhyw beth gwael na sarhaus ynddi."
Ed Gardner am opera: "Opera ydi rhywbeth lle mae dyn yn cael ei drywanu yn ei gefn ac yn lle gwaedu, mae'n canu."
Ffeithiau annisgwyl Droeon eraill mae gan y gyfrol ffeithiau annisgwyl o ddifyr i'w datgelu ac yn achos Peter Warlock cyfunir y cyffredinol a'r Cymreig.
Bu'n byw yn Sir Drefaldwyn am gyfnodau.
"Roedd wrth ei fodd yn cerdded rhyw 50 i 60 milltir y dydd o gwmpas yr ardal ond ymysg ei ddiddordebau eraill yr oedd cadw nifer o gathod o fridiau prin, dawnsio Rwsiaidd mewn gorsafoedd rheilffordd, a gyrru moto-beics yn borcyn!"
Testun dirmyg
Diddorol hefyd yw canfod mai chwaraewyr fiola yw 'j么cs cerddorol ac yn cael eu hystyried yn destun gwawd fel y Gwyddel druan mewn j么cs Seisnig a'r Pwyliaid mewn j么cs Americanaidd.
Er enghraifft: Beth yw'r gwahaniaeth rhwng fiola a nionyn?
Does neb yn crio wrth dorri fiola. Sut mae sicrhau na wnaiff eich ffidil gael ei dwyn?
Rhowch hi mewn cas fiola. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng arch a chas fiola?
Efo'r arch, mae'r person marw oddi mewn.
贰苍肠么谤? Rhwng popeth, croeso sydd yna i gyfrol Alwyn Humphreys a ddywedodd adeg ei chyhoeddi: "Ychydig iawn o'r llyfrau cerdd uchel-ael sy'n nodi bod Bach a Beethoven wedi bod yn y carchar, a bod Brahms yn caru gwraig ei ffrind pennaf!"
Ac mewn briwsion o'r fath y mae ap锚l hon.
Casglwyd nifer o'r stor茂au gyda llaw ar gyfer ei raglen radio Cywair ar foreau Sul dros gyfnod o 17 o flynyddoedd.
Bydded enc么r buan.
Cysylltiadau Perthnasol
Hunangofiant Alwyn Humphreys
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|