|
Nawr Cyfrol o waelodion a dyfnderoedd
Adolygiad Meg Elis o Nawr gan T. James Jones. Cyhoeddiadau Barddas. 拢6.00.
"Diwaelod yw dy deulu" meddai Myrddin ap Dafydd wrth gyfarch un ohonyn nhw - Tudur Dylan, dwi'n meddwl ond fe allasai fod ei dad neu un o'i ddau ewythr, a dwi'n si诺r fod yna genhedlaeth nesa, felly watsiwch eich hun 'mhen rhyw ugain mlynedd. . .
Achos gorfoledd yw'r olyniaeth hon, gyda llaw, nid achos cecru am fod tad yn dilyn mab a llawer o'r un teulu yn dilyn yr un proffesiwn.
Mae'n beth cyffredin, a dweud y gwir, yn y cyfryngau, meddygaeth, y weinidogaeth - pob galwedigaeth a dweud y gwir - o ie, ac ym mhroffesiwn 'sanctaidd' y glowyr hefyd, nes i rai coliers benderfynu eu bod am wneud rhywbeth call, ac addysgu eu meibion fel na fydden nhw'n gorfod mynd i waith brwnt, peryglus y pwll...
Ond dwi'n pregethu. Peth nad yw Jim Jones yn ei wneud yn y gyfrol hon.
Teuluoedd Dwi'n crybwyll teuluoedd - ac yn sicr, mae'n gwneud hynny hefyd, yn gyfoethog orawenus yn y gyfrol hon - a pham lai? Mae'n rhan o'r job.
Dyna mae bardd i fod i'w wneud - a phob clod i'r beirdd a wnaeth hynny yn gymdeithasol ac yn ddidramgwydd dros y degawdau, hyd yn oed os oeddan nhw hytrach yn ddiawen yn gwneud hynny.
Ond gyda'r teulu diwaelod hwn, gallwch ddisgwyl mwy - a dyna a gewch. Mae'r cerddi dathlu i briodasau yn hwyliog, yn ffraeth, yn grefftus ac yn orfoledd - felly hefyd y cerddi i groesawu'r genhedlaeth nesaf.
Wrth gwrs ei fod o'n croesawu ei wyrion, ac yn dwli arnynt - on'd ydi pawb?
Ond dyma fardd sy'n gallu cysylltu dyfodiad y genhedlaeth nesaf 芒'r cenedlaethau a fu - ac yn gwneud hynny'n loyw. Mae'n croesawu Mathew Macsen - ac yn gweld ei olyniaeth.
Mae'n cyfarch Gruffydd ab Owain ac yn crybwyll Traeth Lafan a'r tywysogion fu yno cyn bod y bychan.
Mae yma fwy na chanu cymdeithasol, er nad yw'r cerddi fyth yn colli eu hagosatrwydd teuluol.
Canu cymdeithasol, ie, ond i gymdeithas a thylwyth ehangach.
Marwnadu Ac yn anorfod, rhan arall o "yst芒d bardd" oedd marwnadu a does dim disgwyl i fardd awdl ysgytwol Y Ffin anwybyddu'r ochr honno o'i swyddogaeth, chwaith.
Mae'r awdl fuddugol yma, wrth gwrs, a hynny'n ddigon o gyfiawnhad i'r gyfrol ar ei phen ei hun - ond mae'r cerddi byrion hefyd yn taro i'r byw.
Myfyrdod yw'r Ffin gan rywun sy'n ddigon dewr i wynebu henaint ac sy'n anffasiynol ymwybodol fod marwolaeth yn rhwym o ddigwydd ac nad oes na thechnoleg nac ideoleg all ei ddileu.
Mae'r un ymwybyddiaeth yn sail i gerddi byrion megis y delyneg Harmoni ac, wrth drafod math gwahanol o angau, yn Colli Tafodiaith, sy'n gwneud i'r darllenydd sylweddoli nad anwyliaid o gig a gwaed yn unig sydd yn diflannu "i'r dwnshwn du".
Cyfieithu Dylan Diwaelod yw dawn y bardd arbennig hwn, hefyd - hyd yn oed mewn cyfieithiadau, a hynny o waith y bardd mwyaf anghyfieithiadwy hwnnw, Dylan Thomas. Ond mae T. James Jones yn llwyddo yma eto - ac yn llwyddo i ychwanegu at y cyfoeth.
Does ond rhaid edrych ar ddiwedd ei gyfieithiad o Fern Hill, a gweld "in the mercy of his means" yn troi'n "yn nhrugaredd ei drugareddau" i ddeall hynny.
Mae'n gallu raligampio gyda'r goreuon - ac yn dwysfyfyrio hefyd fel yn "Wrth bwy y llefaraf?" - un o'r cerddi twyllodrus syml y talai i bob darllenydd oedi gyda hi.
Oes, mae yma waelodion - a dyfnderoedd.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|