| |
|
|
|
|
|
|
|
Hiwmor Llafar Gwlad Mwynhad mawr o grwyn banana geiriol
Adolygiad Glyn Evans o Hiwmor Llafar Gwlad. Golygydd, Myrddin ap Dafydd. Carreg Gwalch. 拢8.50.
Rhoddwyd cryn sylw yn ystod gwanwyn 2008 i'r ffaith fod cylchgrawn Llafar Gwlad wedi cyrraedd ei ganfed rhifyn.
Fel rhan o'r dathliadau hynny y cyhoeddwyd y llyfr hwn - sef casgliad o straeon digri a throeon trwstan geiriol ymhlith plant ac oedolion.
Mae'r rhai hynny ohonom sy'n cofio Trysorfa'r Plant yn cyrraedd aelwydydd Presbyteraidd y wlad yn cofio hefyd ddalen gefn y cylchgrawn hwnnw o 'Ddiddanion' - tusw o straeon digri - j么cs.
A go brin ei bod yn gyfrinach mai' dyma'r unig ddalen yn yr holl gylchgrawn y byddai nifer sylweddol o blant yn ei darllen.
Bu gan Lafar Gwlad ei 'ddiddanion' hefyd dan deitlau fel Geirio'n Gam, O Enau Plant Bychain ac yn y blaen.
Ac er na fyddwn yn awgrymu am eiliad mai dyma'r unig bethau y byddai darllenwyr yn eu darllen yn y cylchgrawn yr oedden nhw'n si诺r o fod y pethau cyntaf i sawl un eu darllen.
Gan wneud nodyn meddyliol ar 么l darllen, Fod yn rhaid imi gofio honna i'w hailadrodd wrth gyfeillion.
Agor ei geg
Bu Geirio'n Gam yn ffefryn arbennig ac fel y dywedir uwchben y detholiad yn y llyfr hwn mae'n berffaith wir:
"Bob tro mae rhywun yn agor ei geg, mae o mewn peryg o roi ei droed ynddi . . ."
I'r gynulleidfa Gymraeg mae llawer o'r cameirio yn deillio o drosi idiomau'r Gymraeg i'r Saesneg a hynny'n digwydd mewn cymdeithas lle'r oedd y Gymraeg ar ei chryfaf.
Mae sawl enghraifft hefyd o gamddeall neu gamglywed geiriau Saesneg yn null Ifans y Tryc.
Ffermwr, er enghraifft, yn dweud ar 么l i injian ei dractor gael ei thrwsio: "Its noise is all right now."
Ac un arall, wrth feddwl am ehediad y fr芒n; "As the fly crows."
Pethau o'r fath yn rhai a ddigwyddai am mai yn y Gymraeg yr oedd pobl yn meddwl wrth roi eu cegau mewn g锚r ond er mawr ofid, y gwrthwyneb sy'n digwydd amlaf heddiw ac idiom sawl un yn un Saesneg er bod y geiriau'n Gymraeg.
Cymdeithas Gymraeg Go brin y byddai neb heddiw yn ateb o gael cwestiwn sut dywydd fydd hi: "Fat fog on the mountais".
A phan ofynnwyd i rywun a oedd perthynas a fu'n s芒l yn dal yn y gwely; "Yes - but standing on her sitting down" yn drosiad hwylus o "godi ar ei eistedd".
Ambell dro byddai rhoi ynganiad Saesneg i air Cymraeg yn gymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder ieithyddol - fel ag yn achos y dyn a ofynnodd:
"Pass me the tymffyt please."
A rhywun arall a'i fryd ar ddefnyddio clwt llawr yn holi; "Do you have a clyt?"
Un arall, wedi i'w ddillad losgi o fod yn rhy agos i'r t芒n yn eirio yn cwyno, "Mai cl么dds daifd in ffrynt of ddy ffaiar"!
Gall pethau fynd yn wirioneddol fl锚r pan fo rhywun yn baglu dros ddwy iaith fel yr aelod o Heddlu'r Gogledd a ddyfynnir yn rhoi tystiolaeth mewn llys:
"A dyma fo'n dod a thaflu bricsen drwy ffenest y car nes ei malu hi'n symbarins!"
A dim ond rhywun a gafael ar ddwy iaith allai syrthio i'r fagl o ddweud; "heddlu yn ymladd gyda phlismyn"!
Adlewyrchiad o gymdeithas a'r Gymraeg yn naturiol ac yn flaenaf yw amryw, ond nid pob un o'r straeon hyn.
Hen gneuen Wrth gwrs, mae ambell i hen gneuen yma fel s么n am saith yn cael eu "dirywio" gan lys. Y rhyfeddod yw fod hwn yn llithriad sy'n dal i ddigwydd yn y byd go iawn!
Mae'r llyfr hwn o 235 dalen wedi ei rannu yn saith adran i gyd; Straeon a dywediadau doniol gan blant; Cyfieithiadau a chyfarwyddiadau bl锚r; Ffraethineb a rhesymeg Gwyddelig; Ystyron anfwriadol geirio'n gam; Straeon gwir; Dawn dweud ac ateb parod ac yn olaf; Adran Diawl y Wasg - hen, hen, gyfaill i rai ohonom.
Weithiau mae'r deunydd yn gorgyffwrdd gyda'r hawl gan ambell i stori i fyw dan fwy nag un pennawd.
Un peth sy'n sicr, mae hwn yn llyfr erchwyn gwely a fydd yn rhoi oriau lawer o bleser.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|